Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

3.11.18

Gweddi Wladgarol

Cyfres o gardiau post hwyr o'r Ariannin.

Dwi heb dywyllu gwasanaeth capel ers blynyddoedd, ond tra yn Esquel mi gawson ni wahoddiad i ymuno efo nhw yng ngwasanaeth Seion.


Bach oedd y gynulleidfa, ond roedd y gwasanaeth yn un hyfryd a hithau'n Sul y Mamau yn yr Ariannin. Emyr -un o'r swyddogion datblygu o Gymru- oedd yn arwain, ac mi ddarllenodd englyn hyfryd, a'i linell ola'n fy nharo wrth i mi feddwl am fy mam i, a mam y plant acw, filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

'A lle bu hon, mae gwell byd.'

Er braidd yn nerfus am fynd o'n i'n falch ein bod wedi derbyn. Ac os dwi'n onest, mi wnes i fwynhau'r canu hefyd! Emynau fel Gweddi Wladgarol: 'Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion'; a Gwahoddiad ac ati.

Roedd pawb yn hynod groesawgar, ac mi gawson ni awr neu ddwy o sgwrsio difyr iawn dros de bach yn y festri efo pawb wedyn.

Bryn y Groes o Esquel
Y bore hwnnw, roedden ni wedi dringo i ben Cerro la Cruz -Bryn y Groes- craig sy'n sefyll yn geidwad dros y dref, ac wedi tynnu sylw ers inni gyrraedd, fel rhywle i anelu amdano.

Rhaid cerdded trwy gyrion y dre' i ddechrau; strydoedd blêr o dai bach di-gynllun a chytiau chwit-chwat o bren a theiars a phlastig. Mae perchennog ambell un yn sefyll yn y drws yn gwylio'r gringos diarth: rhai'n ymateb i'n "bon día" ni; eraill ddim, a chŵn diarth yn rhuthro atom yn gobeithio cael sylw neu fwyd.


Dringo wedyn yn igam-ogam trwy blanhigfa o goed pîn a'r llethrau'n llawn adar mân yn canu, fel côr y wawr ym mis Mai adra. Mae'r Loica -y 'robin goch' fel mae'r gwladfawyr yn ei alw, yn syfrdanol o hardd efo'i frest yn goch fel fan bost; mae'n clwydo ar lwyn isel gan ganu fel eos heb falio dim ein bod ni yno ddegllath o'i flaen.

Esquel o Fryn y Groes!
Does dim enaid byw arall allan ar y mynydd, a does ryfedd; mae yna wynt main yn chwipio'r copa, ac mae'n rhy oer o lawer i gael ein brechdan yno, felly'n ôl a ni i lawr trwy'r coed. Mi gymrodd llai o amser i ddringo nag oedd rhywun wedi'n cynghori, felly mae amser i chwilota a thynnu lluniau rhai o'r planhigion ar y ffordd i lawr.



Blodau fel y seren fach, estrellita yn lleol (Tristagma patagonicum) a'i betalau cul gwyn, yn blodeuo ar bridd noeth y tir uchel lle mae'r eira'n meirioli yn y gwanwyn. Mae tegeirian melyn hardd iawn yma hefyd, a dwi angen mynd i fodio llyfrau i'w nabod ar ôl cyrraedd adra. Un arall sy'n dechrau blodeuo rŵan ydi'r llwyni calaffate (Berberis microphylla), ac er 'mod i'n rhy fuan i hel yr aeron duon, dwi wedi llwyddo i brynu pot o'r jam, ac mae'n werth ei gael!

Diwrnod arbennig arall, mewn gwlad arbennig.
------------------------

[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #6. PW 21 Hydref 2018]

Y cerdyn post cynta'

1 comment:

Diolch am eich sylwadau