Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

21.8.12

Cacwn yn y ffa

 Ar ôl penwythnos arall i ffwrdd, mi aeth yn hir eto rhwng dau ymweliad â’r lluarth. Mi fues i yno rhwng cawodydd y bore ‘ma o’r diwedd, a chael pedwerydd gnwd o bys. Mae’r rhain yn eu hunain yn golygu fod yr ymdrech ddim yn gwbl ofer. Mi helis i ‘chydig o ffa melyn hefyd, ac mi gaiff y Pobydd a finna’r rheiny efo’n te ni heno.
Tra oeddwn i ffwrdd yn gweithio, mi gafodd y merched dri o’m hoff bethau, sef bara cartra’ Ddydd Gwener; cyri tecawê Nos Sadwrn; a chrempog Ddydd Sul. “Dio’m yn deg” meddwn wrth y Fechan mewn protest dros y ffôn; ac ‘roedd ‘na hen dynnu coes ganddi! ‘Mond yn iawn felly i mi gael fy hoff beth yn y byd i gyd heno, sef ffa melyn. Ac mae wythnosau o’u bwyta o ‘mlaen i yn ôl y cnwd sy’n datblygu..
Dwi wedi plannu’r brocoli piws allan, yn lle’r india corn/pys melyn digalon, ac wedi cario dŵr i lenwi casgen, rhag ofn y cawn gyfnod braf a sych ddiwedd yr haf ‘ma (...ha! Doniol iawn Wilias!). Fel arall, dim ond rhyw ‘chydig o chwynnu oedd ei angen heddiw. 

Mae’r planhigion marchysgall wedi dod at eu hunain ar ôl y sioc wreiddiol o gael eu plannu ar ochr mynydd! Gyda lwc bydd blagur ar y rhain erbyn yr haf nesa’. ‘Roedd yn rhaid i mi brynu deg ohonynt trwy’r catalog, a finna dim ond eisiau dau neu dri. Mi brynis i blanhigion trwy’r post yn hytrach na’r hadau oedd tipyn rhatach, gan feddwl y cawn glôb artichoke neu ddwy eleni. Dyna dwi’n gael am fod yn rhy ddiamynedd i feithrin planhigion fy hun o had am ddwy flynedd yn’de! Beth bynnag, mi rannais i chwech ohonynt ymysg ffrindiau, ac mae’r rheiny’n cael gwell hwyl ar eu tyfu nhw yn ôl y son. Diawlad uffar!
Marigolds digon truenus sydd ar y dde, a thafod yr ych, neu borage sy’n tyfu ar y chwith. Blodau glas ar un a gwyn ar y ddau arall. Mi ges i flodau serennog glas borage ynghanol ciwbiau rhew mewn diod ryw dro, gan gyd-weithiwr: brandi ysgawen oedd o wedi’i wneud adra, os dwi’n cofio’n iawn.
Heblaw am yr atgof braf hwnnw, dwn ‘im pam ddois a’r hadau deud y gwir. Go brin ‘mod i am fwyta’r dail blewog sydd arno. Blas ciwcymbar medden nhw, ond waeth i chi fwyta ciwcymbar os ydach chi isio blas hwnnw, am wn i. Maen nhw’n flodau digon del, ac yn siŵr o helpu i ddod â gwenyn a chacwn atynt ac i beillio’r ffa. Efallai y gallwn greu lawnt croquet acw ar gyfer rhannu Pimms efo’r garddwyr eraill dan haul Stiniog!
Mae’r llun ar ben y darn yma wedi gwneud i mi fynd i bori eto mewn llyfr o’r enw ‘Cacwn yn y ffa. Casgliad o ysgrifau Wil Jones y naturiaethwr’, (Carreg Gwalch, 2004). Roedd y diweddar Wil yn gwmpeini difyr ar deithiau yng ngwarchodfeydd natur y fro, ac yn medru rhannu ei frwdfrydedd dros fywyd gwyllt a’i wybodaeth eang efo pawb o’i gwmpas. Mae un o ysgrifau’r llyfr yn son am ddiffyg cacwn (bymbl-bîs) i beillio ei ffa yng Nghroesor. Er bod Stiniog ddau gant o droedfeddi’n uwch eto na Chroesor, mae digon o gacwn, gwenyn, a phryfed hofran acw i hel paill a helpu’r garddwr.
Dyddiau hirfelyn tesog sy’n brin!

2 comments:

  1. Doeddwn ddim yn gwybod yr enw Gymraeg am "borage" felly diolch! Mae'r planhigion yma yn ardderchog i wenyn mêl, a hefyd yn lliwgar mewn salad ffrwythau.

    ReplyDelete
  2. Diolch Ann; mi edrycha'i ymlaen i roi'r blodau mewn salad ffrwythau.
    Unrhyw un arall wedi gwneud defnydd arall ohonynt? Mi fyddan nhw'n edrych yn dda mewn jeli mae'n siwr..

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau