Yn ôl bob dim dwi'n weld ar y we, nid planhigyn sy'n dringo ydi pys merllys.
Mi oedd ein planhigion ni yn dringo.
pys 'merllys' yn dringo'n braf ar y dde, yn y tŷ gwydr |
Roedd y blodau i fod yn goch.
Er yn hardd iawn, nid coch ydi'n blodau ni.
Mae'r pods i fod yn adeiniog a ffrili.
Mae'n pods ni'n debyg iawn i bys cyffredin.
Maen nhw i fod i flasu fel asbaragws.
Tydyn nhw ddim.
Yyymmmm. Rhaid derbyn felly mae rhyw fath o bys cyffredin ydyn nhw! Ar ôl hynna'i gyd. #Siom.
Ta waeth; mae o leia' 2 fideo ar youtube sy'n dweud bod pys merllys yn blasu'n uffernol, a dwi heb weld neb -heblaw'r cwmnïau hadau- yn eu canmol nhw!
Ydych chi wedi eu tyfu nhw erioed? Be oeddach chi'n feddwl?
Mae nhw'n debyg i blanhigyn arall...Canobŷs?
ReplyDelete...sy'n egluro pam bo fi'n giglo ers eu bwyta nhw 'lly...
Delete