Ydi malwod yn medru nofio dwad?
O fewn tafliad carreg i'r ardd gefn acw, mae Afon Bowydd. Handi iawn.
Neu o leia, dyna dwi 'di bod yn feddwl... oherwydd pan dwi'n hel malwod, dwi'n eu taflu dros yr afon i'r lan bellaf. Na, ddim i ardd rhywun arall: i dir gwyllt. Wir yr.
Ond, does dim diwedd i'w niferoedd nhw nagoes. Diawlad!
Er inni fwynhau cyfnod sych-ar-y-cyfan trwy'r mis, ac wedi cael llonydd gan y pla llysnafeddog, 'dan ni 'di cael tywydd malwod dros y dyddiau dwytha: hen niwl a smwclaw mân.
Un planhigyn sy'n diodda'n arw yma ydi banhadlen bînafal (Cytisus battandieri). Mae dail hon yn feddal ofnadwy, ac yn amlwg yn flasus iawn, iawn. Dwi'n gorfod hel malwod bob dydd odd'arni, ond dio'm otsh faint dwi'n drio, mae rhywfaint ohonyn nhw'n llwyddo i wneud llanast bob nos! Ma' isio 'mynadd.
Mi es i allan gyda'r nos neithiwr eto, a thaflu 23 o'r ffernols dros yr afon. O le ddiawch maen nhw'n dod? Ydyn nhw'n croesi'r afon yn ôl, 'ta malwod newydd ydyn nhw bob tro?
Yn 2010, mi baentiodd y Fechan a fi rifau 1 i 5, ar gregyn pump o falwod yn yr ardd, a'u taflu ddegllath i ffwrdd (ddim dros yr afon). Mi ddychwelodd falwod rhif 4 a 5 at y bresych a'r ffa.
Dyna pryd ddechreuon ni eu taflyd dros y dŵr. Roedd Radio 4 wedi cynnal ymchwil a awgrymodd fod gan falwod y reddf i 'ddychwelyd adref' o 10 metr, ac o bosib o hyd at 30m, ond heb ganfod ateb i ba mor bell oedd ddigon pell! Meddai'r adroddiad: "on the evidence so far, it would be safe to take and place them elsewhere at a distance of say, 100 to 200 metres."
Bysa'n well i mi eu taflu YN yr afon yn hytrach na drosti e'lla!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau