Nes dyfod am ei therfyn',
medden nhw.
Dwi ddim yn hoff o'r drefn yr adeg yma o'r flwyddyn o roi rhaglenni teledu a radio, ac erthyglau papur newydd ac ati, yn edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu. Esgus i ailgylchu hen ddeunydd a chreu rhywbeth rhad. Dim pawb sy'n gwirioni 'run fath...
Yr haul wedi mynd i ochr Croesor y Moelwynion ar ddiwedd diwnod hyfryd. 28ain Rhagfyr 2014 |
Fodca llus. Oriau mân 30 Rhagfyr 2014 |
A chael agor y fodca llus o'r diwedd, yng nghwmni ffrindiau a mwynhau pob diferyn a phob munud, ar ôl noson allan yn nhafarn gymunedol Y Pengwern, yn Llan 'Stiniog. (Testun pennod o gyfres ddifyr S4C Straeon Tafarn Dewi Pws yn ddiweddar).
Rhif 3. Dyddiau rhewllyd glas a'r Moelwynion yn wyn dan eira. Dwi'n meddwl 'mod i wedi mwydro sawl gwaith bod yn well gen' i ddyddiau caled braf o wasgedd uchel yn y gaeaf na dyddiau poeth hafaidd. Llawer llai o bobl allan ar y mynyddoedd yn un peth! Patrymau cymleth a hardd ryfeddol mewn barrug a rhew. Ac esgus i chwarae efo botwm macro'r camera. Dod i'r tŷ at y tân ac at baned boeth, efo'r bysedd yn llosgi gan oerfel ar ôl taflu mopins neu yrru sled. A chael ein hatgoffa pa mor hardd ydi'n milltir sgwâr ni.
Rhif 4. Cael cwmpeini'r teulu estynedig, a ffrindiau o bell ac agos. Chwarae gêm, hel clecs, dal i fyny, tynnu coes, a chrwydro ar hyd hen lwybrau.
Clincar o set gan y Candelas. Y Pengwern, 29 Rhagfyr 2014 |
Rhif 5. Sbarion twrci! Mewn brechdan efo stwffin. Efo sglodion a mae-o'n-neis. Mewn cyri efo pwmpen las sydd wedi bod yn aros ei chyfle i dynnu dŵr i'r dannedd ers yr haf. Mae cnawd melys, oren llachar y pwmpenni crown prince, ganmil gwaith mwy blasus na'r hen bethau croen oren Calan Gaeaf.
Rhif 6. Orig ychwanegol yn y gwely ambell fore, ac anghofio'n llwyr am boenau meddwl gwaith am 'chydig o ddyddiau.
Rhif 7, a mwy. Canu plant; pwdin siocled cartref; cryno ddisgiau Band Arall (Lleuad Borffor), a Candelas (Bodoli'n ddistaw); gloynod byw yn gaeafu yn y cwt coed tân; ffilm 'It's a Wonderful Life' eto; dal trên i Betws am ginio; ysbryd cymunedol 'Stiniog; cwrw Llŷn a chwrw Cader; darllen efo'r Fechan; robin goch yn canu nerth ei ben yn y gelynnen; oglau blodau bocs y gaeaf; diffodd y teledu i chwarae gêm; nosau serog; diferion dŵr ar ddail kale yn sgleinio yn haul y pnawn ar ôl i'r rhew feirioli.
Rhestr rad iawn ar y cyfan. Mae'r pethau gorau mewn bywyd yn bethau nad oes angen hysbysebion pengwins a sêls gwirion i'ch denu i wario cannoedd arnynt, ond calla dawo am bethau masnachol y Nadolig am rwan!
Blwyddyn newydd wych i chi.
Cytuno gant y cant, Blwyddyn newydd dda - 'dwi'n edrych ymlaen i ddarllen am flwyddyn arall ar asgwrn y graig.
ReplyDeleteDiolch Ger. Pryd gawn ni hanes dy ardd di yn yr ucheldiroedd acw? Blwyddyn newydd dda iawn a llewyrchus.
DeleteBlwyddyn newydd dda! Dwli ar y llun diferion ar y deilen; rwy'n hoffi'r diferion sy'n casglu yn hongian o frigau'r coed ar ôl glaw (y goeden ffigys yn enwedig) ond heb lwyddo i dynnu llun mor drawiadol - hyd yn hyn.
ReplyDeleteDiolch Cath; blwyddyn newydd gynhyrchiol iawn i chdithau hefyd. Dwi'n licio'r syniad o dyfu ffigysen yma, ond mae diffyg lle yn rwystr ar hyn o bryd... galla'i dal i frweuddwydio!
Delete