Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label mwyar. Show all posts
Showing posts with label mwyar. Show all posts

10.10.21

Drain ac ysgall, mall a'i medd

Mae gwaelod ein gardd ni yn ffinio efo tir fferm sydd wedi mynd yn wyllt. Yn llawn coed helyg ifanc a mieri. Dim ond hanner acer ydi o, rhwng y tai a choedwig dderw.

Pan brynsom ni'r tŷ ar droad y ganrif roedd defaid yn pori yno am y flwyddyn/ddwy gynta'.  

Aeth y defaid: daeth mieri.

 

Ac mae'r mieri hwnnw, a'r clymlys a'r dail poethion a'r helyg yn ymledu ar garlam o'r cae trwy'r gwrych, o dan y gwrych, a thros y gwrych i mewn i'n gardd ni! 

Mae'r perchennog yn ddigon bodlon, chwarae teg, inni glirio llain efo'r terfyn, a bob blwyddyn mae angen bustachu a stryffaglio trwy'r brwgaij pigog er mwyn dal y llanw'n ôl.

Yr unig gysur ydi medru hel mafon gwyllt a mwyar duon bob blwyddyn hefyd!

Fel pob garddwr, dwi'n euog o brynu planhigion heb le i'w plannu! Ymysg y coed sydd yma heb lawer o obaith o gael lle parhaol yn y ddaear, mae eirinen werdd (Reine Claude Vraie); afal cynnar Y Wyddeles (Irish Peach); clesin neu quince (Meeches Prolific). Pob un mewn pot mawr, sydd ddim yn ddelfrydol, ond yn well na dim.

Wrth gwrs mi fyswn wrth fy modd efo gardd fwy. Cael cadw iar neu dair; plannu perllan fechan efallai... Man gwyn, man draw.  Ond rydym yn lwcus iawn o'r lle sydd gennym ac mae'n bwysig gwneud y gorau ohono. Mae llawer wedi ei ddweud ar y cyfryngau am werth gardd yn ystod y cyfnodau clo. Mae hynny'n sicr wedi bod yn wir yn fan hyn. Gwerddon i ddianc iddi o'r tŷ. Paradwys hyd yn oed.

Mae'r haul yn tywynnu bore 'ma, a dail rhai o'r coed a'r llwyni yn disgleirio yn eu lliwiau hydrefol, felly allan amdani!


18.5.15

Daw hyfryd fis...

Mae hi'n ail hanner mis Mai, ond argian mae hi'n oer ambell fore.

Mae'n mynd yn hwyr, ond yn parhau'n rhy oer i hau lot o bethau allan yn yr ardd: beryg iawn mae tymor byr gawn ni yn Stiniog eto eleni.

'Da ni 'di cael dwy gawod o genllysg a glaw trwm heddiw, ar ôl cyfnodau heulog, cynnes dros ginio.

ceirios....gobeithio
Mae'r goeden geirios morello a'r eirinen a'r gellygen wedi bod yn llawn blodau, ond y tywydd yn amlach na pheidio wedi bod yn rhy oer a gwlyb i'r gwenyn a'r pryfed fod allan yn peillio.

clesin....efallai
Mae'r goeden glesin/quince wedi cynhyrchu blodau, ond mae rhyw fath o lwydni powdrog ar ei dail, felly bydd angen rhoi mwy o sylw a thendans iddi am gyfnod.

Diolch am y rhiwbob, sy'n cael blwyddyn ardderchog!

rhiwbob.....wrth gwrs!
Mae'r goeden afal Enlli wrthi'n blodeuo rwan, ond yr afal croen mochyn yn dal i edrych yn druenus.


Ond dau ffrwyth arall dwi'n edrych ymlaen yn arw i'w gweld eleni: mefus alpaidd, mae carped o blanhigion wedi datblygu yma ers llynedd. Hefyd, mwyar y gorllewin (thimbleberry). Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw flodeuo yma, ac maen nhw'n datblygu'n blanhigion deniadol iawn. Toriadau ges i o dyddyn paramaeth Benthros Isa ger Ganllwyd, ynghŷd â thoriadau Worcesterberry, ond tydi'r tyfiant ar rheiny ddim hanner mor addawol.


Daw hyfryd fis
Mehefin cyn bo hir,
A chlywir y gwcw'n canu'n braf
yn ein tir.


6.10.13

Melys Moes Mwyar

Dwi'n casau mwyar duon.
Ond dwi wrth fy modd efo nhw hefyd.

Y planhigyn ydi'r cocyn hitio.  Mae'n frwydr barhaus yn y cefn acw i gadw'r mieri rhag tyfu o'r cae drws nesa i mewn i'r ardd. Sglyfath o beth ydi o! Pigog hefyd.

Ond mae'n blanhigyn gwych 'run pryd tydi.
Blodau hardd sy'n denu gloynod a gwenyn a phryfed.
A chnwd anhygoel o ffrwythau. Yn enwedig eleni.

Gallwch son am fitamin C a gwrth-ocsidau,
ond brolio ydw i'n bennaf am eu blas nhw.

Soniodd rhywun wrthai'n ddiweddar am y maeth sydd mewn hadau mwyar duon a mafon ac ati...ond ga'n nhw fynd i chw'thu! Mae 'na ormod o lawer o hadau mewn mwyar duon does; ych, damia nhw!

Mae'n bendant yn fy marn i felly, yn werth yr ymdrech ychwanegol o wneud jeli yn hytrach na jam.
Dim ond hanner dwsin o botiau ges i'r tro hwn, ac mae dau wedi eu rhannu a dau wedi eu bwyta gan y plant (oce, a gen' i hefyd) ac un arall wedi'i ddechrau, fel welwch yn y llun.

Cadw un tan y Dolig ydi'r gobaith, felly bydd yn rhaid i mi ei guddio tu ol i'r potiau jeli criafol nad oes neb ond fi'n fwyta!

Mae Bethan Gwanas* wedi gwneud jeli mwyar duon efo chili, i fynd efo caws a chig a phate medda hi. Swnio'n glincar o syniad at flwyddyn nesa. Neu (gan bod rhai'n dal ar gael) yr wythnos yma ...os fydd gen i fynadd gwneud mwy eto!







Mi fues yn nhy fy rhieni ar ol gwaith un diwrnod hefyd yn gwneud chutney efo Mam, efo rhywfaint o'u cnwd anferthol nhw o afalau Enlli.

Tydi'r Pobydd na'r Arlunydd methu diodda finag, felly does fiw imi drio gwneud picls o unrhyw fath acw! Ges i ddigon o swnian pan ddois i adra a 'nillad yn drewi!

Ond ew: stwff da ydi o! Bydd yn anodd iawn ymatal rhag agor pot cyn iddo gael cyfle i aeddfedu'n iawn. Gin i awyd bechdan gaws rwan deud gwir...

Melys moes mwy.


* Jeli Bethan Gwanas




12.8.12

Yno mae fy seithfed nef


Daeth i ben deithio byd; wel, Bro Morgannwg beth bynnag. Cawsom wythnos o wyliau o fewn tafliad malwan i arfordir de Cymru, ac mi ddaeth i ben yn rhy gyflym o lawer. Mae’n braf serch hynny cael cysgu yn eich gwely’ch hun tydi, a mwynhau panad efo dŵr glan Llyn Morwynion. Tydi panad ddim ‘run fath yn nunlle arall!
Erbyn dydd Mawrth –er ei bod hi’n tywallt y glaw ar faes yr eisteddfod ac ar siroedd y de, mi glywsom edliw o’r filltir sgwâr, ei bod hi’n braf yno, ac erbyn gwres dydd Gwener, mi ffeindiais fy hun yn poeni sut oedd y rhandir yn mynd i gael dŵr...ond dychwelodd y glaw neithiwr (nos Sadwrn).
Cyn cychwyn ar ein taith, wythnos yn ôl, mi es i draw i’r lluarth i hel llond bag o bys, i’w bwyta efo’n picnic; ac mi fues i yno eto’r bore ‘ma i hel bagiad arall. Mae mwy ar eu ffordd: er imi gwyno am amodau’r rhandiroedd, tydw i erioed wedi gweld cymaint o bys a ffa!






 
Mae’r pys melyn/india corn ar y llaw arall, yn mynd i gael clec. Fel welwch chi yn y llun, troedfedd o daldra ydi’r cryfaf ohonynt, a does ‘na ddim gobaith cael cnwd bellach. Mae gen i blanhigion brocoli piws yn barod i gymryd eu lle. Mi gaiff y ffa piws sydd rhwng y corn aros, ‘chos hyd’noed os na ddaw ffa arnynt, mi fydd y planhigion yn cyfrannu rhywfaint o nitrogen i’r pridd. Mae’r ffa dringo, i’r chwith, wedi altro’n dda ers wythnos ac yn blodeuo o’r diwedd.


Ambell lun o’r gwyliau:

 

Melys moes mwyar. 
Dyma fwyar cynta’r flwyddyn i mi; dim mwyar duon, ond mwyar Mair (dewberry, Rubus caesius), ar dwyni tywod gwarchodfa natur Cynffig. Lle arbennig.


 


 

‘Dere'r seren atai'n llawen’. 
Celynnen y môr, Eryngium maritimum, ar draeth Sker. Lle braf os fedrwch chi anwybyddu gweithfeydd Port Talbot i’r gorllewin.  (Daw’r dyfyniad o gân werin Y Ferch o’r Scer).





 
E-coleg. 
Maes gwyrdd yr eisteddfod. Digon o bethau’n mynd ymlaen yno i gadw rhywun yn ddiwyd am ddiwrnod cyfa’. Gobeithio y bydd ym mhob Steddfod o hyn ymlaen.







Trefn yng Ngerddi Dwnhrefn. 
Ffrwyth meryswydd yng ngardd furiog ‘castell’ Dunraven. Medlar (ffrwyth y mae’r Ffrancwyr yn ei alw’n dwll tîn ci, mae’n debyg. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig ‘afal agored’, ond hefyd ‘afal tindwll’!) er fod y plasdy wedi ei ddymchwel, mae’r gerddi’n cael eu cynnal yn llwyddianus iawn gan y cyngor sir. Mi ges ddianc yno am orig tra oedd y plant a’r Pobydd ar y traeth eto. 



Amryw byd; am ryw hyd.
Mi ges i grwydro i ben safle hen fryngaer hefyd, lle bu Caradog yn cynnal cynulliad i drefnu gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid; ac i ben Trwyn y Wrach i edmygu’r hyn sydd ar ol o'r glaswelltir blodeuog cyfoethog yno, a’r milltiroedd o glogwyni calchfaen trawiadol bob ochr iddo.




Fel sy’n draddodiadol, mi fuon ni’n canu ‘Mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog’ yn y car wrth gychwyn ‘nôl tua’r gogledd, canys –er mor wych ydi cael ymweld ag ardaloedd eraill trawiadol ein gwlad hardd- yno mae ein seithfed nef.