Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

12.8.12

Yno mae fy seithfed nef


Daeth i ben deithio byd; wel, Bro Morgannwg beth bynnag. Cawsom wythnos o wyliau o fewn tafliad malwan i arfordir de Cymru, ac mi ddaeth i ben yn rhy gyflym o lawer. Mae’n braf serch hynny cael cysgu yn eich gwely’ch hun tydi, a mwynhau panad efo dŵr glan Llyn Morwynion. Tydi panad ddim ‘run fath yn nunlle arall!
Erbyn dydd Mawrth –er ei bod hi’n tywallt y glaw ar faes yr eisteddfod ac ar siroedd y de, mi glywsom edliw o’r filltir sgwâr, ei bod hi’n braf yno, ac erbyn gwres dydd Gwener, mi ffeindiais fy hun yn poeni sut oedd y rhandir yn mynd i gael dŵr...ond dychwelodd y glaw neithiwr (nos Sadwrn).
Cyn cychwyn ar ein taith, wythnos yn ôl, mi es i draw i’r lluarth i hel llond bag o bys, i’w bwyta efo’n picnic; ac mi fues i yno eto’r bore ‘ma i hel bagiad arall. Mae mwy ar eu ffordd: er imi gwyno am amodau’r rhandiroedd, tydw i erioed wedi gweld cymaint o bys a ffa!






 
Mae’r pys melyn/india corn ar y llaw arall, yn mynd i gael clec. Fel welwch chi yn y llun, troedfedd o daldra ydi’r cryfaf ohonynt, a does ‘na ddim gobaith cael cnwd bellach. Mae gen i blanhigion brocoli piws yn barod i gymryd eu lle. Mi gaiff y ffa piws sydd rhwng y corn aros, ‘chos hyd’noed os na ddaw ffa arnynt, mi fydd y planhigion yn cyfrannu rhywfaint o nitrogen i’r pridd. Mae’r ffa dringo, i’r chwith, wedi altro’n dda ers wythnos ac yn blodeuo o’r diwedd.


Ambell lun o’r gwyliau:

 

Melys moes mwyar. 
Dyma fwyar cynta’r flwyddyn i mi; dim mwyar duon, ond mwyar Mair (dewberry, Rubus caesius), ar dwyni tywod gwarchodfa natur Cynffig. Lle arbennig.


 


 

‘Dere'r seren atai'n llawen’. 
Celynnen y môr, Eryngium maritimum, ar draeth Sker. Lle braf os fedrwch chi anwybyddu gweithfeydd Port Talbot i’r gorllewin.  (Daw’r dyfyniad o gân werin Y Ferch o’r Scer).





 
E-coleg. 
Maes gwyrdd yr eisteddfod. Digon o bethau’n mynd ymlaen yno i gadw rhywun yn ddiwyd am ddiwrnod cyfa’. Gobeithio y bydd ym mhob Steddfod o hyn ymlaen.







Trefn yng Ngerddi Dwnhrefn. 
Ffrwyth meryswydd yng ngardd furiog ‘castell’ Dunraven. Medlar (ffrwyth y mae’r Ffrancwyr yn ei alw’n dwll tîn ci, mae’n debyg. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig ‘afal agored’, ond hefyd ‘afal tindwll’!) er fod y plasdy wedi ei ddymchwel, mae’r gerddi’n cael eu cynnal yn llwyddianus iawn gan y cyngor sir. Mi ges ddianc yno am orig tra oedd y plant a’r Pobydd ar y traeth eto. 



Amryw byd; am ryw hyd.
Mi ges i grwydro i ben safle hen fryngaer hefyd, lle bu Caradog yn cynnal cynulliad i drefnu gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid; ac i ben Trwyn y Wrach i edmygu’r hyn sydd ar ol o'r glaswelltir blodeuog cyfoethog yno, a’r milltiroedd o glogwyni calchfaen trawiadol bob ochr iddo.




Fel sy’n draddodiadol, mi fuon ni’n canu ‘Mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog’ yn y car wrth gychwyn ‘nôl tua’r gogledd, canys –er mor wych ydi cael ymweld ag ardaloedd eraill trawiadol ein gwlad hardd- yno mae ein seithfed nef.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau