Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label lelog. Show all posts
Showing posts with label lelog. Show all posts

24.5.17

Ogla da

Dwi'n medru dilyn fy nhrwyn yn hamddenol o gwmpas yr ardd ar hyn o bryd, a chael llond gwynab o ogla hyfryd bob ychydig lathenni.
 
 Nemesia -planhigyn sy'n byw mewn pot ar y patio, ac yn llenwi'r ardal eistedd efo ogla fanila cryf.

Lelog fach -hyfryd, ac yn blodeuo fel mae'r fanhadlen gyfagos yn gwywo.

Rhosyn mynydd -arogl cynnil ond gwerth ei gael. Yr unig flodyn dwbl sydd yn yr ardd.

 Rhosyn Siapan- persawr arbennig iawn, i ennill maddeuant i blanhigyn sy'n rhedeg i bob cyfeiriad!

 Azalea felen- yn hyfryd am tua tair wythnos. Mewn pot, i'w guddio weddill y flwyddyn!

Coeden fêl oren- 'chydig yn fwy posh na'r bwdleia glas, daeth hwn o doriad gan ffrind.

Mae rhai planhigion wedi gorffen, ac eraill eto i ddod. Melys moes mwy.


10.6.14

Mynd a dod

Dilyn fy nhrwyn yn yr ardd ar droad y rhod.

Digwyddodd, darfu...
Rhai o'r blodau gwanwyn efo ogla' sydd wedi mynd tan y flwyddyn nesa eto:

Lelog fach. Syringa pubescens patula- ogla arbennig dan y lein ddillad!

Azalea felen- Rhododendron luteum -wedi'i chodi o goedwig leol. Llenwodd yr ardd efo arogl hyfryd tra parodd.

Banhadlen. Cytisus praecox, apricot gem. Llwyn bler a heglog, ond yn talu am ei le efo'i bersawr melys.
Rhosyn mynydd- yr unig flodau dwbl sydd acw, yn tyfu o ddarn wedi'i godi o ardd diweddar daid y Pobydd. Ogla cynnil. Rhaid i chi fynd i'w 'nol, ddaw o ddim atoch chi fel y lleill, ond hyfryd serch hynny.

Bob yn ail mae dail yn tyfu...
Yr uchod wedi gorffen, ond digon o bethau eraill i gymryd eu lle. Dyma rai o'r blodau fydd acw am yr wythnosau nesa'.

Clychau'r tylwth teg. Erinus alpinus -blodyn bach alpaidd sy'n hadu i bob man. Codi darn ohono o wal gyfagos dair blynedd yn ol, a channoedd yma bellach! Methu penderfynu os ydi ogla hwn yn ddymunol ta'n ddifrifol!


Coeden fe^l oren. Buddleia globosa- o doriad gan gyfaill. Un arall efo arogl sydd rhwng drwg a da; ond fel ei ch'neithar las, yn wych ar gyfer pryfaid.

Rhosyn siapan. Rosa rugosa. Wedi talu am hwn: peth prin! Ond gamp i chi gynnig enw blodyn efo ogla gwell na fo...

Rhoswydden -Eleagnus quicksilver. O doriad gan y gwas priodas! Miloedd o flodau bach, ac ogla i feddwi rhywun.



15.6.13

Dod at fy nghoed



Pen punt a chynffon dima'
Lelog Califfornia  (Ceonothus)  yn  llawn  blodau  ar  hyn  o  bryd,  ac  yn  drawiadol  o hardd. 
Yn anffodus, dros y blynyddoedd, mae'r llwyn wedi tyfu'n dalach bob blwyddyn, nes fod y blodau'n rhy uchel. O'r ffenest uwchben mae'r olwg orau i'w gael erbyn hyn!

Cwyn arall ydi fod y coesyn yn hir a moel a hyll. Mi sigodd y cwbl llynedd oherwydd y pwysau, ac roeddwn yn gyndyn i'w godi o'r ddaear a'i daflu; dyna pam bod belt oddi ar hen drowsus gwaith yn dal y llwyn yn sownd wrth bostyn i'w gadw ar ei draed!


Mae'r cacwn (bymbl-bis!) wrth eu boddau ymysg y blodau. Daeth y glaw yn ol wsos yma, a disgwyl iddo fynd eto ydan ni gyd rwan..
Mae rhywbeth wedi digwydd ar Blogger yn ddiweddar- am ryw reswm, mae wedi mynd yn amhosib gosod lluniau ar fformat portrait, hynny ydi, yr ochr hiraf ar i fyny, heb iddo ystumio a gwasgu'r llun nes mae o ar fformat landscape. Ymddiheuriadau felly am y llun uchod. Trio cofio peidio troi'r camera fydd y gamp o hyn allan..

Ofergoelion
Mae 'na goeden gelyn yn tyfu ynghanol y gwrych sydd rhwng yr ardd gefn acw, a gardd drws nesa'. Pan symudis i yma, roedd Gwyddel yn byw drws nesa', ac un o'r pethau cynta' ddudodd o oedd 'paid a thorri'r gelynnen, neu bydd melltith a haint arnat ti a dy deulu am byth!'
Dwi'n wyddonydd (mad scientist medda'r plant). Dwi'n ddigon bodlon cerdded o dan ystol, a tydi ddim affliw o ots gen' i pa liw ydi cathod sy'n croesi fy llwybr. Ond! Damia las, mae gen' i ofn y gelynnen yma rwan. Ofn twp ac afresymol, dwi'n gw'bod, ond ofn sydd wedi caniatau i'r goeden dyfu'n fwy na dwi isio iddi dyfu. 

 

Dwi wedi pendroni a thrafod hyn hyd syrffed, ac wedi pwyso a mesur gwyddoniaeth y fath rwtsh. Ers blynyddoedd dwi wedi dod i ryw fath o gyfaddawd yn fy mhen, sef tocio brig y goeden a'i chadw hi'n goeden siapus wedyn. Ond hyd yma: mae hi'n dal yn gyfa'!
Ta waeth, coeden wrywaidd sydd acw, felly tydan ni ddim yn cael aeron yn y gaeaf. 
Mae'n blodeuo bob blwyddyn, ac eleni daeth mwy nac erioed o flodau, felly mae'n cael maddeuant eto dros dro... ond mae'n hen bryd imi gallio a dod at fy nghoed neu mi fydd yn dwyn yr ychydig haul a gawn i gyd.

Er cof am dderwen Pontfadog
Mi ges i gyfle i ymweld a'r dderwen anhygoel hon bum mlynedd yn ol. Mae digon wedi'i ddeud amdani ers iddi ddisgyn fis Ebrill (ee. ar Morfablog) felly wna'i ddim traethu.

Derwen Pontfadog, Ionawr 2008
Digon ydi deud fod rhywun yn teimlo hanes yng nghwmni coeden mor hynafol. Teimlo presenoldeb Owain Gwynedd, a phoblogaeth uniaith Gymraeg gorffennol Dyffryn Ceiriog. Ond hefyd, teimlo tristwch llethol bod cyn lleied o goed Cymru wedi cael byw i oed parchus cyn eu torri at ddibenion dyn..






27.5.12

Gwynfyd Sulgwyn


Mae’r india corn/pys melyn wedi eu plannu ddoe, ond yn edrych yn ddigon truenus. 
Dwi’n amau fod y compost wnes i ddefnyddio i hau pys melyn a ffa Ffrengig yn stwff sâl iawn gan fod y ddau gnwd yma’n gwneud yn ddifrifol o wael. Compost cyffredinol di-fawn ydi o, a broliant gan gwmni 'Which' ar y sach, ond hyd yma, tydi o ddim yn plesio. Unai hynny, neu efallai fod cemegyn neu rywbeth yn y tiwbiau papur lle chwech dwi wedi’u defnyddio, sy’n llesteirio’r tyfiant? O’r 24 hadyn, dim ond 16 eginodd, felly dwi wedi plannu pedair rhes o bedwar, ond dwn ‘im faint dyfith...
Mefusen alpaidd gynta'r flwyddyn. Y Fechan a fi wedi mwynhau hanner bob un!
Tra oeddwn ar y rhandir, bu’n rhaid i mi ddyfrio popeth oherwydd y gwres llethol rydym wedi ei  fwynhau ers dyddiau. Er, roedd digon o leithder yng ngwaelod y gwelyau gan fod dŵr yn sefyll ar y safle.
Mi fues i’n clymu’r pys i gyd i’r cansenni gan eu bod nhw’n dod yn eu blaenau’n dda, a dwi wedi dechrau symud pridd i greu gwely arall. Mi archebais blanhigion marchysgall (globe artichokes) ddeufis yn ôl, ac maen nhw’n cyrraedd wsos yma, felly mae’n rhaid cael lle i’w rhoi nhw!
Bu’n rhaid dyfrio’r ardd gefn hefyd erbyn heddiw, efo’r pethau sydd mewn potiau -llawer mwy na sy’n rhesymol- yn tagu o syched. Dwi’n un drwg am roi planhigion mewn potiau, twbiau, hen grwc a bocsys, nes byddai’n ffeindio lle parhaol iddynt. Ond wrth gwrs does fyth digon o le nagoes!
Roedd neidr ddefaid yn yr ardd heddiw, a honno’n tua 40cm o hyd. Hardd. 
Rydym wedi eu cael yma o’r blaen, ond yn y glaswellt hir yng ngwaelod yr ardd fel arfer. Heddiw roedd yn nes o lawer at y tŷ. Methais a thynnu ei llun heddiw, ond dyma un o’r llynedd,  a’r Fechan wrth ei bodd yn ei hastudio. Mae hon wedi colli ei chynffon yn y gorffennol.


Mae’r ardd yn edrych yn dda rŵan, efo’r lelog Califfornia, Ceonothus,  yn edrych cystal ag y gwnaeth erioed, er gwaethaf iddi sigo yng ngwyntoedd Ebrill, ac amryw o bethau’n ogleuo’n arbennig, fel y lelog, Syringa, a’r rhosyn Siapan, Rosa rugosa.
O na fyddai’n haf o hyd.

Ceonothus