Blodeuwedd sy'n gofyn, wrth y dewin Gwydion, yn chwilio am gysur ei bod hi'n hardd.
"Tydi yw campwaith fy hudoliaeth oll." meddai o'n ol.
Dyfynnu o ddrama Sauders Lewis ydw i oherwydd, mi fuodd y ddwy hyna' a fi i weld Blodeuwedd, gan Theatr Genedlaethol Cymru, ddydd Sadwrn.
Ai da y gwnaethon nhw felly? Roedd o'n gampwaith. Profiad gwefreiddiol, yn llygad yr haul, mewn lleoliad arbennig.
Mae yna fanylion ac adolygiad yn fan hyn, felly dwi ddim am draethu gormod, ond mi wnes i fwynhau bob eiliad o'r profiad, o'r baned hen ffasiwn yn y man cychwyn, i'r actio angerddol, safle hanesyddol, a'r diweddglo trawiadol.
Golygfa 1: Gwydion a Lleu dan Domen y Mur
Roeddwn i dan deimlad ar ddiwedd yr olygfa olaf, ac mi gafodd y genod a fi drafodaeth hir am elfennau o'r perfformiad ar y ffordd adra.
Golygfa 2: Gronw a Blodeuwedd yn dathlu lladd Lleu
Wnes i ddim astudio Saunders Lewis yn yr ysgol, felly dwi'n gwybod prin dim am ei ddramau. Dwi ddim yn deall pam fod chwedl Blodeuwedd wedi'i gosod yn y 40au, ac roedd yr ieithwedd braidd yn ddiarth ar y dechrau, ond hollti blew ydi hynna.
Roedd y profiad yn un arbennig iawn wir. Ewch i'w weld o cyn iddo orffen.
Efo ras feics enwoca'r byd -y Tour de Ffrainc- yn ei hanterth ar hyn o bryd, mae'r gamp yn mynd o nerth i nerth ym Mro Ffestiniog hefyd, a thrwy Gymru am wn i.
Ers eu sefydlu,
mae llwybrau beicio lawr-allt Antur Stiniog ar y Cribau wedi bod yn llwyddiant
ysgubol.
Parc neidio a chanolfan feicio Antur Stiniog
Mae’r llwybrau
arbenigol yma eisoes wedi cael cryn ganmoliaeth yn y cylchgronau beicio ac ar y
we, gydag enwau mawr y gamp yn uchel eu clod o'r safle hefyd, ac mae’n sicr o ddenu cystadlaethau pwysig yn y dyfodol.
Er mwyn gwthio'r cwch i'r dwr, mae’r ŵyl DH-Ffest ymlaen y penwythnos nesa' (13-14eg Gorffennaf), gyda chystadlaethau lawr-allt a her safle neidio, a'r ganolfan
feicio a’r caffi newydd ar safle Llechwedd wedi agor y mis hwn, gan gyflogi mwy o
bobl leol. Mae bandiau yn nhafarnau'r Blaenau dros y penwythnos hefyd.
Syniad, breuddwyd, a champ criw lleol- Antur Stiniog- ydi'r cynlluniau cyffrous yma. Gwaith ac ymdrech staff a gwirfoddolwyr lleol, sy'n cynnal eu cyfarfodydd a'u gwaith papur yn Gymraeg, a'r amcan o sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn flaenllaw, ac yn ffynnu yn sgil datblygiadau lleol. Y nod mwy cyffredinol, fel rhan o gynllun Canolfan Rhagoriaeth Eryri ydi annog Cymry Cymraeg i fanteisio ar gyfleon hyfforddi a gwaith yn y diwydiant awyr agored, a thrawsnewid y sefyllfa draddodiadol o dim ond bobl ddiarth yn arwain yn y maes.
Tydi beicio cystadleuol ddim yn beth diarth i Fro
‘Stiniog, gydag o leiaf dau o’r trigolion yn cystadlu yn y dauddegau. “Beic i
bawb o bobol y byd” oedd galwad Wil Jôs Penny yn ôl y llyfrau gwerthfawr
‘Stiniog’, gan Ernest Jones, a ‘Cymeriadau Stiniog’ (gol: G.V. Jones, ac o'r llyfr hwnnw ddaeth y llun). Mi fuodd
o’n cystadlu trwy Brydain ac yn Ffrainc, ac fel y gwelwch yn y llun, mae o
(efo’i gyfaill John Jôs Ffish) wedi ennill gwobrau yn y gamp. Byddai’n braf
cael gwybod lle mae’r tlysau rŵan, a chael mwy o wybodaeth am y cystadlu. Mae’r
beic yn y llun yn edrych fel beic velodrome,
hynny ydi rasio trac hirgrwn: un gêr sydd arno a dim brêc!
Hanner canrif a mwy yn ddiweddarach, roedd cymalau mynyddig
y Milk Race (a elwir bellach yn Tour of Prydain) yn ymweld yn aml
â’r Migneint, ac mae’n saff o ddychwelyd i’n elltydd ni yn y dyfodol.
Yn y byd beicio ffordd, mae dau ddigwyddiad pwysig
wedi bod eleni eisoes yn fy milltir sgwâr. Her flynyddol Ffestiniog 360: taith o 60 milltir trwy
Eryri yn cychwyn a gorffen yn y Blaenau, er mwyn codi arian ar gyfer Tŷ
Gobaith. Wedyn, ganol Mehefin, daeth cannoedd o feicwyr trwy’r Fro ar ddau
gylch hiraf Etape Eryri, her feicio newydd a phoblogaidd iawn. Roedd yr Etape
Canol, fel y’i gelwid yn dod trwy ganol y Blaenau a thros y Crimea, fel rhan o
daith 76 milltir. Roedd yr Etape Mawr yn dilyn yr un llwybr a’r Canol hyd at
gopa’r Allt Goch, ond wedyn yn troi am Gwm Cynfal, Cwm Prysor a’r Migneint, ac
yn 103 milltir o hyd!
Dydd Sadwrn d'wytha (6ed Gorff) roedd cystadleuaeth
gyntaf 'brenin y mynydd' Bro Ffestiniog, ar yr un diwrnod a chymal
mynyddig cyntaf y Tour de Ffrainc, sef 'Alp Stwlan', dan ofal beicwyr
profiadol lleol. Bron i 900 troedfedd o ddringo
caled dros filltir a hanner, o Ddolrhedyn at yr argae uchaf. Efo gwobrau ar
gyfer y cyflymaf mewn tair adran: dan 18, oedolion, a dros 40, gobeithir y
daw’n achlysur rheolaidd. Dim ond naw munud a 41 eiliad gymrodd Dan Evans i gyrraedd pen y ddringfa! Anhygoel.
Roeddwn i'n rhy llwfr i gymryd rhan; mond yno i dynnu llun oeddwn i!
Roedd Wil Jôs
Penny yn beicio yn wythdeg oed, felly does dim esgus i mi beidio ymarfer at Alpe Stwlan; efallai erbyn 2020 gallaf wneud y daith mewn llai na hanner awr!
[Mae hwn yn ddarn wnes i'n wreiddiol ar gyfer papur bro Cylch Stiniog, Llafar Bro.]
Dwi'n falch o ddeud 'mod i wedi bod allan yn garddio, yn hytrach na sgwennu am arddio.
Mae'r ardd gefn acw wedi bod yn llawn o flodau efo ogla' da.
Mae'r rhoswydden wedi bod yn llawn o flodau eleni, a'r canghennau'n sigo dros y llwybr, gan ei gwneud yn amhosib mynd heibio heb fwynhau'r persawr arbennig. Mae'r blodau bach melyn di-sylw'n gwywo erbyn hyn, a dwi'n gobeithio gweld ffrywthau'n datblygu eleni. Mae'r blodau'n sicr wedi cael sylw gan wenyn ar ddyddiau braf eleni.
Un arall sydd wedi gorffen bellach ydi Buddleia globosa, ei blodau yn beli bach oren rhyfedd, yn denu pryfed a finna yn ol a 'mlaen i'w mwynhau. Mi rois i'r llwyn yma mewn pot mwy y llynedd ac ar ol pedair blynedd o ddiffyg maeth a lle, wedi blodeu eleni am y tro cyntaf ers imi gael toriad gan ffrind. Dwi'n cicio fy hun rwan am beidio tynnu llun, ond mi orffenodd y blodau dros nos, megis seren wib.
Mae'r rhosyn Siapan (Rosa rugosa) yn llawn blodau ar hyn o bryd, a dyma'r ogla sy'n teithio bellaf dwi'n meddwl. Mae dau neu dri rhosyn mewn dwr yn y gegin yn llenwi'r 'stafell efo oglau hyfryd.
Dwi wedi bod yn gweithio'n reit galed yn y rhandir. Roedd yn hen bryd!
Mi fues i'n hir iawn cyn rhoi cychwyn iawn arni yno eleni, ac mi dalais i'r pris am beidio chwynnu trwy'r gaeaf. Diolch i gyfraniad y Fechan, fy mhrif arddwr cynorthwyol, mae siap golew yno o'r diwedd, ac erbyn hyn mae'r ffa i gyd yn y ddaear, er yn hwyr.
'O chwi o ychydig ffydd'! Dipyn o arbrawf oedd plannu'r marchysgall -globe artichoke, i weld be ddaw o blanhigyn Mediteranaidd ar ochr mynydd glawog! Dyma'r blaguryn cyntaf. Gawn ni weld os bydd yn aeddfedu digon i'w fwyta....
Ychydig iawn o luniau eraill dwi wedi'u tynnu felly dwi'n cynnwys rhai isod o erddi Plas Tanybwlch, lle fues i'n crwydro rhwng dau gyfarfod yn ddiweddar, gan gynnwys y llun cyntaf ar ddechrau'r mwydro yma (blodyn meryswydd, neu afal agored -medlar).
Hefyd un o dir Benthros Isa' (Penrhos Isaf) ger y Ganllwyd, tyddyn sy'n cael ei reoli ar egwyddorion paramaeth, neu permaculture. Y gymdeithas randiroedd oedd wedi trefnu ymweliad ac mi ymunais a nhw i gael dysgu mwy am ddulliau cynaliadwy o dyfu bwyd. Mi gawsom ni deirawr hynod ddifyr yno, yng nghwmni gwybodus y perchennog, Chris Dixon, dyn sy'n gweld gwerth mewn diwylliant a iaith, yn ogystal a chadwraeth a hunangynhaliaeth. Roedd y sgwrsio mor ddifyr, fel na dynnais ond tri llun ac roedd dau o'r rheiny yn rai uffernol o sal!
Worcesterberry ydi hwn; croesiad rhwng gwsberan a chyrains duon. Mae'r llwyn yn tyfu mewn coedwig, ac yn cynhyrchu cnwd dda bob blwyddyn. Roedd y lle yn llawn i'r ymylon o syniadau gwych a dwi am fynd yn ol os caf. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Chris.
Mae darn difyr o raglen radio Dewi Llwyd bob wythnos lle mae o'n gofyn i westai be' hoffen nhw gael fel anrheg penblwydd delfrydol? Fy ateb i fyddai diwrnod ychwanegol mewn wythnos...
Rydan ni newydd ddod adra o berfformiad y Theatr Genedlaethol o 'Blodyn' trwy strydoedd Stiniog.
Dyma mae gwefan ThGC yn ddweud:
"Cynhyrchiad cymunedol proffesiynol gan drigolion Blaenau
Ffestiniog a Talysarn.
Fersiwn unigryw, modern a pherthnasol o chwedl ‘Blodeuwedd’
yw Blodyn. Cynhyrchiad theatr promenad wedi ei gyd-greu gan wirfoddolwyr o’r
cymunedau ac arebingion mewn actio, dawns, canu, celf, ffilm a llawer mwy."
Un o'r prif gymeriadau, Ger, (Dyfrig Evans) yn ei dweud hi am y biwrocrats a gauodd 'Sbyty Goffa 'Stiniog!
Argian, mae'n amlwg bod llawer iawn o waith wedi mynd ymlaen ers diwedd Ebrill, felly llongyfarchiadau i bawb gymrodd ran. Ar ol tywallt y glaw am awr dda cyn i'r sioe ddechrau, mi giliodd y glaw, diolch i'r drefn! Mi gychwynodd popeth yn aelwyd yr Urdd Stiniog, cyn i hanner y dorf ddilyn Ger, ar gefn ei lori waith, a'r hanner arall ddilyn Blodyn. Dwi'n meddwl fod y ddau griw wedi ymuno erbyn cyrraedd neuadd Ysgol y Moelwyn, gan fod y ddau brif gymeriad yn dod yn ddau gariad yno, cyn i Ger glywed fod gan Blodyn gariad -Llion- a hwnnw isio cwffio!
Roedd y Fechan wedi mwynhau'r cyffro o symud o le i le, a Ger yn annog pawb i gyd-ganu "Blaena' -Blaena', ni di'r gora'" wrth inni fynd! Roedd yn brofiad arbennig wir, ac ro'n i'n llawn balchder ei fod yn digwydd yn ein milltir sgwar ni. Dwi'n siwr fod pobl Talysarn wedi cael yr un wefr neithiwr ac echnos hefyd. Bydd y perfformiad ola' nos 'fory (Sul, 16 Meh).
Os oes rhaid cwyno, braidd yn anodd oedd hi i ddilyn y stori weithiau, gan nad oedd yn hawdd clywed y cymeriadau'n gwaeddi dros y dorf, ac i fod yn onest, roedd sgript Ger ar adegau'n mynd yn rhy bell o lawer i gyfeiriad siarad stryd. Gor-wneud y braitiaith; ydyn siwr mae rhai pobl ifanc yn dweud 'waviwch' yn lle 'codwch law', a 'judgio' yn lle 'beirniadu', ond uffarn da^n, does neb mor ddrwg a'i bortread o chwaith! Ond dyna be sy'n digwydd os ydi'r cwmni yn annog y plant lleol i gyfrannu at y cynhyrchu efallai?
Ta waeth, roedd y diweddglo yn wych, gyda'r cast a'r dorf yn ymuno i ganu 'Anthem Blodyn'. Gallwn wylio a gwrando ar yr ymarfer yn fan hyn:
Y mis nesa, bydd y Theatr Genedlaethol ym Mro Ffestiniog eto, y tro hwn ar safle Tomen y Mur, Maentwrog Uchaf, safle tybiedig Mur Castell yn y Mabinogi, efo drama Saunders Lewis, Blodeuwedd. Mae 'na edrych ymlaen yn arw at hynny hefyd. Diolch i Arwel Gruffydd am ddod a ThGC i fro ei febyd ddwy waith.
Sioe arall welodd y Pobydd a fi'r wsos yma oedd y comediwr Bill Bailey, yn Llandudno.
Meicro-adolygiad: darnau doniol a chlyfar iawn, ond talpiau hefyd ar gyfer Saeson uniaith sy'n mwynhau chwerthin am ben ieithoedd eraill fel Daneg, Mandarin, a Siapaneeg; yn son am 'our country' ac 'our government' ac ati. Uchafbwyntiau- dynwarediad ardderchog o bilidowcar gwlyb a blin, a disgrifiad doniol o Alan Titchmarsh: "the cold, dead eyes of a gardener"!!
Mae'r glaw wedi dychwelyd eto rwan: dyma obeithio na fydd efo ni trwy'r haf eto!
Wythnos yn ol, roeddwn i a'r Rybelwr Bach, fy mhartner yfed, allan yn yr ardd tan wedi hanner nos, yn rhoi'r byd yn ei le, dros gwrw oer a chreision. Hei lwc y bydd mwy o nosweithiau felly o'n blaenau.
Gweld bod llyfr newydd Sian James (Tant) yn cynnwys alaw delyn 'Blodau Ffestiniog'. Newydd sbon i mi... gwrandwch ar soundcloud.
Pabis coch wedi blodeuo erbyn hyn ac yn werth u gweld.
Lelog Califfornia (Ceonothus) yn llawn blodau ar hyn o bryd, ac yn drawiadol o hardd.
Yn anffodus, dros y blynyddoedd, mae'r llwyn wedi tyfu'n dalach bob blwyddyn, nes fod y blodau'n rhy uchel. O'r ffenest uwchben mae'r olwg orau i'w gael erbyn hyn!
Cwyn arall ydi fod y coesyn yn hir a moel a hyll. Mi sigodd y cwbl llynedd oherwydd y pwysau, ac roeddwn yn gyndyn i'w godi o'r ddaear a'i daflu; dyna pam bod belt oddi ar hen drowsus gwaith yn dal y llwyn yn sownd wrth bostyn i'w gadw ar ei draed!
Mae'r cacwn (bymbl-bis!) wrth eu boddau ymysg y blodau. Daeth y glaw yn ol wsos yma, a disgwyl iddo fynd eto ydan ni gyd rwan..
Mae rhywbeth wedi digwydd ar Blogger yn ddiweddar- am ryw reswm, mae wedi mynd yn amhosib gosod lluniau ar fformat portrait, hynny ydi, yr ochr hiraf ar i fyny, heb iddo ystumio a gwasgu'r llun nes mae o ar fformat landscape. Ymddiheuriadau felly am y llun uchod. Trio cofio peidio troi'r camera fydd y gamp o hyn allan..
Ofergoelion
Mae 'na goeden gelyn yn tyfu ynghanol y gwrych sydd rhwng yr ardd gefn acw, a gardd drws nesa'. Pan symudis i yma, roedd Gwyddel yn byw drws nesa', ac un o'r pethau cynta' ddudodd o oedd 'paid a thorri'r gelynnen, neu bydd melltith a haint arnat ti a dy deulu am byth!'
Dwi'n wyddonydd (mad scientist medda'r plant). Dwi'n ddigon bodlon cerdded o dan ystol, a tydi ddim affliw o ots gen' i pa liw ydi cathod sy'n croesi fy llwybr. Ond! Damia las, mae gen' i ofn y gelynnen yma rwan. Ofn twp ac afresymol, dwi'n gw'bod, ond ofn sydd wedi caniatau i'r goeden dyfu'n fwy na dwi isio iddi dyfu.
Dwi wedi pendroni a thrafod hyn hyd syrffed, ac wedi pwyso a mesur gwyddoniaeth y fath rwtsh. Ers blynyddoedd dwi wedi dod i ryw fath o gyfaddawd yn fy mhen, sef tocio brig y goeden a'i chadw hi'n goeden siapus wedyn. Ond hyd yma: mae hi'n dal yn gyfa'!
Ta waeth, coeden wrywaidd sydd acw, felly tydan ni ddim yn cael aeron yn y gaeaf.
Mae'n blodeuo bob blwyddyn, ac eleni daeth mwy nac erioed o flodau, felly mae'n cael maddeuant eto dros dro... ond mae'n hen bryd imi gallio a dod at fy nghoed neu mi fydd yn dwyn yr ychydig haul a gawn i gyd.
Er cof am dderwen Pontfadog
Mi ges i gyfle i ymweld a'r dderwen anhygoel hon bum mlynedd yn ol. Mae digon wedi'i ddeud amdani ers iddi ddisgyn fis Ebrill (ee. ar Morfablog) felly wna'i ddim traethu.
Derwen Pontfadog, Ionawr 2008
Digon ydi deud fod rhywun yn teimlo hanes yng nghwmni coeden mor hynafol. Teimlo presenoldeb Owain Gwynedd, a phoblogaeth uniaith Gymraeg gorffennol Dyffryn Ceiriog. Ond hefyd, teimlo tristwch llethol bod cyn lleied o goed Cymru wedi cael byw i oed parchus cyn eu torri at ddibenion dyn..