Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

11.11.12

Chwyn!

Mae Manon Steffan Ros yn canu ('Pan o'n i'n fach') fod:
"..dant y llew yn chwyn medden nhw, ond welis i'm byd mor dlws".
Gwir y gair. Dim ond planhigyn yn y lle anghywir ydi chwyn wedi'r cwbl, ac mae rhai ohonynt gystal bob tamaid a blodau gardd am edrych yn ddel a denu pryfaid ac adar aballu.



Mi fues i'n crwydro efo'r Fechan rownd y rhandiroedd sy'n segur, a rhyfeddu faint o blanhigion gwyllt sy'n tyfu. Bron yn sicr -o gofio natur corslyd y safle gynt- wedi dod i mewn efo'r topsoil a gafodd y gymdeithas randiroedd am ddim. Ac efallai o'r compost a gafwyd gan y cyngor sir, o'u cynllun compostio gwastraff gardd nhw.




Yn y llun yma mae eithin, melyn yr hwyr, ac aelod o deulu troed yr wydd. Mae degau o blanhigion eraill -sydd ddim i fod yno- hefyd.



Ond y brif broblem ar fy mhlot i ydi glaswellt. Poen tin go iawn. Byswn i angen cadw staff i'w reoli'n iawn!


Miloedd o'r rhain i'w codi...










Mi es i 'nol i'r rhandir ar fy mhen fy hun ddoe (Sadwrn) i chwynnu rhywfaint, gan fod y genod i gyd wedi mynd i Bwllheli am y diwrnod a chael rhyddid i wrando ar albym Dolig Michael Bublé faint fynnon nhw ar y ffordd yn y car! "Dad; ti'n Bah Hymbyg go iawn..."  Wel, dim ond dechrau Tachwedd ydi hi'n de... dwi ddim isio clywed carolau am fis arall diolch yn fawr!


Ta waeth, mi ges i deirawr dda yn yr haul yn chwynnu a chlirio, a rhoi trwch o gompost newydd wrth fonion y marchysgall (globe artichokes), i'w gwarchod rhywfaint rhag amodau'r gaeaf ar y mynydd.
 
Maen nhw wedi magu tyfiant newydd da, ac os gallaf eu meithrin nhw trwy'r hirlwm, dwi'n gobeithio cael cnwd y flwyddyn nesa'.


Erbyn dau o'r gloch, a finna bron a llwgu, a'r rygbi'n galw, daeth cawod drom o law trwy'r haul, ac wrth imi fochel dan y gronglwyd newydd, llwyddais i ddal llun o'r enfys ddwbl yma ar y ffôn: bydd Roger Tap yn tyllu am bot o aur ar ei blot o rwan...





Dyma hi’r gronglwyd, efo’r tanc dŵr, a sylfaen ar gyfer y cwt y soniais amdano o’r blaen.  Dwi’n ofni fod gwaelod y tanc yn rhy isel, ac na fydd modd rhoi jwg o dan y tap... gawn ni weld.


Un joban fach arall yn y glaw, ac adra a fi erbyn canol yr hanner gynta, a Chymru ar y blaen...

Gêm ddifrifol o sâl oedd hi yn y diwedd yn'de; bysa'n waeth imi fod wedi aros allan yn y glaw ddim.



4 comments:

  1. How ar iw, Wilias?

    Gwd picjyr of ddy rhandir wudd ddi old wenwasg yp abyf ut un ddy sgai.

    Ffor cwesdiyns ffor iw twneit, Wilias:

    1. Wer us ddy rhandir?

    2. Us ut ddi Oakley cwaris ai can si un ddy dusdans?

    3. Dud iw gro ddy marchysgall ffrom siid? Ar iw planun on iting ut, or us ut piwrli decoreshional?

    4. Us Roger Tap ddy local plymyr?

    Ofyr and owt,

    Robot.

    ReplyDelete
    Replies
    1. 1. Ar y gors fach, rhwng Ysgol Glanypwll a'r hen ladd-dy.
      2. Ia, toman fawr yr Oclis sydd yn y llun.
      3. Na, prynu planhigion: 'plug-plants' bach. Camgymeriad drud, ond gobeithio y bydden nhw'n talu am eu lle yn y pendraw. Gweler 'Cacwn yn y ffa', 21 Awst os oes gen' ti ddiddordeb yn yr hanes. Eu bwyta ydi'r bwriad, ond dwi'n derbyn mai planhigyn o'r Med ydio ac efallai na chai fyth ffrwyth arnynt!
      4. Y Tap ydi'r enw lleol am Y King's Head, tafarn agosaf y rhandir. Roger ydi'r landlord; mae ganddo blot yng nghefn y llun.

      Delete
  2. Thanciw, Wilias. Diolch yn fawr. Iw'l nefyr ges hw gef mi e tincyl on ddi old 'dog and bone' ddus mornun.

    ReplyDelete
    Replies
    1. 'Mbo...Roger Tap? Roeddwn i rhwng dau feddwl os oeddat ti'n gwbod pwy oedd o... "local plymyr" -da iawn.
      Os nad Roger: Manon Steffan Ros e'lla? Nace...dim Michael Buble, erioed!!
      Diolch fel bob tro am godi gwen, Robot. Hwyl am y tro.

      Delete

Diolch am eich sylwadau