Na, 'mond tynnu'ch coes! Mae'r holl beth yn ddoniol tu hwnt. Ond y malu llechi ailadroddus a rhencian dannedd hyd syrffed ar y teledu yn ddiflas tydi.
Baner Uruguay- llun Wikimedia |
Gan Gymru mae'r faner fwya trawiadol yn y byd wrth gwrs, ond pwy fysa ddim isio haul i'w cynrychioli nhw? Yn ol wicipedia, mae 'haul Mai' yn arwydd o genedl a enillodd annibynniaeth gan Sbaen 200 mlynedd yn ol. Dyna pam bod haul Mai ar faner Yr Ariannin hefyd. Nhw dwi'n meddwl fydd yn codi tlws FIFA ganol Gorffennaf....ond be ddiawl wyddwn i am gicio pel?
Oce ta: weithiau mwy!
Yn bwysicach na pheldroed a chwrw, mae'r tywydd wedi bod yn anhygoel, a'r arwydd wedi bod allan wrth y drws ffrynt am ddau benwythnos a phob gyda'r nos. Mae llwyth o waith wedi'i wneud yn yr ardd gefn, ond cafwyd digon o gyfleoedd hefyd i chwrae pel, llenwi'r pwll padlo, diogi a darllen, ac ymlacio.
Cario dwr i Stiniog...
Ond, tydi o ddim yn fel i gyd.
Pan mae'r tywydd yn wlyb, mae'r rhandir fel cors.
Mae wythnos heb law, ar y llaw arall, yn troi'r ddaear yno fel concrit! A does yno ddim dwr ar hyn o bryd. Mae pawb yn gobeithio y gall yr hogia injan dan lenwi'r tanc ar eu noson ymarfer nos Fawrth.
Yn y cyfamser, mae angen slogio dwr yno o adra bob deuddydd!
Coeliwch fi, dwi ddim yn un sy'n swnian am yr haul. Ond bysa hi'n dderbyniol iawn cael awr o law trwm rhwng 3 a 4 o'r gloch y bore bob yn ail diwrnod!
Tydi'r sychder heb rwystro'r bali slygs chwaith. Dyma be sydd ar ol o'r planhigyn pwmpen Amazonka. O'n i wedi'i blannu yn y bels gwellt gan feddwl y byddai amodau sych, pigog y gwellt yn cadw'r diawled i ffwrdd. Arfbrawf dwy-a-dima!
Yn groes i'r disgwyl, mae'r bwmpen las (crown prince) yn gwneud yn dda yn un o'r gw'lau, heb unrhyw ddifrod.
Mae gen' i un Amazonka arall mewn pot mawr, ond efallai nad oes digon o'r tymor ar ol i hwnnw ddal i fyny...
Mae angen amynedd Job a William Jones.
Difyr! Ac yn bendant mae o'n boen symud dwr o gwmpas. Dwi ddim wedi cael llwyddiant o gwbl gyda bwmpeni eleni. Am ryw reswm ar ol rhoi'r hadau i fewn (mewn pots yn y ty gwydr)…dim byd. Ac ar ol i mi sylwi mi roedd o rhy hwyr i drio eto. Dyma gobeithio am y law yn y nos i chi!
ReplyDeleteFfa piws ydi'r bwgan i mi eleni: wedi gwneud tri neu bedwar heuad, ac yn disgwyl gweld os ydi'r rhai dwytha'n mynd i flaguro..
Delete