Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.11.13

Barn a rhagfarn

Dwi wedi gwneud chydig o glirio aballu yn yr ardd a'r lluarth, ond dim byd sy'n werth ei gofnodi,  felly wna'i mo'ch diflasu chi efo hynny.

Y Moelwyn Bach; Craigysgafn; Moelwyn Mawr; Moel yr Hydd; Craig Nyth y Gigfran, o ffenast llofft ar fore oer y 25ain.
Daeth y rhew cynta' ar fore'r 19eg. Roedd hi wedi bwrw eira a chenllysg yn y nos, a hwnnw wedi rhewi'n gorn ar lawr erbyn y bore, ond y 23ain oedd y bore caleta' hyd yma.

Mae'r oerfel yn esgus da i ddal i fyny efo rhywfaint o deledu, a darllen o flaen y t^an gyda'r nosau. Be oeddech chi'n feddwl o'r gyfres Tyfu Pobl? Beth am Y Gwyll? Oes rhywbeth arall wedi'ch diddanu'n ddiweddar? Gyrrwch air; peidiwch a bod yn swil!

Dwi am fod yn hy' a mentro efo ambell i feicro-adolygiad.


TYFU POBL. Cwmni Da. S4C.
Wedi edrych ymlaen trwy'r haf am hwn. Ond roedd y natives yn flin o'r darllediad cynta..  Mae pobl Dyffryn Nantlle wedi digio efo'r gyfres, am ddangos ochr negyddol yr ardal. Hen dric diog gan gynhyrchwyr rhaglenni ydi hynny braidd, ac un y mae bro Stiniog wedi'i ddiodde' sawl gwaith hefyd yn y gorffennol.

Ta waeth, bai golygyddol oedd hynny am wn i, a'r cyflwynwyr yn gwneud eu gorau i ddiddanu ac addysgu. Mae egwyddor sylfaenol y gyfres yn un dda tydi: annog trigolion ardal benodol i dyfu eu bwyd eu hunain, a dilyn eu hynt a'u helynt trwy'r tymor.

Roedd yna ddarnau difyr iawn yn ystod y gyfres, ond y brif wendid yn y pen draw oedd y diffyg amser gafodd ei dreulio yn dangos pobl yn paratoi, hau, plannu, a thyfu. Doedd syniad y siop undydd ddim yn gweithio i mi, na chwaith y vox pops di-ddim ar strydoedd Penygroes a'r cylch. Rhy fyr oedd pob pennod yn anffodus: roedd dau funud (wel 1'50 os 'da chi'sio hollti blew) o gyflwyniad union yr un fath bob wythnos, gan adael rhaglen oedd yn ddeg munud o hyd cyn yr hysbysebion ac unarddeg munud wedyn. Dim ond 21 munud yr wythnos. A chyfres o dim ond chwe rhaglen. Diolch S4C! Felly bysa'i 'di bod yn well iddyn nhw dreulio pob eiliad yn y gerddi.

Mae Bethan Gwanas yn son ar ei blog bod y gynulleidfa wedi cynyddu wrth i'r gyfres ddatblygu, felly dwi'n mawr obeithio y bydd ail gyfres -efo pennodau hirach a mwy o ganolbwyntio ar dyfu! Dwi'n gobeithio y caiff Craig ab Iago ran fwy y tro nesa, mae ganddo gyfraniad difyr i'w gynnig yn y maes paramaeth/permaculture dwi'n siwr.


GARDENER'S WORLD. BBC2.
Mi fydd yn chwith gen' i heb hwn rhwng rwan a mis Mawrth, fel pob gaeaf, ond mi fues i'n rhegi at y teledu yn rheolaidd tra oedd o ymlaen. Roedd cyfran rhy uchel o'r gyfres yn dod o ardd Monty Don yn fy marn i, a'r diffyg amrywiaeth o gyflwynwyr yn ddiflas weithia'. Tyrd 'n^ol Alys Fowler. Cer i chw'thu Nigel (ci y prif gyflwynydd). Dyna fy rhagfarn gynta- cwn ar y teli. Nid pawb sy'n gwirioni 'run fath Monty.

BEECHGROVE GARDEN. Tern Productions. BBC Scotland.
Gwell na Gardener's World eleni, efo acenion Albanaidd braf. Gwefan y gall S4C ddysgu llawer ganddi. Hwn wedi gorffen am y gaeaf hefyd.

DARWIN, Y CYMRO, A'R CYNLLWYN. Telesgop. S4C.
Clincar o raglen am Alfred Russel Wallace. Ymchwil a chyflwyniad ardderchog. Rhaglen ddewr i herio'r sefydliad wyddonol. Yn haeddu mwy o sylw na gafodd. Yn haeddu darllediad is-deitlog hefyd ar BBC4 a sianeli lloeren fel Discovery ac ati.

RIVER COTTAGE TO THE CORE. KEO Films. Channel 4.
Er ein bod yn saff o gael eitemau diddorol ym mhob un o gyfresi Huw Ffernol-Rhwngdwystol -a fo fu'n rhannol gyfrifol am ail-gynnau t^an tyfu a hela bwyd ynof i, efo'i anturiaethau hunangynhaliol yn Escape to River Cottage (1997)- dwi wedi colli 'mynadd braidd efo fo.

Ers talwm, hel a thyfu bwyd oedd ei brif ffocws. Chef teledu ydi o rwan, a chwcio sy'n bwysig i chi gael dallt! Ffrwythau oedd y thema eleni, ond fel pob rhaglen/cyfres o'r stabal yma, mae hwn yn dilyn yr un fformat, sef arwain at ryw ffug-ddigwyddiad mawreddog, fel ffair, neu wledd. Ac wrth gwrs, mae yna lyfr ar werth i gyd-fynd efo bob cyfres. (A phlanhigion a hadau a DVDs, a chyrsiau coginio, a thri bwyty i'w hyrwyddo, a phenblwyddi, priodasau a barmitsfas ar gael...)  Ba hymbyg.

Wedi deud hynna, mae'r rysait am Curd Cyrins Duon o'r gyfres yn flasus iawn iawn!


Y GWYLL. Fiction Factory et al. S4C.
Gwych. Does gen' i ddim llawer o amser i ffuglen; Gwaith Cartref a The Newsroom yn eithriadau prin, ond mi wnes i fwynhau hwn. Edrych ymlaen am fwy.
Adolygiad manylach gan Cath Asturias yn fan hyn.

PODLEDIAD GALWAD CYNNAR. BBC Radio Cymru.
O'r diwedd, mae mwy o bodlediadau ar gael gan Radio Cymru. Dim llawer cofiwch, ond mae Betsan Powys yn gaddo mwy...
Mae Galwad Cynnar yn rhy gynnar i mi (0630 ar fore Sadwrn) felly dwi wedi bod yn gwrando trwy wasanaeth iPlayer ar y we, ond o'r diwedd mi ga'i wrando ar yr adeg pan dwi'n mwynhau 'radio' fwya, sef ar y ffor' i ngwaith. Mae'r BBC wedi dewis rhoi awr olaf y rhaglen fel podlediad, ac mae anfanteision yn codi o hyn. Mae o angen ei olygu. Ar adegau o'r flwyddyn mae'r BBC yn rhoi rhaglen o uchafbwyntiau Galwad Cynnar ar nos Fawrth (Galwad Eto). Efallai y byddai hwn yn well fel podlediad. Fy mhrif gwyn efo'r podlediad fel mae o, ydi fod darn garddio John Glyn ymlaen cyn 7 o'r gloch fel rheol, ond (efallai oherwydd bod caneuon yn hanner awr cynta'r rhaglen hefyd), mae hwn yn cael ei hepgor. Biti. Mae cyngor tymhorol JG yn werth ei glywed. Mae darn Awen Jones o ganolfan arddio yn cael lle am ei bod hi'n ymddangos yn ystod yr awr olaf.
Annwyl Betsan, beth am roi Galwad Eto fel podlediad natur, a phodlediad arall arwahan efo eitemau garddio'r wythnos: JG, AJ, ac unrhyw gyfraniadau eraill a fu ar raglenni eraill?

GWREIDDIAU. Medwyn Williams. Gwasg Gomer.
Fy ail ragfarn. A'r trydydd! Seiri-rhyddion, a theulu brehinol Lloegr. Roedd gen' i ofn dechrau efo hunangofiant y mason a'r garddwr-efo-gong o Lanfairpwllgwyngyll a deud y gwir, ond trwy lwc, dim ond ychydig o sylw a roir i'r naill a'r llall, neu mae'n siwr bysa'r llyfr wedi cael ffluch trwy'r ffenast. Tasa fo'n llyfr Saesneg, go brin y byswn wedi'i gyffwrdd efo polyn!

Mae o'n llyfr deniadol iawn, efo lluniau da ac wedi'i ddylunio'n dda yn gyffredinol. Mae'n fwy na hunangofiant hefyd, efo adran cyngor tyfu ar ddiwedd pob pennod. Dwi wrth fy modd efo patrwm y penodau, efo cyfnodau o fywyd 'Archdyfwr y ffrwythau a'r llysiau' yn dwyn teitlau fel 'Yr hadyn'; 'Gwreiddio'; 'A heuir a fedir', ac ati. Mae idiomau cyfoethog yn britho'r is-benawdau hefyd, fel 'Bach yw hedyn pob mawredd' a 'Heb bridd, heb ddim'.

Sgwenwyd o ar y cyd efo Mari Emlyn, efo troeon trwstan a straeon difyr iawn, a hanesion am ffordd o fyw sydd wedi mynd am byth. Byswn i wedi licio gweld ehangu ar yr adrannau cyngor garddio, ond wedyn hunangofiannau sy'n gwerthu orau yn y Gymraeg mae'n debyg, a dyna ydi prif bwrpas y llyfr. Mae'n costio ugain punt i'w brynu, ond dwi ddim yn gweld hynny'n arbennig o ddrud. Wedi'r cwbl mae rhywun yn medru gwario mwy na hynny ar lyfrau Hugh Fearnley-Whittingstall a Monty Don. Argraffwyd o yng Nghymru, ac mae lle i longyfarch Gwasg Gomer am gynhyrchu llyfr unigryw. Peidiwch a'i ddarllen yn y gwely; mae o'n pwyso tunell ac mi gewch uffar o fraw pan fydd o'n eich taro ar eich trwyn wrth bendwmpian!
Beth bynnag, hanner can ceiniog gostiodd o i mi; o'n i bump diwrnod yn hwyr yn mynd a fo 'nol i'r llyfrgell!


Mae llwyth o stwff am dyfu a hel bwyd ar You Tube, ond mae bywyd yn rhy fyr i fwydro am bob un. Oes yna rywbeth ar y we sy'n werth ei weld yn eich barn chi? Rhywbeth sy'n berthnasol i'r blog yma dwi'n feddwl yn amlwg!

Gadewch i mi wybod. Diolch.


3 comments:

  1. Diolch am y ddolen! Cydfynd â ti'n hollol ynglŷn â'r ci ar Gardeners' World - rwy'n hoffi cael ci o gwmpas ond nid ymhob golygfa. Problem S4C efallai yw ceisio denu'r nifer fwyaf posib o wylwyr, a hynny drwy ddiddanu yn hytrach nag addysgu.

    ReplyDelete
  2. Rhaglen gynta 'Great British Gaaredn Revival' ar y BBC heno (9fed Rhagfyr) -Monty Don yno heb ei gi !!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau