Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label tafod yr ych. Show all posts
Showing posts with label tafod yr ych. Show all posts
28.10.15
21.8.12
Cacwn yn y ffa
Ar ôl penwythnos arall i ffwrdd, mi aeth yn hir eto rhwng
dau ymweliad â’r lluarth. Mi fues i yno rhwng cawodydd y bore ‘ma o’r diwedd, a
chael pedwerydd gnwd o bys. Mae’r rhain yn eu hunain yn golygu fod yr ymdrech
ddim yn gwbl ofer. Mi helis i ‘chydig o ffa melyn hefyd, ac mi gaiff y Pobydd a
finna’r rheiny efo’n te ni heno.
Tra oeddwn i ffwrdd yn gweithio, mi gafodd y merched dri o’m
hoff bethau, sef bara cartra’ Ddydd Gwener; cyri tecawê Nos Sadwrn; a chrempog
Ddydd Sul. “Dio’m yn deg” meddwn wrth y Fechan mewn protest dros y ffôn; ac ‘roedd
‘na hen dynnu coes ganddi! ‘Mond yn iawn felly i mi gael fy hoff beth yn y byd
i gyd heno, sef ffa melyn. Ac mae wythnosau o’u bwyta o ‘mlaen i yn ôl y cnwd
sy’n datblygu..
Dwi wedi plannu’r brocoli piws allan, yn lle’r india corn/pys melyn
digalon, ac wedi cario dŵr i
lenwi casgen, rhag ofn y cawn gyfnod braf a sych ddiwedd yr haf ‘ma (...ha!
Doniol iawn Wilias!). Fel arall, dim ond rhyw ‘chydig o chwynnu oedd ei angen
heddiw.
Mae’r planhigion marchysgall wedi dod at eu hunain ar ôl y sioc wreiddiol o
gael eu plannu ar ochr mynydd! Gyda lwc bydd blagur ar y rhain erbyn yr haf
nesa’. ‘Roedd yn rhaid i mi brynu deg ohonynt trwy’r catalog, a finna dim ond
eisiau dau neu dri. Mi brynis i blanhigion trwy’r post yn hytrach na’r hadau
oedd tipyn rhatach, gan feddwl y cawn glôb artichoke neu ddwy eleni.
Dyna dwi’n gael am fod yn rhy ddiamynedd i feithrin planhigion fy hun o had am
ddwy flynedd yn’de! Beth bynnag, mi rannais i chwech ohonynt ymysg ffrindiau,
ac mae’r rheiny’n cael gwell hwyl ar eu tyfu nhw yn ôl y son. Diawlad uffar!
Marigolds digon truenus sydd ar y dde, a thafod yr ych, neu borage sy’n tyfu ar y chwith. Blodau
glas ar un a gwyn ar y ddau arall. Mi ges i flodau serennog glas borage ynghanol
ciwbiau rhew mewn diod ryw dro, gan gyd-weithiwr: brandi ysgawen oedd o wedi’i
wneud adra, os dwi’n cofio’n iawn.
Heblaw am yr atgof braf hwnnw, dwn ‘im pam ddois a’r hadau deud y gwir. Go
brin ‘mod i am fwyta’r dail blewog sydd arno. Blas ciwcymbar medden nhw, ond
waeth i chi fwyta ciwcymbar os ydach chi isio blas hwnnw, am wn i. Maen nhw’n
flodau digon del, ac yn siŵr o helpu i ddod â gwenyn a chacwn atynt ac i
beillio’r ffa. Efallai y gallwn greu lawnt croquet acw ar gyfer rhannu Pimms
efo’r garddwyr eraill dan haul Stiniog!
Mae’r llun ar ben y darn yma wedi gwneud i mi fynd i bori eto mewn llyfr
o’r enw ‘Cacwn yn y ffa. Casgliad o ysgrifau Wil Jones y naturiaethwr’, (Carreg
Gwalch, 2004). Roedd y diweddar Wil yn gwmpeini difyr ar deithiau yng
ngwarchodfeydd natur y fro, ac yn medru rhannu ei frwdfrydedd dros fywyd gwyllt
a’i wybodaeth eang efo pawb o’i gwmpas. Mae un o ysgrifau’r llyfr yn son am
ddiffyg cacwn (bymbl-bîs) i beillio ei ffa yng Nghroesor. Er bod Stiniog ddau
gant o droedfeddi’n uwch eto na Chroesor, mae digon o gacwn, gwenyn, a phryfed
hofran acw i hel paill a helpu’r garddwr.
Dyddiau hirfelyn tesog sy’n brin!
16.6.12
Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd
Craig nyth y gigfran, Carreg Blaenllym, a Thomen Fawr yr
Ocli yn gefndir i’r pys a’r ffa.
Lle braf i weithio, ond yn amlwg mae’r tymor tyfu yn fyr yma
ymysg y mynyddoedd. Mae safle’r rhandiroedd yn llygad yr haul trwy’r dydd pan mae'n braf. Yn anffodus mae’r safle’n un agored iawn hefyd; yn dioddef efo’r
gwynt, ac yn le digon oer.
Dyma rywfaint o’r planhigion sydd eto i’w plannu allan.
Ar y chwith yn y blaen mae berwr dŵr, i’w plannu ar hyd ymyl y pwll bach ac yn y gornel
wlyb. Tafod yr ych wedyn, sef borage, bron a
ffrwydro allan o’r celloedd bychain isio’u plannu.
Gellid defnyddio’r dail (blas ciwcymbar medd rhai) mewn salad neu wrth goginio,
a’r blodau i addurno bwyd neu bwdin neu ddiod. Persli dail-llydan sydd ar y
dde. Tu ôl i’r rhain mae blodau’r fagwyr (wallflower), ac amrywiaeth o flodau
tegwch y bore (morning glory) sydd heb egino. Yn y cefn mae dail Claytonia (letys y mwynwr),
a brocoli piws yn y cwpanau coffi.
Subscribe to:
Posts (Atom)