Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

5.6.26

Gwanwyn Cynefin

CYNEFIN. Colofn achlysurol am yr Amgylchedd ym Mro Stiniog, o rifyn Mai 2026 ein papur bro, Llafar Bro

Uchafbwyntiau Tywydd Mawrth ac Ebrill

Efallai y cofiwch inni gael mis Mawrth cymharol sych y llynedd, ond roedd tipyn gwlypach eleni. Serch hynny, cafwyd cyfnodau sych a braf o’r 3ydd i’r 5ed, efo’r lleuad llawn yn fawr dros y Manod, ac wedyn o’r 17eg – 22ain, y tymheredd yn cyrraedd o fewn trwch blewyn i 20°C bryd hynny. Arwyddion eraill o ddyfodiad y gwanwyn oedd blagur ar y coed; blodau’n agor; cacwn (bymbl-bîs) a gwenyn mêl yn yr ardd; a mwy o greithio ar y Crawcwellt. Roedd eira ar y Moelwyn ar ddiwrnod oeraf y mis (6ed), a barrug ar fore’r 14eg, er i dymheredd yr aer aros uwchben y rhewbwynt trwy’r mis.

Dechreuodd Ebrill efo rhybudd melyn am wyntoedd garw ac eira ar benwythnos y Pasg. Ond heblaw am fodfedd o law ar y 3ydd, a glaw ysbeidiol ar y 4ydd, ychydig iawn o effaith ‘Storm Dave’ welsom ni yma. Er bod y gwynt cryfaf wedi’i gofnodi yng Nghapel Curig (93mya), Yr Alban gafodd y gwaethaf o’r tywydd gaeafol. Daeth cenllysg a glaw am dri chwarter awr gyda’r nos ar y 5ed, ac yna tridiau o haul, efo’r tymheredd yn uwch nag 22°C ar y 7fed! Ond roedd gwell i ddod... Cafwyd cyfnod braf a chynnes, heb ddiferyn o law o’r 18fed tan ddiwedd y mis a swyddfa’r met yn datgan i’r mis fod yn sychach a chynhesach na’r arfer. Er inni gael ambell noson oer, roedd y dyddiau hir, heulog yn berffaith i hau a phlannu a thwtio yn yr ardd.

Cacwn Prysur 

Roeddwn wedi dechrau’r gyfres yma gan feddwl defnyddio’r is-bennawd Titws Prysur bob tro i ddisgrifio be’ sy’n digwydd yn y blwch nythu ar y cwt acw -gan fod deg cyw titw tomos las wedi eu magu ynddo llynedd- ond ar ôl tindroi fis Chwefror, troi eu cefnau ar y blwch wnaeth y titws eleni. Ychydig yn drist efallai, ond yn eu lle daeth brenhines cacynen y coed (tree bumblebee), ac mae croeso mawr iddi hi fagu ei thylwyth yma llawn cystal ag unrhyw adar! 

Mae hanes y rhywogaeth yma yn ddifyr iawn: dim ond yn 2001 y cofnodwyd nhw gynta’ ar Ynys Prydain, ac maen nhw wedi ymestyn ers hynny nes eu bod nhw bellach i’w gweld bob cam i’r Alban. Yn wahanol i’r bymbl-bîs eraill, tyllau mewn coed ydi lle fydden nhw’n nythu, ond yn amlwg mae blychau nythu’n gwneud y tro!

Cyrraeddodd y frenhines ein blwch ni ar bnawn cynnes yr 21ain o Fawrth, a mynd ati i durio yn y mwsog a’r gweiriach a phlu i ffurfio pelan i nythu. Erbyn wsos ola’ Mawrth, roedd hi ‘nôl-a-mlaen trwy’r dydd efo paill ar ei choesau ôl, ac yn weithgar o cyn 6 y bore tan wedi 10 y nos! Trwy Ebrill, roedd cenhedlaeth cyntaf ei gweithwyr yn-ôl-a-mlaen i’r nyth, yn gwneud cymwynas i mi wrth beillio’r gwsberins acw! Mae’r rhain yn hawdd eu ‘nabod ymysg y cacwn: ysgwyddau browngoch; cefn du; pen-ôl gwyn, ac mi fydden nhw ar adain tan ganol yr haf.

Crwydro

Braf oedd manteisio ar y tywydd braf ddiwedd Ebrill i gerdded Llwybr Mawddach efo cyfeillion. Naw milltir o lwybr beicio a cherdded pwrpasol ar wely’r hen reilffordd rhwng Dolgellau a’r Bermo. Hyfryd iawn yn wir, ond yn brofiad a gododd rhywfaint o ddicter hefyd, o feddwl bod yr awdurdodau wedi gwastraffu dros 30 mlynedd ers i atomfa Traws gau, a gadael i gymunedau Bro Stiniog wylio’r hen reilffordd rhwng y Blaenau a’r atomfa yn cau a thagu efo gor-dyfiant coed a mieri. Dychmygwch y budd fysa trigolion ein hardal wedi ei gael o dros 6 milltir o lwybr gwastad a diogel i gerdded a beicio trwy dirlun godidog! 

Parc Eryri sy’n cynnal a chadw Llwybr Mawddach, ac mae Cyngor Gwynedd yn rheoli 30 milltir o Lonydd Glas hefyd -eto ar hyd hen reilffyrdd. Ydi’n deg awgrymu bod Bro Ffestiniog yn cael cam? Dewch o’na wleidyddion ac arweinwyr cymuned, ewch ati eto i ddwyn pwysau ar Network Rail a’r awdurdod datgomisiynu niwclear, a Chyngor Gwynedd a’r Parc i droi’r llanast yn adnodd gwerthfawr i’r fro!