Wedi bod yn hel dail craf y geifr –garlleg gwyllt- cyn cychwyn adra o’r
gwaith am hanner diwrnod o wyliau. Maen nhw’n tyfu ar lan nant sy’n rhedeg
heibio’r swyddfa; lle delfrydol i biciad allan amser cinio i nôl chydig o ddail
i’w rhoi yn fy mrechdan gaws.
Gan ei bod yn bnawn sych mi fues i ar y rhandir. Dwi wedi ildio i’r hyn
oedd yn amhosib ei osgoi mae gen i ofn...roedd y dŵr yn drech na fi felly dwi
wedi prynu ‘chydig o goed i godi gwelyau llysiau. Mi fues i’n chwilio -yn
aflwyddiannus- am goed sgaffaldiau ail-law, a gorfod prynu’n newydd yn y
diwedd. Mi ges i bedair styllen 6”x1” a dwy 7”x1”, bob un yn 4.8 metr o hyd, a
mynd ati i adeiladu pedwar gwely efo cymorth fy nhad. Fel arfer, mi fu’r ddau
ohonom ni’n tynnu coes ein gilydd; fo’n fy nghyhuddo o fod yn rhy fanwl a
ffyslyd, a finna’n diawlio am ei agwedd ‘mi wnaiff y tro’ fo!
Hyd yma felly mae'r rhandir wedi costio:
Rhent blynyddol- £25
Aelodaeth o'r gymdeithas- £2
Goriad i’r giât- £5
Pibell ddraen- £18
Coed- £42
Bron i ganpunt. A does dim byd wedi ei blannu yno hyd yma. Fydda' hi'n rhatach -a llai o strach- imi gael bocs o lysiau organic i'r drws bob wythnos tybed? Dwi wedi anwybyddu costau'r hadau, a'r cansenni mafon aballu, oherwydd byswn i'n prynu'r rheiny beth bynnag, ar gyfer yr ardd gefn.
Beth bynnag, dwi’n mynd yn ôl ‘fory gan fod Derec “Henffych” Tywydd yn gaddo diwrnod
sych, ac mi dynnaf lun tra dwi yno.
Ar ôl nôl y fechan o’r ysgol a mynd adra, mi rois i hanner y dail craf mewn
gratin efo tatws, seleriac, nionod a hufen, a’i fwyta efo brocoli piws o’r
ardd. Mi rois yr hanner arall mewn pesto. Un o ryseitiau River Cottage oedd y
pesto. Cnau daear oedd yn y rysáit hwnnw, ond mae’n rhy gynnar i’r rheiny (a
hefyd, dwi ddim yn meddwl fod 30 gram o gnau daear –sy’n golygu dadwreiddio tua
15 planhigyn efallai- yn gnwd cynaladwy yn y safleoedd dwi’n eu nabod). Mi
ddefnyddiais gnau pîn felly, a blasus iawn ydi o hefyd. Mi gaiff ei ddefnyddio
efo pasta, neu datws newydd o bosib, nos fory.
Dwi ‘di blino’n lân rŵan! Ychydig bach yn smyg efallai; ond nacyrd hefyd!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau