Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

15.11.12

Pentwr arall; yna gorffwys

Piciad i'r rhandir y bore 'ma efo sacheidia o ddail crin. Mi ges i un o'r biniau compost mawr gwyrdd am ddim gan y cyngor sir, ac mae'r fam ddaear yn gofalu bod digon o ddail ar gael bob blwyddyn i greu deilbridd am ddim!




Dwi wedi cymysgu'r dail yn y bin compost mewn haenau efo toriadau o'r rhandir, a phapur wedi ei rwygo'n stibedi cul. Edrych ymlaen at weld y canlyniad! Byddai'n sicr o hel mwy o ddail yn y mis nesa, a rhedyn coch hefyd. Gwirion peidio tydi.

Roedd golau hyfryd ar y mynydd ben bore, ond tydi'r llun ddim yn adlewyrchu hynny yn anffodus. Mae'r cymylau blew gafr yn eitha trawiadol ar y llaw arall.

Roedd gwlith ar y tyfiant hefyd, a'r brocoli piws yn edrych yn addawol at y gwanwyn.

Y persli'n edrych yn iach, a digon ohono dal ar gael.

Wrth ddechrau blogio am randir gwlyb nol yn Ebrill, roeddwn yn awgrymu'n smala mai dim ond reis a berwr dwr fedrwn i dyfu yno. Dim reis hyd yma, ond dyma'r watercress.



Mi aeth yn ddiwrnod eitha prysur rhwng pob dim. Rhuthro ddiwedd y pnawn i nôl y plantos o dŷ eu Nain a’u Taid; bwydo pawb; wedyn i gyfarfod y papur bro; pleidleisio yn etholiad mwyaf diflas y ganrif; gwneud crymbl efo ceirios sydd ‘di bod yn y rhewgell ers haf 2010 (!) a blogio... 'pentwr arall; yna gorffwys'.

Daw pennawd heno o gerdd 'Dysgub y Dail', gan Crwys.

 A son am sgubo dail, dyma lun o'r mwstash (ymdrech i dynnu sylw a chodi pres at gansar dynion) yn edrych braidd fel brwsh bras, ar ddiwrnod 15. Er gaddo y tro d'wytha, cyndyn iawn i wenu oeddwn i wrth gael tynnu llun yn amlwg! Galwodd rhywun fi'n El Bandito heddiw...dipyn o ffordd i fynd tan hynny, ond dwi ddim yn meindio cael fy nghymharu efo'r cymeriad hwnnw o gwbl.
Daliwn i gredu, gyfeillion.





4 comments:

  1. Ar iw goun tw pwt e bit o leim wudd ddy lifs and ddat, Wilias?

    Us ddy parsli ddy wan ddat gros down un ddy soil laic e parsnup and iw can iit ut?

    Mwsdashis cymun along ffein. Iw mysd bi ffolowun mai recomendeshiyn on ddy slei.


    Io'r e gwd sbort ffor hafun e go at gesun hw ryng mi iesdyrde byt ai'm affred ior meils off target, Wilias bach. Ddy pyrsyn ddat ryng mi iesdyrde mornun (and iesdyrde affdyrnwn and agen thri teims twde, god dulufyr ys)was e iyng wensh representun ddy Rufyr Cotij program off ddy ti-fi.

    ReplyDelete
    Replies
    1. "Leim", calch 'lly? Dwi heb wneud o'r blaen.. ydi o'n fanteisiol?
      Ar gyfer y dail dwi wedi hau y persli. Dwi ddim yn gwybod digon am y math sy'n cynhyrchu gwreiddyn i'w fwyta. Ydyn nhw'n ddau wahanol beth? Gwerthfawrogir unrhyw gyngor.
      Ydi criw Huw Ffyrnol Rhwng-dwy-stôl wedi troi at tele-sales rwan? Mae'n dlawd arno mae'n rhaid efo rhaglenni River Cottage yn cael cyn lleied o ripîts (!) Niwsans ydi bobol yn ffonio i boeni rhywun am ffenestri ac insiwrans PPI yn’de!
      Gwell o lawer fyddai clywed dy fod yn mynd i gyfrannu at ei raglenni... neu, ydi o’n hed-hyntio am brif arddwr newydd ar ôl i Mark Diacono ei adael o am borfeydd brasach?
      Roeddwn i’n wirioneddol fwynhau rhaglenni River Cottage pan oedd tyfu a hel bwyd yn brif ffocws; coginio sy’n cael y flaenoriaeth ganddo rwan ‘de, a hynny ddim yn plesio cymaint yn tŷ ni.
      Gyda llaw, wyt ti'n cadw blog dy hun? Gyrra ddolen os wyt ti.
      Dalia i gredu.

      Delete
  2. Wen ddi old ffelo's had e lot of dail un ddeir toman esdalwm ddei'd ad sym gardyn leim bicos ddei sed ddy dail were 'acidic'. Ddus mecs sens bicos piwyr 'leaf mould' us iwsd as e 'mulch' rownd 'azaleas' and sdyff laic ddat. Olwes lusyn tw ddi old ffelo's, ddat's wat ai se cos dder's nythun laic egsbiriyns.

    Uff ior parsli us sdul goun sdrong at ddus teim dden uts probybli symthing leic ddy 'Gigante di Napoli'. Wen ddy dail dai down, luffd yp ddy root and iws ut un e sdoc or un ior potas cningods. Ut tests e bit laic 'celery'.

    Dw ai cip e bloc? Ar iw un ior sensus, Wilias? Ai can't reit propyr un Cymraeg or inglish - ai'm e rial pen-rwd. No ediwceshiyn. Diw thinc ai shwd haf e go at reitun wan in Tsheinis?

    Rufyr Cotij ypdet. Diw rumembyr mi telun iw abowt mi and Fred tecun ddy tomatos tw ddy marcet lasd Satyrde? Wel wi'd onli bun dder abowt ffaif munuts wen ddus ffelo cyms along and bais e cypyl o pownd wyrth. Un abowt twenti munut ddy sem ffelo cyms bac agen and bais ddy hol lot! Ddy hol job lot, Wilias! Thri baroffwls o tomatos!

    Naw dden, tw cyt e feri long sdori short, ut tyrns owt ddat ddy ffelo ddat bot ddy tomatos was nyn yddyr ddan Dic Fyrnli Wutuntyng's hed sheff! Ddei had mi and Fred's (and old Charlie biffor ys) tomatos on ddy meniw at ddy Rufyr Cotij Resdront ffor thri des on ddy trot and ddei wer selun laic slecs.

    Ddy wensh ddat was on ddi old blowyr wudd mi sed ddat Fyrnli and hus sheff sleisd ddy tomatos cweit thic and dden pwt top-notsh oluf-oul on 'em wudd balsamic funigyr, halan and pupur, teini but o shwgwr, ffresh basul and e sleis o Byfflo Mosryrela.

    Eniwe, ddy long and ddy short of ut us ddat ddeif cept sym siids ffrom ddy tomatos and ar untending growun 'em on necsd iyr un ddy Rufyr Cotij politynyls, and ddei want tw no ddy nem of ddy cyltifar.

    So mi and Fred haf ffownd owrselfs un e bit of e prydicament, Wilias, and ai'f bun wyndrun wat iw wd dw uff iw ffownd ior gwd selff un mai clodhopyrs at ddus feri moment un teim. Fyrnli got hus tomatos cweit tship and hi's bownd tw haf med e teidi proffut on 'em un hus resdront and naw hi's planun on prodiwsun 'em on e big sgel and probybli mecin mor of e ffortshiyn ddan hi's med olredi.

    Mi and Fred got ddy siids off old Charlie hw daid on Ffraide ddy thyrtinth of Eprul e ffiw iyrs bac and wi sdul mus hum ofnadwydd. Mi and Fred ffiil laic wi'r bun tecyn ffor e reid and ddat wi'r selun owyr heritej sgot ffri tw Dic Fyrnli and hus gang. So we went down tw ddy seidar hows agen ddus affdyrnwn tw mec e ffeinal dusushiyn on ddy matyr and wi'f duseided to tel Fyrnli ddat ddy tomato us an old opyn-poluneted herlwm fareieti cold 'codswalyp'.

    Ofyr and owt,
    Robot.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Pluen yn dy het di a Ffred, cael clod fel'na gan chef am eich tomatos. Oes yna domatos codswalyp go iawn?
      Beth bynnag, gobeithio dy fod wedi dweud wrth y Ffernol i ddod 'nol yn y gwanwyn i brynu dy riwbob a brocoli. A cwyd dy brisiau pan weli di o'n dod!
      Dwi'n bendant yn meddwl y dyliet ti gadw blog; -dim mewn Mandarin, ond yn Gymraeg. Mae 'na filoedd o blogs Susnag am arddio a dim ond tri neu bedwar yn Gymraeg. Dim y gramadeg sy'n bwysig, ond y cynnwys..
      Edrych ymlaen.

      Delete

Diolch am eich sylwadau