Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

17.11.12

Paid a son am y rygbi..

Wedi mwynhau cwmpeini rhai o rapsgaliwns y dre' neithiwr, a chael cyfle i rannu'r fodca rhiwbob ar ddiwedd y nos, ond ddim wedi mwynhau'r rygbi. Ded los!

Doedd neb yn hel at Blant Mewn Angen yn y tafarnau neithiwr; peth diarth iawn.


Bu'r Pobydd yn gwneud cacennau bach i'w gwerthu i'w chydweithwyr, oedd i gyd wedi mynd i'w gwaith yn eu byjamas a siwtiau Pudsey. Mi ddaeth hi adra wedi prynu cacennau gan rai o'r lleill, ond ches i ddim un o'i rhai hi cofiwch! Ta waeth, roedd y Fechan yn fwy bodlon rhannu ei chacennau hi (yng nghefn y llun, yn blastar o 'sbringcyls' lliwgar!)

Yr Arlunydd wedi bod yn creu esgid siocled fel presant penblwydd i un o'i ffrindia, gan ddefnyddio mowld dau hanner. Yr hen hogan wedi etifeddu obsesiwn ei mam efo 'sgidia, yn ogystal a thalent at grefft.

Teisen fananas a choffi Groegaidd wedi plesio yr wythnos yma. Cael y briki coffi yn anrheg wnes i gan Mam a Nhad, o un o'u hanturiaethau tramor diweddar nhw. Dipyn gwell nag injaroc!

Mi wnes i'r camgymeriad un diwrnod ddechrau'r flwyddyn, yn un o ganolfanau garddio gwaelodion Dyffryn Conwy, o duchan yn uchel wrth weld pris hurt ar gwpwrdd bach oedd y Pobydd wedi ei ffansio. Un o'r pethau 'ma sy'n cael eu taflu at eu gilydd ar bnawn Dydd Gwener gan rhywun heb damaid o falchder yn ei waith; rhyw bwt o gwpwrdd efo silffoedd a dror fach i arddangos ornaments a geriach. Ond rargian  mi oedd o'n ddiawledig o ddrud, yn enwedig o weld safon y gwaith, ac mi awgrymis i -braidd yn rhy blaen a chwta mae'n siwr- na ddylia hi wario'i phres cwrw ar y ffasiwn sgrap. "Be am i chdi wneud un gwell ta?" meddai acw yn heriol... "iawn ta" me' fi!
Damia: twpsyn. Tynnu gwaith i mhen!

Mi glywsoch chi am Ronw Pebr yn gorfod naddu gwaywffon bob dydd Sul am flwyddyn i ladd Lleu Llaw Gyffes do? Rwbath tebyg i hynny oedd hanes creu'r cwpwr' bach yma hefyd, gwneud rhyw 'chydig bob hyn-a-hyn, ond dwi bron a gorffen erbyn hyn! Er mwyn i olion fodca neithiwr glirio o'r pen, mi es allan i'r cwt heddiw i gael llonydd, ac i gyboli efo twls peryg. Roedd gen' i goed tyng-an-grwf yn sbar o joban arall, felly gostiodd y cwprwdd ddim dima i mi. Wfft i ganolfanau garddio! Mae o'n altro rwan; 'mond isio rhoi sandar drosto ac mi gaiff hi roi staen arno.

Ym Mro Ffestiniog -Cwm Cynfal- ddigwyddodd ail hanner pedwaredd gainc y Mabinogi, ac mae enwau nifer o'r ffermydd lleol yn dal i'n hatgoffa o chwedl Blodeuwedd a'i chariadon Lleu a Gronw. Beth bynnag, mae fy Mlodeuwedd i'n dweud fod y cwpwrdd bach yn plesio, diolch i'r drefn, er fod y ddwy galon ddim cweit 'run fath!



Llech Ronw
Tachwedd 2008



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau