Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

28.4.16

Dwyn ffrwyth?

Y Fechan: "Dad! Be ydi'r aderyn coch a glas 'na efo pen du, yn y goeden eirin?"
Fi: "Asiffeta!" ...ac allan a fi...

Ar ôl rhuthro allan i glymu hen gryno-ddisgiau i ganghennau'r goeden, mi ges i gyfle i egluro wrthi mae coch y berllan oedd yr aderyn diarth. Ceiliog oedd yr un hardd coch a glas, a'r iar efo fo, yn gymar llai lliwgar, fel nifer o adar eraill.


Dim ond unwaith o'r blaen -dwi'n meddwl- y gwelson ni goch y berllan yn yr ardd, ac yn wir yn y cyffiniau, ac mae'n wirioneddol wych i weld adar mor glws ac anghyffredin ynghanol y dref.

Ond! Maen nhw'n bwyta blagur ar goed ffrwythau 'tydyn. A'r bore welodd y fechan nhw, pigo petalau oddi ar y blodau eirin prin oedden nhw! Dwi wedi swnian o'r blaen* am ddiffyg ffrwythau ar y goeden eirin Dinbych, felly dim ond hanner croeso cyndyn gaiff coch y berllan yma ar hyn o bryd, er mor brydferth ydyn nhw.  Hen ddyn blin dwi 'de...


Ond fel mae'r blodau wedi dechrau agor ar y goeden eirin dros yr wythnos d'wytha, mae'r tywydd wedi troi'n oer eto, yn union fel llynedd, a chenllysg ac eira'n cynllwynio yn fy erbyn gorau fedran nhw hefyd!

Y goeden eirin mewn cawod eira ar Ebrill y 27ain.
 Dwi wedi bod allan efo brwsh paent yn gobeithio 'mod i'n trosglwyddo rhywfaint o baill o flodyn i flodyn, ond amser a ddengys os bydd yr ymdrech yn dwyn ffrwyth eleni o'r diwedd. Os ydi'r adar a'r tywydd yn dwyn fy ngobeithion am ffrwyth eto, mi gaiff y goeden eirin fynd 'nôl i Ddimbach i'r diawl.

*Dim eirin -Awst 2015

Coch y berllan ar Wicipedia


15.4.16

#GwynThomas: 'Ple heno yr wyt ti?'


Ar brynhawn noeth yn y gaeaf
Fe welwch freichled o dref ar asgwrn y graig.

-Gwyn Thomas, 'Blaenau'. Cyfrol Ysgyrion Gwaed, Gwasg Gee, 1967

Diolch am yr angerdd, Gwyn, a diolch am y bennawd.

Mae teyrnged ar wefan papur bro Stiniog a'r cylch na fedra' i wella arni, felly taw pia hi am rwan, ond bydd colled ar ei ôl yma yn ei filltir sgwâr.

Vivian Parry Williams yn holi Gwyn Thomas mewn neuadd lawn ar noson lansio'i lên-gofiant, 'Llyfr Gwyn', nôl yn Nhachwedd 2015 yn Stiniog.

13.4.16

Nawr lanciau rhoddwn glod

...y mae'r gwanwyn wedi dod...


Britheg (dim ond un) a chlychau dulas (pump) wedi ymddangos eto, a finna'n meddwl fod y llygod wedi bwyta pob un ohonynt!

Dwi'n meddwl siwr nad oedd unrhyw un o'r ddau yma wedi blodeuo yn 2015, felly mae croeso mawr i'r ddau eleni.


Mae digon i edrych ymlaen ato eto; moliannwn oll yn llon.

26.3.16

Arbrawf rhif 400...

Mae Dydd Gwener y Groglith yn teimlo fel dydd calan i mi. Diwrnod cynta'r flwyddyn o ran garddio go iawn. Y diwrnod cyntaf o wyliau hefyd yn aml iawn. Mae'r dydd yn hirach, y pridd yn g'nesach, a'r brwdfrydedd yn berwi.

Dwi ddim yn llwyddo bob tro, ond dwi'n trio plannu'r tatws cynnar ar Ddydd Gwener Groglith bob blwyddyn. Mi gawson ni ddiwrnod sych eleni, a'r haul yn sbecian bob-yn-ail rhwng y cymylau, felly mi fu'r Fechan a finna allan yn plannu hanner dwsin bob un o datws hâd Pentland Javelin, a Dug Efrog Coch.


Does dim lle ar gyfer mwy yn yr ardd gefn, ond os ga'i well trefn ar y rhandir eleni, mi blannwn ni datws ail-gynnar yn fanno..

Mae'r tatws unwaith eto'n gorfod dygymod â syniad penchwiban gen i. Arbrofion sydd weithiau'n drychinebus, ac yn amlach na pheidio yn aflwyddianus; prin byth yn cael eu hail-adrodd! Ond mae pob methiant yn addysg tydi.

Plannwyd nhw mewn tyllau eto yn hytrach na mewn ffos, ond dwi wedi gadael y cardbord fu ar wyneb y gwely dros y gaeaf yn ei le eleni, i gadw'r chwyn i lawr, ac i gadw'r cathod melltith rhag bawa yno.

Mi roeson ni dwmpathau o gompost ar ben bob twll wedyn, gan obeithio bydd y cardbord wedi pydru digon pan ddaw hi'n amser i'r gwlydd dyfu trwyddo.


Mae'r tywydd wedi troi'n wlyb rwan; am weddill penwythnos hir y pasg beryg. Ond mae digon o waith clirio a golchi i'w wneud yn y tŷ gwydr. Wedyn gallwn hau hadau fel 'mynnwn.


20.3.16

Deffro! Mae'n ddydd.

Ar ôl diwrnod yn mwynhau rygbi a chwrw da pedwar o dai potas y dre' ma ddoe, dim ond wysg fy nhîn ac yn ara' deg a fesul dipyn ddois i 'nôl i dir y byw heddiw.

Ond am ddiwrnod! Haul cynnes ac awyr las. Buan iawn ciliodd y pen mawr wrth glirio a thocio a llifio a hollti. Cael crwydro ac arolygu be sy'n deffro, be sy'n tyfu, be sy wedi diodde dros y gaeaf hir gwlyb. Edmygu canu'r ceiliog mwyalchen. A breuddwydio a hel meddyliau am be sydd eto i ddod...

Mi gawson ni ginio al fresco cynta'r flwyddyn, a glöyn byw cynta'r flwyddyn hefyd.

Dim heddiw oedd y diwrnod braf cynta' wrth gwrs, ac mae dau fath o gacwn a dau fath o bry hofran wedi ymddangos ychydig ddyddiau cyn y glöyn mantell paun oedd yma heddiw. Ond heddiw oedd y diwrnod cynta' i ni fod adra i roi cadair bob un wrth ddrws y cefn, ac eistedd efo'r haul yn gynnes ar ein crwyn.

Hyfryd. Diolch am ddyddiau fel'na.

Hen lun o'r mantell paun.
Llun sâl o gacynen ar flodau grug ar y 16eg o Fawrth 2016. Cacynen yr ardd (Bombus hortorium) efallai.

Pry' hofran o deulu'r Eristalis, ar flodyn dant y llew. 16eg Mawrth 2016.