Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.11.12

Edrych 'nol ac edrych 'mlaen

Dwi wedi dangos y llun cynta 'ma o'r blaen ym mis Mai. Fy nghamera 'go-iawn' cynta i oedd o, ym 1980, a thynnu llun yr hang-gleidar sy' ynghanol y llun o'n i.


Aeth y Fechan a fi am dro y bore 'ma i ben cefnen Bryn Twrog er mwyn trio tynnu llun arall o'r un lle.



O ddod yn ol i astudio'r lluniau, dwi ddim yn meddwl ein bod wedi canfod yr union safle, ond mae'n ddigon agos i fedru cymharu. Heblaw am y rhandiroedd, be arall sy'n wahanol? Wel, mae'r hen orsaf wedi'i dymchwel (eleni); adeiladwyd y clwb rygbi (tua 12 mlynedd yn ol?); mae tomen lechi Llechwedd wedi tyfu'n sylweddol.

Yn fwy diddorol i mi, mae Craig Bwlch y Gwynt yn dipyn mwy grugog, a Rhododendrons wedi cael gafael ar lethrau Llwyn Gell. Mae rhedyn a Rydi-dendron wedi lledu i'r gefnen -yng ngwaelod y llun- hefyd.
Rhododendron ponticum- sglyfath o blanhigyn sy'n dwyllodrus o glws am gyfnod byr
 Newid patrwm pori sy'n gyfrifol am y grug, ac yn anuniongyrchol am y Rhododendron a'r rhedyn hefyd. Ym 1980 roedd clogwyni'r Graig, a'r gefnen yn cael eu pori gan ddefaid, ond bu ffensio ers hynny, ac yn ei sgil mantais ac anfantais.

Mae cynllun Y Dref Werdd yn gobeithio denu grantiau i reoli'r Rhododendron estron. Pob lwc iddynt yn eu hymdrechion, dwi'n edrych ymlaen i gyfranu.


Mae rhywfaint o rug ar y gefnen hefyd, ond buan iawn fydd y cyfan dan gysgod y Rhododendron os na chaiff ei reoli'n fuan. Yn y llun mae grug y mel, a grug cyffredin, blodau'r ddau wedi hen orffen. Moel Ystradau sy'n isel ar y gorwel, a'r Moelwyn Bach yn codi ar y dde.

Mae gwefan Llen Natur yn cynnwys llwyth o enghreifftiau o luniau 'ddoe a heddiw', yn arbennig yn yr adran cardiau post  [diweddariad, aeth y wefan i ddwylo dwyreiniol felly dwi wedi datod y ddolen].



1 comment:

  1. Diolch am y ddolen i luniau Llen Natur - a'r holl adnoddau eraill sydd yno!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau