Yn unol â hen addewid, dyma lun o'r Clematis viticella 'Madame Julia Correvon' sy'n blodeuo rwan, ar dalcen ogleddol y cwt.
Mi fuon ni am wsos a hanner i orllewin Iwerddon; i'r Gaeltacht yng Nghonemara, a chael ein hamgylchynu gan iaith hyfryd ond bregus yr Wyddeleg.
Naw wfft i Dave Datblygu sy'n canu'n llawn gwenwyn am Gymry sydd "wastad yn mynd i Lydaw: byth yn mynd i Ffrainc..." bla, bla. Tydi o ddim byd o'i fusnas o os ydi rhai isio mynd i fwynhau diwylliant wahanol. Twll ei dîn o. 'Mond math gwahanol o snobyddiaeth sydd ganddo fo yn y pendraw.
Ond awn ni ddim i golli cwsg dros rhyw lolbotas ddi-ddim fel'na. Rheswm callach i beidio mynd i Lydaw a Chonemara ydi'r tywydd Celtaidd! Tua 6 blynedd yn ôl mi fuon ni ar Ynys Skye am wsos, a chael glaw bob dydd. Dywedwyd bryd hynny na fysan ni fyth yn mynd i'r gogledd am wyliau eto! Glaw yn Llydaw hefyd yr 'haf' canlynol.
Mi gawson ni law bob dydd yn Iwerddon eleni hefyd.... a thonnau mawr ar y ffordd 'nôl i Gaergybi wedyn. Dwn 'im fydd neb isio dychwelyd i fanno chwaith.
Ar y llaw arall, mi welson ni lefydd gwych, cyfarfod pobl ddifyr ac angerddol, a llwyddo i wneud rhywbeth bob dydd.
Ynys Ghólaim; Clogwyni Moher; Knowth ar y ffordd adra; cwrel ar draeth Tra An Doilin; un o ddolydd blodeuog gwych Y Burren.
Wrth gyrraedd adra, y peth gynta wnaeth y Fechan a finna oedd mynd allan i'r ardd i weld e oedd be, a mwynhau mafon yn syth o'r llwyn, ac ogleuo pys pêr. Mmm.
Does unman yn debyg i adra.
Falch bod o leiaf peth o'r gwyliau yn Iwerddon wedi plesio! Daeth teulu 'nhad o Donegal - cof am gaeau bychain llawn cerrig. Yn falch hefyd nad yw pryfed y mafon yn bla arnoch chi yn Stiniog.
ReplyDeleteCaeau bychain llawn cerrig yn dal yn gyffredin iawn yn swydd Galway o leiaf.
ReplyDeleteDwi heb weld unrhyw gynthron yn y mafon yma yn y blynyddoedd diweddar o gwbl.