Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

18.11.12

Tafodau

Dwi ar dir peryg heddiw o bosib. Y testun ydi tafodau merched.


...hynny ydi, y goeden aethnen -aspen yn yr iaith fain. Tafodau'r merched ydi un o'r enwau eraill yn Gymraeg am y goeden, oherwydd y ffordd mae'r dail yn crynu mewn awel. Peidiwch a saethu'r negesydd; 'mond ailadrodd ydw i! Mae'r enw Lladin Populus tremula yn cyfeirio at gryndod y dail hefyd.



Mae 'na lond dwrn o'r coed hardd yma ar lan Afon Bowydd, ganllath o'r ty 'cw, ac yn yr hydref maen nhw hyd 'noed yn fwy trawiadol, a'u dail yn troi yn felyn tlws. Un o ser y tymor, heb os.

Dyma glip fideo hanner munud o ddail crynedig dan awyr las dydd Sadwrn. Peidiwch a'i chwyddo i lenwi'r sgrin oherwydd fod ansawdd y clip (oddi ar y ffôn) yn rhy sal, ond mae'n ddigon da i roi syniad sydyn o hud a harddwch y goeden, yn enwedig o 12 eiliad i mewn, pan mae'r gwynt yn codi.


Dwi ddim yn cofio lle clywais i hon; ar y radio dwi'n meddwl, ac mi sgriblais i hi'n sydyn yn y dyddiadur, saith mlynedd yn ol. Dwi wedi chwilio ar y we, ond heb ffeindio ffynhonell. Os mai chi yw'r bardd, sori, gadewch imi wybod!

On'd ydyw yn rhyfeddod
bod dannedd merch yn darfod;
ond tra bod yn ei genau chwyth
ni dderfydd byth ei thafod!

Efallai mai un o dribanau Morgannwg ydi o, dwn 'im. Dyna yn sicr ydi hwn*:


Tri pheth ni saif heb siglo,
Yw llong ar fôr yn nofio;
Dail yr aethnen yn yr haf,
A thair merch braf yn dawnsio.

Mae yna driban arall* -er mwyn cadw'r ddesgil yn wastad- sy'n awgrymu nad dim ond y merched sy'n siaradus:

Ar flaen fy nhafod. D. Geraint Lewis, 2012 Gomer
Tri pheth ni saif yn llonydd,
Yw’r niwl ar ben y mynydd;
A malwoden mewn lle llwm,
A thafod Twm Felinydd.

Rwbath arall dwi 'di bod yn ddarllen wsos yma ydi llyfr D. Geraint Lewis, 'Ar flaen fy nhafod', casgliad difyr iawn o ddywediadau. Ddim yn cymryd lle dau lyfr amhrisiadwy Idiomau Cymraeg R.E.Jones, ond yn gyfrol gwerthfawr iawn i'w gael wrth law.


*Allan o THE FOLKLORE OF GLAMORGAN.  T. C. EVANS. Eisteddfod Genedlaethol Aber-dâr 1885


4 comments:

  1. Longyfarchiadau ar dy flog. Dwi wastad yn ei fwynhau (a'r sywladau!). Gwych o beth fod blog fel hyn ar gael yn y Gymraeg. Dal ati!



    IAITH FY MAM

    "Cymraeg yw'ch iaith chi, ond, Dadi, pam
    'Rych chi yn ei galw yn 'Iaith fy Mam'?"
    "Am fod dy Fam, mae'n debyg, Joni,
    Yn siarad llawer mwy ohoni."

    Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)


    Wil.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am dy eiriau caredig, mae wastad yn braf cael sylwadau.
      Boi difyr, Sarnicol. Doeddwn i'n gwybod dim amdano tan imi chwilio rwan.
      Diolch Wil

      Delete
  2. Mae'n debyg mai hen bennill ydi
    "On'd ydyw yn rhyfeddod .....", ond mi ddaru Plethyn eu recordio nhw stalwm. (Blas y Pridd ??)

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ia! Plethyn; gwych. Gwaith cartre' pleserus i mi fy hun ar nosweithiau tywyll, gwlyb, i chwarae'r hen albyms eto.
      Diolch Blogatws.

      Delete

Diolch am eich sylwadau