Pawb arall yn gwylio seremoni gau y 'Lympics... a finne'n dathlu'n
ddistaw fod yr holl beth bron ar ben.
Mwya'n byd o fedalau oedd Prydain yn gael, mwy' Prydeinig
oedd pobl Cymru a'r Alban yn deimlo dwi'n siwr. Cam yn ôl yn nyddiau datganoli.
Roedd saith o Gymry ymysg yr enillwyr medalau. Pob lwc
iddynt. Ond fy arwr i heddiw ydi Guor Marial,
y rhedwr marathon o Dde Swdan, gwlad a ennillodd annibynniaeth oddiwrth Swdan
yn ddiweddar ar ôl rhyfel erchyll. Meddai yn yr Huffington Post:
"Some things are more important than Olympic glory. If I ran for Sudan, I would be betraying my people. I want to bring honour to my country. I'm not a citizen of Sudan. That's not my country. Would you represent England because England once ruled America? It's as if the IOC thinks South Sudan and Sudan are the same country. We are our own nation, with our own president and our own flag."
Dwi am wneud cais i'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol i gael cynrychioli Cymru yn Rio 2016 dan faner
'Athletwyr Annibynnol yr Olympics', fel wnaeth Marial eleni, ynghŷd a thri athletwr o Antilles yr Iseldiroedd. Be
wna'i dwad...dressage, neu nofio syncronedig? Pwy sy' awydd ymuno? Mi gawn wisg o frethyn cartref ar gyfer y seremoni agoriadol.
47fed oedd Marial yn y marathon heddiw...ond fel welis i ar grysau yn y Steddfod: Gwell colli dros Gymru, nag ennill dros GB!
Mae deiseb ar wefan ein Cynulliad yn galw am gydnabyddiaeth i Gymru fel cenedl i gystadlu yn Olympics y dyfodol. Cerddwn (neu Rhedwn) Ymlaen gyfeillion!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau