Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

12.10.13

Dros y mynydd i hela cnau

Yn rhifyn 4ydd Hydref o bapur Y Cymro, mae Duncan Brown yn ei golofn Llen Natur, yn gofyn:
"Pwy sy'n hel cnau y dyddiau hyn?"

...fi!


Poeni mae'r colofnydd bod y boblogaeth wedi troi cefn ar "bethau cyffredin cefn gwlad". Hefyd, bod wiwerod llwyd yn "llarpio pob cneuen", ac mae hynny'n eitha' gwir yn amlach na pheidio. Ond dim pob blwyddyn chwaith.

Do, bu eleni'n flwyddyn sal am gnau ffor' hyn, efo ychydig iawn yn llwyddo i aeddfedu'n iawn, ond mi ges i hel digon i roi desglad ar y bwrdd, yn ogystal a'r drefn arferol o dorri'r cnau yn y fan a'r lle efo'r plant, a mwynhau'r cnewyllyn melys.
 
Pan gyll y call...
Yr hyn dwi wedi methu a'i wneud hyd yma, ydi llwyddo i gadw cnau cyll yn eu plisgyn ar gyfer y Nadolig. Dyma faint o gnau oedd ar ol acw pan ddarllenais i ysgrif Duncan, a da oedden nhw hefyd, ond eisoes roedd rhai ohonyn nhw wedi crebachu.  Dwi wedi gorfod lluchio rhai yn y gorffennol hefyd am eu bod wedi llwydo. Os wyddoch y gyfrinach, gyrrwch air os gwelwch yn dda!


Fel coed derw a ffawydd ac eraill, mae coed cyll yn mwynhau blynyddoedd toreithiog, (ar gylch o rywbeth rhwng 5-12 mlynedd yn ol rhai). Mast year, chwedl y botanegwyr. Ar yr achlysuron prin hynny mae cnau yn ddigon helaeth fel bod gormod i'r wiwerod, sgrechod coed a llygod, ac felly rhywfaint ar ol i ni. Mae gwyddonwyr yn defnyddio'r ymadrodd predator satiation (syrffed) i ddisgrifio hyn -nid bod y coed yn ei wneud o ar ein cyfer ni wrth reswm! Mae llawer o anghytuno am be'n union sy'n achosi i goed gydamseru cnwd toreithiog, ond beth bynnag sy'n gyrru'r broses, diolch amdano.

Dwi'n cofio cael fy ysbrydoli gan Duncan pan ddaeth yn ddarlithydd gwadd i'r coleg, yn son am gysylltiad ein perthynas ni fel cenedl a'r byd natur o'n cwmpas, o'r son am hela anifeiliaid yn y Gododdin, i'r mesobrau, sef yr arfer o droi moch i'r coed i besgi ar y mes oedd ar lawr mewn blynyddoedd toreithiog.

A son am ddylanwadau, bu diweddar daid y Pobydd yn cystadlu mewn eisteddfod rywdro efo casgliad o ddywediadau lleol, ac ymysg y perlau, mae hwn: 'Blwyddyn dda am gnau, blwyddyn dda am blant siawns'. Nid bod pobl yn cael blynyddoedd mast chwaith am wn i, ond bod cariadon yn mynd yn amlach i'r coed...

Roedd eleni'n flwyddyn doreithiog ym Meirionnydd am afalau a mwyar duon a bu'n ail flwyddyn dda yn olynol i griafol, ac roedd Gerallt Pennant yn son yn yr un rhifyn o'r Cymro, am ddiod feddwol oedd pobl Mallwyd yn fragu efo aeron cochion criafol, a'r schnapps a wneir yn Awstria. Rhywbeth i'w ystyried i'r dyfodol e'lla.

Eto yn yr un rhifyn o'r Cymro, roedd Lyn Ebenezer (mewn modd ychydig yn fwy Victor Meldrewaidd) yn cwyno fod plant heddiw yn dewis bod yn gaeth i'w stafelloedd, yn lle hel cnau a mwyar.

Dim pob un Lyn bach. Ond rhyfedd bod tri o'r colofnwyr wedi sgwennu am hela bwyd.

Dwi wedi son o'r blaen fy mod yn mwynhau'r Cymro, er mor denau ydi o am newyddion. Wrth brynu'r rhifyn uchod mewn siop sydd dafliad cneuen o'r ty acw, yr hyn ddywedodd y llanc mewn syndod tu ol i'r cowntar oedd "ffiffti-piii am bapur mor dena?!" Ia, gyfaill, ond y cynnwys sy'n bwysig 'de, ac mae'r colofnwyr rheolaidd, fel yn achos Yr Herald Cymraeg hefyd, yn werth pob ceiniog.




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau