Wedi bod wrthi'n adeiladu ac addurno 'gwesty pryfaid' efo'r Fechan. Roedd hi wedi gweld rhywbeth tebyg oedd ei nain a'i thaid wedi brynu, ac eisiau un. Gan 'mod i'n gyndyn i wario pres, mi aethom ni ati i wneud hwn o hen goed oedd yn y cwt, darn o hen raff sgipio i'w hongian, a stribedi o hen diwb olwyn beic i ddal y to yn ei le. Ei lenwi wedyn efo brigau, a darnau bambw, a choesynau gwag planhigion fel crib y pannwr a ffenel. Nid bod fawr o debygrwydd iddo fod yn werthfawr iawn i bryfetach, rhyngthoch chi a fi, ond roedd yn llawer o hwyl ei greu, ac mae’r ddau ohonom yn falch iawn ohono! Dros y blynyddoedd d'wytha, 'da ni wedi stwffio brigau a bonion i bob twll a chornel, yn y gobaith o gynnig cilfachau a llety i bryfetach buddiol fyddai’n ennill eu lle trwy fwyta plâu a pheillio ffa a ffrwythau.
Dwi wedi methu’n glir a chael llun ar fformat ‘portrait’ yn y post yma; mae’n ymddangos ar ei ochr bob tro, felly rhaid bodloni ar y llun salach uchod mae gen’ i ofn. Wedi methu cael y rhain i ymddangos ochr wrth ochr hefyd, ond twpsyn cyfrifiadurol fues i erioed. (Gwerthfawrogir unrhyw gyngor!)
Wedi treulio awr ar y rhandir, efo’r fechan, yn carrega. Mi soniais yn y post ddwytha sut llenwyd y gors oedd yno’n wreiddiol, efo llechi. Mae hynny o bridd sydd yno rwan yn llawn o lechi, a llwyth o waith o mlaen i er mwyn clirio darn. Dwi’n rhoi’r cerrig wedyn yn y ffosydd dwi wedi’u tyllu i drio sychu’r tir. Dyfal donc..
Dim ond y Fechan sy’n fodlon helpu ei thad yn yr ardd bellach, a’r ddwy arall yn rhy cŵl i wneud peth mor ddiflas! Helpu eu mam fuon nhw, yn pobi bara blasus. Dwy blethan wen, a dwy blethan arall o flawd hadau, ac un dorth gron hanner-a-hanner. Mae dwy wedi cael clec efo menyn hallt a chaws Llŷn i de. Hyfryd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau