Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.6.14

Mynd a dod

Dilyn fy nhrwyn yn yr ardd ar droad y rhod.

Digwyddodd, darfu...
Rhai o'r blodau gwanwyn efo ogla' sydd wedi mynd tan y flwyddyn nesa eto:

Lelog fach. Syringa pubescens patula- ogla arbennig dan y lein ddillad!

Azalea felen- Rhododendron luteum -wedi'i chodi o goedwig leol. Llenwodd yr ardd efo arogl hyfryd tra parodd.

Banhadlen. Cytisus praecox, apricot gem. Llwyn bler a heglog, ond yn talu am ei le efo'i bersawr melys.
Rhosyn mynydd- yr unig flodau dwbl sydd acw, yn tyfu o ddarn wedi'i godi o ardd diweddar daid y Pobydd. Ogla cynnil. Rhaid i chi fynd i'w 'nol, ddaw o ddim atoch chi fel y lleill, ond hyfryd serch hynny.

Bob yn ail mae dail yn tyfu...
Yr uchod wedi gorffen, ond digon o bethau eraill i gymryd eu lle. Dyma rai o'r blodau fydd acw am yr wythnosau nesa'.

Clychau'r tylwth teg. Erinus alpinus -blodyn bach alpaidd sy'n hadu i bob man. Codi darn ohono o wal gyfagos dair blynedd yn ol, a channoedd yma bellach! Methu penderfynu os ydi ogla hwn yn ddymunol ta'n ddifrifol!


Coeden fe^l oren. Buddleia globosa- o doriad gan gyfaill. Un arall efo arogl sydd rhwng drwg a da; ond fel ei ch'neithar las, yn wych ar gyfer pryfaid.

Rhosyn siapan. Rosa rugosa. Wedi talu am hwn: peth prin! Ond gamp i chi gynnig enw blodyn efo ogla gwell na fo...

Rhoswydden -Eleagnus quicksilver. O doriad gan y gwas priodas! Miloedd o flodau bach, ac ogla i feddwi rhywun.



2 comments:

  1. Anonymous22/6/14 18:46

    Da gweld clychau'r tylwyth teg yn edrych mor hardd. Yma yn Asturias mae siempreniña (y ferch fach nad yw'n tyfu'n hen) yn gyfyngedig i waliau neu greigiau cysgodol ac mae sawr tamprwydd arni. Ond yn bert iawn ac yn goleuo corneli tywyll.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau