Aeth y Fechan a fi am dro y bore 'ma i ben cefnen Bryn Twrog er mwyn trio tynnu llun arall o'r un lle.
O ddod yn ol i astudio'r lluniau, dwi ddim yn meddwl ein bod wedi canfod yr union safle, ond mae'n ddigon agos i fedru cymharu. Heblaw am y rhandiroedd, be arall sy'n wahanol? Wel, mae'r hen orsaf wedi'i dymchwel (eleni); adeiladwyd y clwb rygbi (tua 12 mlynedd yn ol?); mae tomen lechi Llechwedd wedi tyfu'n sylweddol.
Yn fwy diddorol i mi, mae Craig Bwlch y Gwynt yn dipyn mwy grugog, a Rhododendrons wedi cael gafael ar lethrau Llwyn Gell. Mae rhedyn a Rydi-dendron wedi lledu i'r gefnen -yng ngwaelod y llun- hefyd.
Rhododendron ponticum- sglyfath o blanhigyn sy'n dwyllodrus o glws am gyfnod byr |
Mae cynllun Y Dref Werdd yn gobeithio denu grantiau i reoli'r Rhododendron estron. Pob lwc iddynt yn eu hymdrechion, dwi'n edrych ymlaen i gyfranu.
Mae rhywfaint o rug ar y gefnen hefyd, ond buan iawn fydd y cyfan dan gysgod y Rhododendron os na chaiff ei reoli'n fuan. Yn y llun mae grug y mel, a grug cyffredin, blodau'r ddau wedi hen orffen. Moel Ystradau sy'n isel ar y gorwel, a'r Moelwyn Bach yn codi ar y dde.
Mae gwefan Llen Natur yn cynnwys llwyth o enghreifftiau o luniau 'ddoe a heddiw', yn arbennig yn yr adran cardiau post [diweddariad, aeth y wefan i ddwylo dwyreiniol felly dwi wedi datod y ddolen].
Diolch am y ddolen i luniau Llen Natur - a'r holl adnoddau eraill sydd yno!
ReplyDelete