Ar ol bod yng Ngwyl Arddio Caerdydd ddydd Gwener -am nad oedd y plant efo fi- mi i ges i ryddid i fynd lle fynnwn, felly dyma 'nelu at Erddi Dyffryn ar gyrion y ddinas. O'n i wedi darllen am y lle ers talwm, ac wedi meddwl cael piciad yno ryw dro, ac o'r diwedd daeth y cyfle.
Pan ddois i adra wedyn ac edrych trwy'r lluniau o'n i wedi dynnu yno, doedd dim un llun o dirlun trawiadol y safle*.
Mae'r gerddi yn enwog am y cynllun ffurfiol a chrand, ac wedi eu disgrifio fel gerddi Edwardaidd mwyaf mawreddog Cymru, ond ar ol crwydro yno am deirawr, hwn oedd yr unig lun o'r 'ardd' oeddwn wedi'i dynnu, a hynny o un darn bach yn unig; lluniau o blanhigion a phryfaid oedd y gweddill!
Dim llun o'r Brif Lawnt. Dim o'r Gamlas Lili-ddwr. Dim o'r Ardd Pompeii; y Cwrt Lafant; na'r Cloisters.
Ia, pawb at y peth y bo, ond 'rargian, mae bywyd yn rhy fyr i golli cwsg dros lawntiau streipiog a gwrychoedd bach bocs tynn, taclus, syth a pherffaith.
Yn sicr doedd gen' i ddim diddordeb o gwbl tynnu lluniau o'r ty bonedd.
Beth bynnag, roedd ogla' a swn y lle yn fy nharo i mwy na golwg y lle, yn arbennig am fod mynediad am ddim y diwrnod hwnnw, a'r haul yn t'wynnu, a channoedd o bobl wedi cael yr un syniad a fi. Pobl ymhob man, damia nhw!
Y synau amlwg oedd adar a gwenyn. Mi es i'n syth at yr ardd ffrwythau a chael croeso brwd yno gan wennoliaid yn clebran ar y waliau uchel, a chor o adar eraill yn canu'n y cefndir.
Hon ydi un o'r ychydig goed afalau sy'n dal yno ers 'oes aur' y gerddi. Mae Cyngor Bro Morgannwg a'r Ymddiriedolaeth 'genedlaethol' wedi cael miliynau gan y loteri i adfer y gerddi, ac wrth gwrs maen nhw wedi llyncu'r ffasiwn o drio dynwared yr hen ardd a dyfalu pa goed fyddai wedi bod yno gan y byddigion ganrif yn ol (dyfalu oherwydd does dim cofnod o'r mathau o goed ffrwyth oedd yno). Mae'n nhw wedi colli'r cyfle i ddatblygu perllan yn llawn o ffrwythau lleol a Chymreig, ac wedi defnyddio coed Seisnig a Ffrengig. Ystrydebol braidd.
Mi welais fy ngwennol y bondo cynta' eleni yno hefyd. A gloyn byw melyn y rhafnwydd.
Swn amlwg arall oedd yr holl wenyn, cacwn, a phryfed oedd yn llafurio ymysg y blodau.
Dwi'n gwbod fod y llun yma yn un sal, ond be sydd ynddo -ar flodau eirin gwlanog- ydi pry' gwenyn. Bee fly (Bombilius major**).
Cyffredin iawn yn y de medd cydweithiwr, ond dwi ddim yn meddwl imi weld un erioed yn y gogledd. Be amdanoch chi?
Roedd yn hedfan o flodyn i flodyn ac o le i le efo'i dafod allan trwy'r amser, a hwnnw'n hirach na'i gorff, ac yn edrych yn ddoniol iawn.
Dau o'r planhigion oedd yn llenwi'r aer efo ogla melys oedd Osmanthus delavayi, uchod, a Pachysandra terminalis, chwith. Dau blanhigyn bytholwyrdd -llwyn ydi'r gynta' a gorchudd llawr ydi'r llall- sy'n blodeuo ar ddiwedd y gaeaf.
Y ddau ar fy rhestr i pan gaf grant gan y loteri i brynu gardd fawr, a chyflogi staff i dendio ar y lawnt 'na!
Blodyn y Pasg.
Palmwydden Trachycarpus (efo celynnen wedi hadu ymysg ei dail)
Ydyn, mae'r planhigion egsotic yma i gyd yn werth eu gweld, ond mae'n anodd curo trwch o flodyn gwynt Cymru fach ar lawr coedwig tydi!
Wedi gweld, roedd yn dda o beth nad oedd y plantos efo fi o ddarllen gwaith cyfiethu staff y gerddi... o diar.. cuddiwch blantos!
Ar ochr arall y gerddi enfawr, roedd dwy goeden geirios hardd yn gymylau o flodau, a channoedd o wenyn mel yn gwledda arnynt. Gallwn fod wedi gorwedd o dan y canghennau yn gwrando ar eu grwndi am oriau, ond rhaid oedd cychwyn 'nol am yr A470.
A daeth i ben deithio byd.
(*Map o'r gerddi, o wefan uniaith Saesneg Cyfeillion Gerddi Dyffryn)
** Y patrwm ar yr adenydd ac adeg y flwyddyn sy'n caniatau 'nabod y rhywogaeth
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau