Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label haul. Show all posts
Showing posts with label haul. Show all posts

20.3.16

Deffro! Mae'n ddydd.

Ar ôl diwrnod yn mwynhau rygbi a chwrw da pedwar o dai potas y dre' ma ddoe, dim ond wysg fy nhîn ac yn ara' deg a fesul dipyn ddois i 'nôl i dir y byw heddiw.

Ond am ddiwrnod! Haul cynnes ac awyr las. Buan iawn ciliodd y pen mawr wrth glirio a thocio a llifio a hollti. Cael crwydro ac arolygu be sy'n deffro, be sy'n tyfu, be sy wedi diodde dros y gaeaf hir gwlyb. Edmygu canu'r ceiliog mwyalchen. A breuddwydio a hel meddyliau am be sydd eto i ddod...

Mi gawson ni ginio al fresco cynta'r flwyddyn, a glöyn byw cynta'r flwyddyn hefyd.

Dim heddiw oedd y diwrnod braf cynta' wrth gwrs, ac mae dau fath o gacwn a dau fath o bry hofran wedi ymddangos ychydig ddyddiau cyn y glöyn mantell paun oedd yma heddiw. Ond heddiw oedd y diwrnod cynta' i ni fod adra i roi cadair bob un wrth ddrws y cefn, ac eistedd efo'r haul yn gynnes ar ein crwyn.

Hyfryd. Diolch am ddyddiau fel'na.

Hen lun o'r mantell paun.
Llun sâl o gacynen ar flodau grug ar y 16eg o Fawrth 2016. Cacynen yr ardd (Bombus hortorium) efallai.

Pry' hofran o deulu'r Eristalis, ar flodyn dant y llew. 16eg Mawrth 2016.




29.7.14

Pry' garw


Mae'r haul 'ma wrth fy modd i.
Do, bu'r rhandir yn sych am wythnos, a phawb yn gorfod cludo dwr yno, ond chlywch chi mo'na i'n cwyno am yr haul.
Gwyn ein byd

Yn ei sgil daw pryfetach wrth y fil i'r ardd, a hyd'noed y rhai sy'n achosi difrod fel y gloynod gwyn yn cael croeso acw. Wrth gwrs, mae rhai'n cael mwy o groeso nac eraill. Cafodd y Fechan a finna fodd i fyw wrth wylio nifer yn ddiweddar, fel y gwas neidr glas yma (Aeshna juncea; common hawker), ddaeth i glwydo ar fonyn ein Ceonothus am bedair awr ar ol deor. Datblygodd ei liwiau'n raddol tra oedd o yma, ac roedd yn amyneddgar iawn efo ni a'n camera!







Mae gwas da'n dod a'i gyflog efo fo... ac mi gyfrannodd hwn yn hael iawn am ei le.

 Un arall gafodd groeso mawr yma oedd gwenynen ddail (o'r teulu Megachile dwi'n meddwl; leaf-cutter bee), er ei bod yn gwneud tipyn o lanast ar y bysedd cwn melyn, wrth dorri cylchoedd ar hyd ymylon y dail i ffurfio nyth.

Cawsom wylio'i phrysurdeb wrth hedfan 'nol a mlaen...
...dewis darn o ddeilen...
...torri, torri, torri...
... a phlygu'r ddeilen rhwng ei choesau; hedfan i ffwrdd; a dod yn ol drachefn!
Mi lwyddais i ddal un ymweliad ar glip byr o ffilm, ac os llwyddwn ni i'w olygu'n iawn, mi roi ddolen yn fan hyn.


Yn y cyfamser, draw ar y rhandir...


Mae'r pwll yn yr ardal wyllt wedi bod yn eitha' sych hefyd. Eto'i gyd, mae'r gweyll duon (Sympetrum danae; black darter) a'r mursenod mawr coch (Pyrrhosoma nymphula; large red damselfly) yn brysur, er bod yr ardal o ddwr agored wedi crebachu yn y sychdwr diweddar.

Cafodd y Gymdeithas Randiroedd grant i brynu planhigion ar gyfer denu peillwyr, a phrynu casgliad o flodau ar gyfer y pwll a'i lannau wnaethom ni: gold y gors (Caltha); llysiau'r milwr coch (Lythrum); byddon chwerw (Eupatorium); gronell (Trollius); ac erwain (Filipendula). Yn anffodus prynwyd rhai addurniadol yn hytrach na'r rhywogaethau cynhenid. Wedi dweud hynna, fydd y pryfaid yn malio dim mae'n siwr...
Edrych nol dros y pwll, tuag at dirlun nodweddiadol o gytiau amryliw di-batrwm y rhandiroedd



23.6.14

Ysbeidiau heulog

Hen dro 'de. Llanast peldroed Lloegr 'lly.
Na, 'mond tynnu'ch coes! Mae'r holl beth yn ddoniol tu hwnt. Ond y malu llechi ailadroddus a rhencian dannedd hyd syrffed ar y teledu yn ddiflas tydi.

Baner Uruguay- llun Wikimedia
Dwi'n hoffi baner Uruguay, yn enwedig wsos yma.

Gan Gymru mae'r faner fwya trawiadol yn y byd wrth gwrs, ond pwy fysa ddim isio haul i'w cynrychioli nhw? Yn ol wicipedia, mae 'haul Mai' yn arwydd o genedl a enillodd annibynniaeth gan Sbaen 200 mlynedd yn ol. Dyna pam bod haul Mai ar faner Yr Ariannin hefyd. Nhw dwi'n meddwl fydd yn codi tlws FIFA ganol Gorffennaf....ond be ddiawl wyddwn i am gicio pel?

Rhan amla', cwrw chwerw cynnes fydda' i'n yfed, ond pan mae'r haul yn t'wynnu, mae'n anodd curo lager oer, yn enwedig fel gwobr fach i dorri syched wrth dyllu neu chwynnu. Rhywbeth fel Sol, o Fecsico, efo'r haul yn amlwg iawn yn yr enw, ac ar y label. 'Mond un neu ddwy cofiwch.
Oce ta: weithiau mwy!



Yn bwysicach na pheldroed a chwrw, mae'r tywydd wedi bod yn anhygoel, a'r arwydd wedi bod allan wrth y drws ffrynt am ddau benwythnos a phob gyda'r nos. Mae llwyth o waith wedi'i wneud yn yr ardd gefn, ond cafwyd digon o gyfleoedd hefyd i chwrae pel, llenwi'r pwll padlo, diogi a darllen, ac ymlacio.


Cario dwr i Stiniog...
Ond, tydi o ddim yn fel i gyd.
Pan mae'r tywydd yn wlyb, mae'r rhandir fel cors.
Mae wythnos heb law, ar y llaw arall, yn troi'r ddaear yno fel concrit! A does yno ddim dwr ar hyn o bryd. Mae pawb yn gobeithio y gall yr hogia injan dan lenwi'r tanc ar eu noson ymarfer nos Fawrth.

Yn y cyfamser, mae angen slogio dwr yno o adra bob deuddydd!
Coeliwch fi, dwi ddim yn un sy'n swnian am yr haul. Ond bysa hi'n dderbyniol iawn cael awr o law trwm rhwng 3 a 4 o'r gloch y bore bob yn ail diwrnod!



 Tydi'r marchysgall ddim yn meindio'r sychder o gwbl. Mwy na thebyg eu bod yn mwynhau'r gosteg anghyfarwydd yn y glaw.

Tydi'r sychder heb rwystro'r bali slygs chwaith. Dyma be sydd ar ol o'r planhigyn pwmpen Amazonka. O'n i wedi'i blannu yn y bels gwellt gan feddwl y byddai amodau sych, pigog y gwellt yn cadw'r diawled i ffwrdd. Arfbrawf dwy-a-dima!

Yn groes i'r disgwyl, mae'r bwmpen las (crown prince) yn gwneud yn dda yn un o'r gw'lau, heb unrhyw ddifrod.

Mae gen' i un Amazonka arall mewn pot mawr, ond efallai nad oes digon o'r tymor ar ol i hwnnw ddal i fyny...

Mae angen amynedd Job a William Jones.

30.3.14

Penwythnos troi'r cloc

Steddfod Sir ddoe, a throi'r clociau dros nos: mae'n rhaid ei bod hi'n amser clirio a pharatoi go iawn yn yr ardd. Ac yn amser edmygu be sy'n tyfu yno.

Fydd dim esgus o hyn ymlaen i beidio bwrw iddi a thyfu pethau!

Llysiau 'sgyfaint glas. Pulmonaria  'blue ensign'.
Y Pobydd- pencampwraig chwynu

Ailgylchu bonion crib y pannwr a ffenel, fel cynefin i bryfaid a chwilod

Blodyn gwynt glas. Anemone

Blodau hardd clustiau eliffant, Bergenia: wedi cael arddangosfa well nac erioed yma eleni.


20 gradd celsius yng nghysgod y cwt coed ta^n. Diwrnod heulog hyfryd i godi'r galon.





10.11.13

Trio cael trefn ar niwl y Migneint

Argian, roedd hi'n braf heddiw. Braf a chynnes.
Y math gorau o ddydd Sul.

Dwi wedi bod yn trio rhoi'r ardd a'r rhandir i'w gw'lau am y gaeaf, heddiw a'r Sul dwytha rhwng cawodydd.

Mae'r ffa olaf wedi eu hel a'u bwyta/rhewi, a dyma'r bwmpen y soniais amdani wsos dwytha. Ddim yn un i'w chadw ar gyfer y sioe sir, ond 'da ni'n edrych ymlaen i'w rhoi hi mewn cyri efo cig oen Cwm Cynfal.

Fel gwelwch o'r llun isod dwi wedi rhoi gorchudd/mulch o ryw fath ar bob un o welyau'r rhandir. Brethyn du gwrth-chwyn ar un o'r gw'lau mawr ac ar y gwely gwsberins; haen o ddeilbridd ar y gwely mafon; a thrwch o hopys ar y ddau arall, ym mlaen y llun.



Mae nifer o'r deiliaid rhandir wedi bod yn cael hopys gan fragdy'r Mws Piws ym Mhorthmadog, a dw innau'n cael sacheidiau gan fragdy Cwrw Cader yn Nolgellau, bob tro maen nhw'n bragu.

Dew, mae o'n drewi! A'r gwenyn meirch wrth eu boddau efo fo, hyd'noed yn ail wythnos mis Tachwedd.
Welis i 'rioed nunlla fatha'r rhandir am chwyn: glaswellt yn arbennig. Mae cymaint o'r plots heb eu trin, does ryfedd bod miliynau o hadau o gwmpas y lle bob dydd o'r flwyddyn. Ond dwi ddim yn helpu fy hun mae'n siwr, trwy beidio rheoli'r gwair sy'n tyfu yn y llwybrau rhwng bob gwely... bydd yn rhaid i mi dynnu'r bysedd o'r blew.



Bydd y brethyn chwyn 'ma rywfaint o help dros y gaeaf gobeithio.


Son am lwybrau, dyma sut maen nhw'n edrych ar hyn o bryd. Dwi wedi bod rhwng dau feddwl i dorri 'nghalon yn y bali lle.....


Mae'r gymdeithas randiroedd wedi cynnal dau ddiwrnod gwaith yno'n ddiweddar mewn ymgais i wella'r draeniad efo ffosydd a phibelli. Mi es i i'r cynta', ond methais fynd i'r ail.

Dwi'n ofni bod yr ymdrech fel cau giat mewn wal fylchog, neu drio cael trefn ar niwl y Migneint.

Pwy ddiawl feddyliodd roi rhandiroedd ar gors?!










Wedi deud hynna'i gyd, pan mae rhywun yn cael teirawr yn yr haul, efo robin goch a llwyd y gwrych yn gwmni, mae'n anodd cwyno tydi!


Tafod yr ych -borage- a Charreg Flaenllym dan awyr las.