Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label Plas Tanybwlch. Show all posts
Showing posts with label Plas Tanybwlch. Show all posts

30.11.23

Apus Dyrfa

Tua diwedd Gorffennaf eleni, fel can Gorffennaf o’r blaen, mentrodd cyw gwennol ddu (swift, Apus apus) i olau dydd, a gollwng ei hun o’i nyth uchel, dan do hen adeilad yn ‘Stiniog, ac ymestyn ei adenydd am y tro cyntaf i ymuno efo’i deulu uwchben y dref. Mae’r cyw hynnw dal yn yr awyr rwan, rywle yng Ngweriniaeth y Congo. Tydi o heb lanio o gwbl! Mae o’n bwyta, yfed a chysgu yn yr awyr, a chredwch neu beidio, mi fydd yn haf 2025 cyn iddo gyffwrdd â’r ddaear eto.

Mi fydd yn dychwelyd i Gymru ganol Mehefin -tua mis ar ôl ei rieni- ar ôl bod yn haf hemisffer y de trwy’n misoedd oer ni, ond bydd blwyddyn gron arall wedyn cyn glanio i fagu cywion ei hun.

Llun Ben Stammers

Er bod wythnosau ers i’r wenoliaid duon adael ar eu taith hir tua chanol Affrica, daeth llond ystafell o bobl i Blas Tan-y-bwlch wythnos diwethaf i glywed y diweddaraf am yr ymdrechion i warchod yr adar anhygoel yma. Clywsom gan Ben Stammers o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bod yr arolwg adar blynyddol ym Mhrydain yn dangos gostyngiad dychrynllyd yn eu niferoedd. Yng Nghymru bu dirywiad syfrdanol o 75% rhwng 1995 a 2021, ac maen nhw bellach ar y rhestr goch o adar dan fygythiad. Meddyliwch: collwyd tri chwarter y gwenoliaid duon mewn chwarter canrif!

Llun YGNC

Er yn weddol anodd eu cyfri’n fanwl, wrth wibio heibio ar frys a phlethu ymysg ei gilydd blith draphlith, mae’r niferoedd a welaf o’n gardd wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Bob mis Awst, mae diwrnod yn dod pan dwi’n sylweddoli -mwya’ sydyn- nad ydw i wedi eu gweld na’u clywed ers tro a dwi’n hiraethu’n syth am eu sgrechian byrlymus wrth hela pryfaid fel haid o grymanau neu bwmerangs tywyll yn hollti trwy’r awyr i bob cyfeiriad ar ddiwrnod braf.  Mae’n ddychrynllyd dychmygu y gallwn weld hafau yn y dyfodol heb eu tyrfa’n cadw twrw llon uwchben.

O edrych ar eu llun, mae’n amlwg fod pob gewyn a phluen wedi esblygu’n berffaith i fyw yn y gwynt, a’u traed cwta o’r golwg yn y plu tra’n hedfan, dim ond mewn defnydd wrth lanio yng ngheg y nyth. Ystyr yr enw gwyddonol Apus mae’n debyg ydi ‘heb draed’!

Difyr oedd clywed Ben yn dweud wrth y gynulleidfa:

“Yn wahanol i’r arfer, tydi enw Cymraeg yr aderyn yma ddim yn well na’r enw Saesneg, oherwydd tydi o ddim yn wennol, a tydi o ddim yn ddu ‘chwaith!”.
Er bod ganddo gynffon fforchog sy’n nodweddiadol o wenoliaid, mae’n perthyn yn agosach at y troellwr mawr (nightjar) ac hyd yn oed deulu’r sïednod (hummingbirds). Brown tywyll ydi lliw’r plu, ac mae ganddyn nhw ên goleuach hefyd.

Llun Ben Stammers

Tybir fod llawer peth yn cyfrannu at eu trafferthion; newid ym mhatrymau tywydd a’r tymhorau oherwydd newid hinsawdd, neu golli cynefin yn Affrica er enghraifft. Roedd colli safleoedd nythu wrth i bobl adnewyddu tai yn bryder mawr ar un adeg, ond mae blychau nythu arbennig yn hawdd eu cael a chymharol hawdd eu gosod erbyn hyn -rhai yn allanol ar hen adeiladau, ac eraill i’w ymgorffori o fewn waliau adeiladau newydd- ac yn profi’n llwyddiant mawr mewn sawl ardal. Mae ymchwil yn dangos erbyn hyn fod diffyg bwyd yn bwysicach na diffyg safleoedd nythu, ac elfen allweddol ydi’r gostyngiad torcalonnus sydd wedi bod yn yr un cyfnod mewn niferoedd pryfetach o bob math- maes arall efo ystadegau brawychus. 

Hawdd ydi digalonni, ond be fedrwn ni wneud i helpu’r wennol ddu? Wel, os nad oes gennych wal uchel, addas, be am noddi blwch i’w osod ar adeilad cyhoeddus -mae cannoedd wedi eu gosod ar draws y gogledd eisoes. Gofalwch nad oes nythod cyn llenwi tyllau mewn waliau a dan eich bondo, neu holwch am gyngor. 

Un weithred hawdd iawn, ydi dechrau wrth ein traed a garddio heb bla-laddwyr a meithrin planhigion sydd o fudd i bryfed amrywiol, ac annog eich cyngor i wneud yr un peth yn eich parc lleol ac ar leiniau glaswellt eich cymuned a’ch priffyrdd. Pan ddaw’r wenoliad duon yn ôl ym mis Mai, gallwn i gyd fwynhau eu cri uwchben eto ac am flynyddoedd i ddod gobeithio, tra’n ymhyfrydu mewn gardd, neu barc llawn blodau a gwenyn a glöynnod.

- - - - - - - - - - - 

Gyda diolch i Ben Stammers a'r YGNC am gael defnyddio eu lluniau

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 30 Tachwedd 2023


*O dan y bennawd siomedig a di-ddychymyg 'Gwenoliaid Duon'..!

7.7.13

Wysg fy nhrwyn

meryswydden- medlar
Dwi'n falch o ddeud 'mod i wedi bod allan yn garddio, yn hytrach na sgwennu am arddio.
Mae'r ardd gefn acw wedi bod yn llawn o flodau efo ogla' da.

Mae'r rhoswydden wedi bod yn llawn o flodau eleni, a'r canghennau'n sigo dros y llwybr, gan ei gwneud yn amhosib mynd heibio heb fwynhau'r persawr arbennig. Mae'r blodau bach melyn di-sylw'n gwywo erbyn hyn, a dwi'n gobeithio gweld ffrywthau'n datblygu eleni. Mae'r blodau'n sicr wedi cael sylw gan wenyn ar ddyddiau braf eleni.

Un arall sydd wedi gorffen bellach ydi Buddleia globosa, ei blodau yn beli bach oren rhyfedd, yn denu pryfed a finna yn ol a 'mlaen i'w mwynhau. Mi rois i'r llwyn yma mewn pot mwy y llynedd ac ar ol pedair blynedd o ddiffyg maeth a lle, wedi blodeu eleni am y tro cyntaf ers imi gael toriad gan ffrind. Dwi'n cicio fy hun rwan am beidio tynnu llun, ond mi orffenodd y blodau dros nos, megis seren wib.



Mae'r rhosyn Siapan (Rosa rugosa) yn llawn blodau ar hyn o bryd, a dyma'r ogla sy'n teithio bellaf dwi'n meddwl. Mae dau neu dri rhosyn mewn dwr yn y gegin yn llenwi'r 'stafell efo oglau hyfryd.





Dwi wedi bod yn gweithio'n reit galed yn y rhandir. Roedd yn hen bryd!
Mi fues i'n hir iawn cyn rhoi cychwyn iawn arni yno eleni, ac mi dalais i'r pris am beidio chwynnu trwy'r gaeaf. Diolch i gyfraniad y Fechan, fy mhrif arddwr cynorthwyol, mae siap golew yno o'r diwedd, ac erbyn hyn mae'r ffa i gyd yn y ddaear, er yn hwyr.

'O chwi o ychydig ffydd'! Dipyn o arbrawf oedd plannu'r marchysgall -globe artichoke, i weld be ddaw o blanhigyn Mediteranaidd ar ochr mynydd glawog! Dyma'r blaguryn cyntaf. Gawn ni weld os bydd yn aeddfedu digon i'w fwyta....

Ychydig iawn o luniau eraill dwi wedi'u tynnu felly dwi'n cynnwys rhai isod o erddi Plas Tanybwlch, lle fues i'n crwydro rhwng dau gyfarfod yn ddiweddar, gan gynnwys y llun cyntaf ar ddechrau'r mwydro yma (blodyn meryswydd, neu afal agored -medlar).





Hefyd un o dir Benthros Isa' (Penrhos Isaf) ger y Ganllwyd, tyddyn sy'n cael ei reoli ar egwyddorion paramaeth, neu permaculture. Y gymdeithas randiroedd oedd wedi trefnu ymweliad ac mi ymunais a nhw i gael dysgu mwy am ddulliau cynaliadwy o dyfu bwyd. Mi gawsom ni deirawr hynod ddifyr yno, yng nghwmni gwybodus y perchennog, Chris Dixon, dyn sy'n gweld gwerth mewn diwylliant a iaith, yn ogystal a chadwraeth a hunangynhaliaeth. Roedd y sgwrsio mor ddifyr, fel na dynnais ond tri llun ac roedd dau o'r rheiny yn rai uffernol o sal!


Worcesterberry ydi hwn; croesiad rhwng gwsberan a chyrains duon. Mae'r llwyn yn tyfu mewn coedwig, ac yn cynhyrchu cnwd dda bob blwyddyn. Roedd y lle yn llawn i'r ymylon o syniadau gwych a dwi am fynd yn ol os caf. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Chris.

Mae darn difyr o raglen radio Dewi Llwyd bob wythnos lle mae o'n gofyn i westai be' hoffen nhw gael fel anrheg penblwydd delfrydol?  Fy ateb i fyddai diwrnod ychwanegol mewn wythnos...