Mae 280 math o bryf hofran ym mhrydain, ac mae'n anodd eu nabod heb eu lladd a'u hastudio o dan y meicrosgop, ond mae'r bwa yn un o wythiennau adenydd hwn, yn ei roi yn y teulu Eristalis*.
Y rhain sy'n treulio cyfnod o'u bywydau fel larfa efo cynffon hir, mewn pyllau dwr budr, tomenni tail a biswail, neu fwd. Mmm: hyfryd.
Rat-tailed maggot ydi'r enw deniadol iawn arnynt yn yr iaith fain!
Mae rhai o'r teulu Eristalis yn byw trwy'r gaeaf fel oedolyn, ac yn dod allan i fwyta ar ddyddiau braf. Dyna oedd hwnmae'n siwr.

Mae astudio pryfaid yn faes arbennigol sydd ddim at ddant pawb, felly wnai ddim hefru a diflasu.
Pawb at y peth y bo medden nhw, ond dwi'n eu gweld nhw yn grwp diddorol iawn.
Un peth dwi ddim yn hoff ohono ydi'r term 'pryf hofran' sy'n drosiad amlwg o hoverfly. Yn yr Unol Daleithiau, maen nhw eu galw nhw yn flower fly, sy'n cyfleu yn well lle mae rhywun yn eu gweld nhw amlaf. Efallai y dyliwn ni eu galw nhw'n bryfed blodau.
Pry' blodyn... ia, neisiach o lawer na be' ellid eu galw fel larfa.
* i'r anoraciaid sydd mor drist a fi, gallwn ddefnyddio allwedd er mwyn canfod y rhywogaeth:
O
ddefnyddio 'Colour key to the tribes of the Syrphidae'. Ball, S
[cyhoeddiad-Hoverfly Recording Scheme 2010], mae'r bwa yng ngwythien
R4+5 yn ein harwain at y llwyth ERISTALINI.

O gwpled cyntaf Eristalis (rhesen ddu lydan ar wyneb y pry) rydym yn cyrraedd y rhywogaeth, sef
Eristalis tenax, dynwaredwr gwenynen fêl wrywaidd, y drone, ac yn gyffredin iawn trwy Gymru.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau