Tra bo hedydd ar y mynydd;
tra bo ewyn ar y don;
tra bo glas yn nwfn dy lygaid,
mi wn mae ni pia hon.
Cytgan hyfryd. Cân sydd heb gael y sylw haeddianol.
Beth bynnag, roedd y Pobydd wedi'n gadael ni am ddiwrnod o hwyl mewn gwisg ffansi, ar noson iar yng Nghaernarfon, felly mi aeth y genod a finna am dro, efo 'nhad, i chwilio am yr haul ar Fryn Castell, rhwng Cwm Teigl a Chwm Cynfal.
Bryn Castell |
Am saith y bore, roedd y tymheredd yn -0.8 gradd C, ond erbyn ganol y pnawn roedd hi'n 14 gradd, a'r mynydd yn galw.
O ffordd y Migneint, uwchben Pantllwyd, 'mond 'chydig o funudau o waith cerdded sydd at safle gwych Bryn Castell, heibio Beddau Gwyr Ardudwy, ffordd Rufeinig Sarn Helen, a chwarel lechi'r Drum. Digon o gyfle i drosglwyddo hanes a chwedlau'r fro i'r plant, yn union fel wnaeth eu taid i mi yn yr un lle, dri-deg mlynedd yn ôl.
Y Fechan a'i thaid, pennaeth y llwyth! |
Copi o garreg Cantiorix, wedi'i gosod rhwng safle tybiedig
Beddau Gwyr Ardudwy a Bryn Castell.
(Mae'r gwreiddiol yn un o gasgliad o gerrig hynafol yn Eglwys Penmachno)
sorod haearn Bryn Castell |
Ar y ffordd o'na, mi wnaethon ni aros am gyfnod i wrando ar drydar parablus hyfryd ehedydd, yn canu nerth esgyrn ei ben, yn uchel, uchel yn yr awyr las. Yn datgan hyd a lled ei diriogaeth, fel tasa fo'n dweud 'dwi yma o hyd'.
Efallai y bydd y genod yn gwneud yr un peth dri deg mlynedd o rwan...
*gwybodaeth am Fryn Castell -yn Saesneg- ar wefan heneb gan Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd
cofnod hudolus
ReplyDeleteDiolch Cath
DeleteAtgofion melys am y daith Paul. Anodd credu bod cymaint o amser wedi mynd heibio. Diwrnod cofiadwy yng nghwmni 'nheulu bach annwyl. Dad/Taid.
ReplyDeleteAm braf ...cael cerddad yr un llwybyr efo'i dad ar genod efo nhw tro yma.Mae teulu mor bwysig.xxxx
ReplyDelete