Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

21.5.12

Cas bethau, hoff bethau, rhif 2


Dwi wedi bod yn chwilio’n selog ers tua phythefnos, ac fel oeddwn yn dechrau ymlacio a meiddio meddwl na welwn i mo’r diawled bach, dyma weld y tyllau mân, nodweddiadol ar ddeilen gwsberan ddoe. Lindys y llifbryf ydi cas beth heddiw.  Goosberry sawfly  -dyna sydd dan y lach.
Lindysyn (larfa i fod yn dechnegol gywir) llifbryf ym mhob un o'r tyllau...
Ddwy flynedd yn ôl mi gafodd y ddwy goeden gwsberins a’r goeden gyrins coch eu troi yn sgerbydau di-ddail, ac mi gawsom ni flwyddyn sâl iawn o ran ffrwythau'r llynedd. Dwi’n benderfynol na chaiff hynny ddigwydd eto.
Hyd yma, un ddeilen gwsberan oedd wedi’i chael hi ddoe, a dwy ddeilen heddiw ar yr un llwyn, efo’r llall yn glir ar hyn o bryd. Mi ges i siom heddiw i weld eu bod ar un ddeilen cyrins coch.
 Mi fydd yn frwydr ddyddiol rŵan, am nad ydw i’n fodlon defnyddio cemegau i’w difa. Tydi dŵr a sebon yn dda i ddim yn fy mhrofiad i, felly’r unig ddewis ydi eu tynnu a’u bwydo i’r titws, neu eu gwasgu rhwng bys a bawd! Mae’n bosib mae’r pryf sydd yn y llun yma o’r 12fed ydi’r oedolyn.


Moron




 Mae Derec Tywydd wedi deud heno y gallwn ddisgwyl “a taste of summer” am weddill yr wythnos. Nosau braf y gwanwyn ydi fy hoff beth ar hyn o bryd. Medru eistedd allan yn yr ardd gefn efo paned yn gwrando ar y gwenoliaid duon yn sgrechian uwchben wrth hela gwybed, a chrwydro’r ardd yn sylwi ar y planhigion yn newid o ddydd i ddydd. Mae’r rhesi o lysiau yn egino a dangos addewid –o’r diwedd. Melys moes mwy.







Mae’r rhandir yn edrych yn well hefyd...

Yn y gwely pellaf, mae deg o goed mafon. Yn y nesa’ mae dwy goeden gwsberins ac un goeden cyrins duon. Buddsoddiad at y flwyddyn nesa a’r blynyddoedd i ddod ydi’r dair yma, ac maen nhw’n ddigon bach ar hyn o bryd imi wasgu dwsin o blanhigion ffa melyn (broad) i mewn bob ochr iddynt. Hyn yn sicrhau rhyw fath o gynnyrch o’r gwely eleni. Mwy o ffa melyn -un arall o fy hoff bethau yn y byd i gyd- a dwy res o bys sydd yn y gwely nesa. Yn y gwely olaf, i’r dde o’r lleill, mae tair wigwam o ffa dringo (runner), a digon o le ar gyfer rhes o ffa Ffrengig, ac india corn, pan fydd y rheiny’n barod i’w trosglwyddo o’r tŷ gwydr. Efallai y rho’i bwmpen yn eu canol hefyd.
Cyrins duon a gellyg daear sydd yn y twbiau gwyn a’r potiau pridd; tatws yn y sach; origano yn y pot du; a mwy o doriadau cyrins duon ar gyfer creu gwrych ohonynt ar hyd un o derfynau’r plot.

Hoff bethau eraill ar hyn o bryd: 
1. Cywion mwyalchen. Mae'r iar a'r ceiliog yn cario bwyd i dri chyw ar hyn o bryd. 
2. Cwrw! Wedi bod yng ngwyl Cwrw ar y Cledrau dydd Sadwrn, lle oedd ganddynt 64 gwahanol gwrw, fel 'Brenin Enlli'; 'Mwnci Nel'; 'Carmen Sutra'; a llawer iawn mwy. Rhai yn hyfryd a rhai yn uffernol. Cwrw Da, cwmni da, a'r Moniars...wel dau allan o dri ddim yn ddrwg nac'di.
3. Y tymor beicio wedi cyrraedd eto, a'r Giro d'Italia ar y bocs.
4. Rhiwbob. Llwythi ohono acw ar hyn o bryd, ond does byth digon i'w gael. Y Pobydd wedi gwneud pwdin blasus dydd Sul.


2 comments:

  1. Anonymous25/5/12 14:34

    Saw swallows over the allotment yesterday evening. Eich rhandir yn edrych dda.

    ReplyDelete
  2. Diolch yn fawr am eich sylw Lynda. I photographed the swallows last summer, I'll post a photo soon.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau