Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

28.4.13

Dechrau eto

Ai dyma'r adeg orau o'r flwyddyn i chi? Dwi rhwng dau feddwl.


Y cyfnod byr hwnnw rhwng cyffro yr hau a boddhad yr egino; a siom anochel yr haf, lle mae gobaith yn gallu troi yn dorcalon yn sgil ymgyrchoedd ar y cyd rhwng y tywydd a'r malwod a'r llygod a'r lindys!



Mae gweld silffoedd yn llawn o egin-blanhigion yn werth chweil tydi. Rhesi o bethau bach brwdfrydig, bron a thorri eu bolia' isio gael eu traed yn y pridd.

Ffa melyn; ffa dringo; pys; pys per; letys a rocet; blodau haul. Wedi eu hau ar Ebrill y 4ydd.

Rhywbeth i'w edmygu. Rhywbeth dros dro!

Ta waeth, mae'n rhaid cadw'r ffydd, a dal i gredu... dyna pam 'dan ni'n dal ati wrth gwrs. Y pethau diweddaraf i'w hau dan do ydi ffa piws (Cosse violette), pys melyn/india corn (double standard bicolor), er gwaethaf methiant llwyr y llynedd, aeron goji, pwmpenni gaeaf (Burgess buttercup); ac ambell beth a brynais yn Sioe Arddio Caerdydd fel courgettes du (dark fog), a phwmpenni glas (crown prince). Eto, methiant llwyr oedd pob un pwmpen y llynedd, ond dyfal donc a dyrr y garreg. Ar ffenest y gegin mae'r pys melyn am fod angen 18 gradd o dymheredd i egino. Beryg fod y pwmpenni yr un fath ond does dim lle i bopeth yn y ty.


Mae'r Pobydd wedi prynu dau blanhigyn tomatos. Ar ol cyfres o hafau gwlyb, roeddwn i wedi llyncu mul efo tomatos, a wnes i ddim eu tyfu y llynedd. Roedden nhw'n cael y clwy tatws bob haf (yn y ty gwydr; dim gobaith eu tyfu yn yr awyr agord yma), a'r ymdrech o'u tendio yn llawer mwy na'r wobr bob tro. Beth bynnag, mae Acw am ofalu amdanyn nhw y tro yma, felly mae angen i mi glirio 'chydig o le iddyn nhw a'u plannu ar ei chyfer hi.
Mint (basil mint) ydi'r pot canol. Rhywbeth arall i mi ei ladd!


 Dim ond tair britheg (Fritillaria) ddaeth allan eleni. Mae llygod yn hoff iawn o'u bylbiau nhw yma, a bylbiau clychau dulas (Muscari) a dim ond dyrnaid o'r rheiny sydd wedi dod eleni hefyd.


Mae gan Ann lun o goeden gellyg yn llawn blodau ar ei blog Ailddysgu. Argian dwi'n genfigenus! Dim ond dechrau magu dail mae'r ddwy ellygen sydd acw. Y goeden afal Enlli (isod) sydd bellaf yn ei blaen yma.

Erbyn dechrau Gorffennaf y llynedd roeddwn yn amau fod popeth 20 diwrnod yn hwyrach na 2011. Hyd yma eleni, dwi'n meddwl fod pethau tua 14 diwrnod yn hwyrach eto...


Mae'n tywallt y glaw heddiw. Diolch i'r drefn, mi gawsom ni ddiwrnod braf ddoe i groesawu Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd i Stiniog. Mwy o'r hanes ar wefan y papur bro lleol, Llafar Bro.


8 comments:

  1. Anonymous28/4/13 21:31

    Blog ardderchog. Trueni na fyddai miloedd yn ei ddarllen.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am eich geiriau caredig. Safon y darllenwyr sy'n bwysig, nid niferoedd!!

      Delete
  2. Newydd brynu coeden afal Enlli! Wna'i ddodi llun o'r blagur ar y blog

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Cath. Dy goeden di ymhell ar y blaen yn ol dy luniau! Gobeithio y cewch chi gnwd dda. (A ninnau hefyd)

      Delete
  3. Anonymous2/5/13 12:09

    Iw âr e pôet, Wilias. Meni hapi rityrns on ddi old bloc.

    Ofyr and owt,

    Robot

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Robot. Long teim no si. Da clywed gennyt eto.

      Delete
  4. Anonymous3/5/13 17:18

    Ai'f bun feri bisi ofyr ddy lasd cypyl o mynths wat wudd baiing ddy ceffyl and dden ddy musus lîfing mi (ffor ddy lasd teim, shi ses) and ôl ddat, byt ai rîd ior bloc efri Synde nait wuddowt ffêl and get e lot of pleshyr as wel as ediwceshiyn owt of ut.

    Cîp yp ddy gwd wyrc.

    Ôl ddy besd,

    Robot

    ReplyDelete
    Replies
    1. Dwi'n falch iawn o gael dy gefnogaeth di Robot, a selogion eraill hefyd.

      Delete

Diolch am eich sylwadau