Yng ngwenynfa Talycafn ddydd Sul, mi fues i'n gwylio gwenyn yn cario paill i'w cychod i fwydo'r genhedlaeth nesa. Paill melyn llachar o flodau dant y llew. Mae dail ifanc dant y llew yn eitha da mewn salad, ond dyma ddefnydd arall difyr i'r blodyn piso'n gwely, y tro hwn y petalau sy'n cael eu defnyddio. Hysbyseb gan 'Y Dref Werdd' ydi o:
[mae Blogger wedi colli'r hysbyseb yn ddiweddarach -sori. Gwahodd pobl i sesiwn gynhyrchu marmaled dant y llew oedd o]
Mi fues i'n edrych trwy hen luniau yn ddiweddar, a chael hwn, o wanwyn
1980. Mae'n llun difrifol o sâl, ond roeddwn wedi gwirioni’n lan efo fy
nghamera SLR gynta’, camera ail-law Zenit, ac yn tynnu llun o bopeth. Yr
hang-glider oedd testun y ffotograffiaeth bryd hynny, ond y rheswm mae’r llun yn
ymddangos yma ydi fod safle’r rhandiroedd ynddo.
Rhododendrons sydd yng nghornel y safle. Mae’r rheiny wedi mynd o fanno (ond wedi ymledu i lefydd eraill), oherwydd yn eu lle fe ail-agorwyd y lein fach i ganol y dref tua dwy flynedd
wedyn. Gorsaf y lein fawr, rheilffordd Dyffryn Conwy, sy’ tu ôl i’r rydi-dendrons,
a Chraig Bwlch y Gwynt a chwarel Llechwedd yn y cefndir.
Roedd pobl yn dod yn aml ers talwm i neidio oddi ar Graig
Nyth y Gigfran efo dim ond triongl o frethyn a phwt o wynt i’w cadw’n fyw nes
iddynt lanio ar gae y rhandiroedd awr neu ddwy wedyn. Pawb at y peth y bo am wn
i!
Llun arall i orffen. Enghraifft ddigalon arall o ddefnyddio
rhaglen gyfieithu robotaidd ar-lein. ‘Llawn ‘n fawr’ o ddiawl. Wyau cyfrwng unrhyw un?
"The Cooperative: good with food..... shit with translation" |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau