Plannu'r tatws cynnar, a phlant yn llosgi rhedyn ar y ffriddoedd.
Cefn Trwsgl / Ben Banc. Rhan o ardal tipyn mwy a losgwyd wsos yma, wedi'i weld o'r ardd gefn. |
Arran Pilot ydi'r tatws cynta' i fynd i'r ddaear yma eleni, a hynny yn yr ardd gefn. Bydd dwsin o datws ail-cynnar, Bonnie, yn dilyn y penwythnos nesa, os ga'i gyfle i fynd i'r rhandir. Dwi ddim yn mynd i drafferthu efo tatws diweddar; maen nhw'n ddigon rhad yn y siopau, a gwell gen' i roi'r lle i bwmpenni aballu.
Mae'r Fechan a finna wedi hau ambell i beth arall hefyd dros gyfnod y gwyliau- ffa dringo; ffa melyn; pys; a phethau sydd angen eu dechrau ar ffenest y gegin fel tomatos; pwmpenni; pupur, ac ati.
Hefyd blodau amrywiol, gan gynnwys blodau haul. Mi ges i, a'r ddau daid baced bob un o hadau blodyn haul (Giant Single) mewn cracyrs arbennig a wnaed gan y Pobydd a'r Fechan at y Nadolig, efo'r her o dyfu'r blodyn talaf. Taid Rhiwbach oedd fwya' trefnus, yn hau yn y tŷ gwydr ddechrau Ebrill; Taid Cae Clyd ychydig ddyddiau wedyn; a finna dros y Pasg. Mi fydd yna hen dendio arnyn' nhw, a phawb yn benderfynol o gael ei goroni'n bencampwr!
Rhywbeth arall ges i Dolig oedd casgliad o hadau anarferol (gan y Dyn Eira -traddodiad yng nghartra' fy rhieni, sef anrheg fach ychwanegol ar ôl cinio pan oedden ni'n blant! Ar Ddydd San Steffan erbyn hyn), gan gynnwys pys merllys (asparagus peas) a chiwcymbar lemwn. Cawn weld os ddon' nhw ar ochr y mynydd...
Dwi wedi gosod CCTV o amgylch yr ardd, y tŷ, a'r tŷ gwydr, rhag ofn i'r cyfrinacha' ar sut i dyfu'r blodyn haul mwya gael ei ddwyn gan y gelynion. So bî warnd!!
ReplyDeleteRhy hwyr, dwi wedi bod yno'n barod efo potel o glyphosate....mwa-ha-ha-ha....
Delete