Gŵyl banc gwlyb arall; dim byd yn newydd yn hynny! Roedd Dydd Sul yn eitha’
braf o leia, ac mi ges i gyfle i glirio’r gwely tatws yn yr ardd gefn, a hau
rhesi o ddail salad yno. Dwi wedi tynnu rhwyd dros y cwbl wedyn i warchod rhag
y cathod sy’n felltith yma. Cnwd tatws difrifol o sâl ges i eleni, efo pob un
o'r gwlydd wedi dioddef blight. Dim ond dwy dysan gwerth eu cadw ges i o ambell
wlyddyn, a’r lleill yn rhy fân.
Mi fuo ‘na storm fellt wych yma nos Wener, a’r drws cefn yn clecian ac ysgwyd efo bob taran, a’r glaw yn hyrddio’r ffenestri. Bore trannoeth roedd y rhandir fel pwll. Mae prif lwybrau’r rhandiroedd yn gwaethygu. (Tydi teiar fflat ar y ferfa ddim yn helpu chwaith!) Mae tri o’r pedwar rhandir sy’n ddibynnol ar lwybr salaf y safle yn parhau heb eu trin, (fi sydd ar y llall), a dwi’n eitha’ sicr fod cyflwr y llwybr wedi cyfrannu at ddiffyg gweithgaredd arnynt.
Bnawn Sadwrn, mi fuon ni yng Nghaergybi, yn mwynhau barbaciw yn yr haul.
Ia, haul! Roedd hi wedi bod yn pigo bwrw yn Stiniog cyn i ni gychwyn, ac roedd
hi fel nos yn Nyffryn Ogwen dan gymylau duon bygythiol iawn. Erbyn croesi cob
Ynys Gybi, roedd yr awyr yn las. ¡#*¤!
Mae’n ddigon i yrru rhywun i regi... Ta waeth, mi gawson ni bnawn hyfryd yng
nghwmni’r teulu estynedig, er ‘mod i’n genfigennus iawn o’u agapanthus anferth
nhw, a’n rhai ni nunlle agos i flodeuo ar hyn o bryd!
Tair blynedd yn
ôl, mi fuon ni fel teulu ar Ynys Skye am wyliau, a chael glaw bob dydd. Y
llynedd mi aethom ni i Lydaw a chael glaw yn fanno am ddeuddydd cynta’r
wythnos. Fel wnes i ddyfynnu yn fy mlog cyntaf un, mae’n beryg fod y bardd Gwyn
Thomas yn reit agos ati wrth awgrymu bod pobl y Blaenau ‘wedi eu tynghedu i fod
yn wlyb’!
Tra'n mochel
rhag y glaw efo gwydriad o seidar yn Llydaw, mi ddarllenais am y Santig Du
(Sant Bach Du) yn eglwys gadeiriol Kemper. Roedd yn arferiad gan bobl y fro
honno fynd a bara at ddelw y sant, ar gyfer y tlodion, yn gyfnewid am ffafrau
syml. Doedd y Santig Du ddim yn un am gynnig gwyrthiau anhygoel, ond os oeddech
chi eisiau dymuno taith ddiogel adre’ i rywun, neu dywydd da ar gyfer y
cynhaeaf; fo oedd y boi i chi. Mi aethom ni felly ar bererindod i gyfarch y
Santig Du yn yr eglwys hardd: gadael darn o baguette iddo (ac un Ewro yn y
blwch i fod yn saff), a gofyn am dywydd gwell. Coeliwch neu beidio, roedd
gweddill yr wythnos yn hyfryd a phoeth!
Un diwrnod, roedden ni ar ben goleudy Penmarc’h, yn methu gweld y môr wrth
ei droed oherwydd y glaw a’r niwl, a’r diwrnod canlynol roedden ni’n torheulo
yn y môr.
Mi ‘da ni wedi
mabwysiadu’r Santig Du ers hynny, gan ddod a llun ohono adra i Gymru, i’w osod
ar ochr y gist fara yn y gegin. Tydi’r cr’adur ddim yn teithio’n dda yn amlwg,
oherwydd fedra’i ddim yn fyw myw a’i gael o i wella tywydd Stiniog!
[Dyfynnu: "Glaw; mi ddaw fel y mynn" allan o 'Blaenau', Gwyn Thomas]
Blog diddorol!
ReplyDeleteTatws gwael yn fyma hefyd eleni. Wnês ti ddewis un o'r ychydig ddyddiau heulog i ddod draw i Ynys Môn.
Diolch Gorwel.
ReplyDeleteDwi wedi rhoi'r gorau i dyfu tomatos oherwydd y lleithder parhaol. Bysa'n gas gen i orfod rhoi'r gorau i datws hefyd. Dim ots gen i am datws diweddar, maincrop, ond mae'n job curo tatws newydd yn syth o'r pridd tydi..