Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.6.12

Penblwydd y Pobydd!

Wedi gwneud cerdyn i'r pobydd efo'r llun yma...  rhamantus 'de!




Dail hud-a-lledrith mae'r plant wedi galw mantell y forwyn erioed, oherwydd gallu rhyfeddol y planhigyn i ddal diferion glaw ymysg y blew bach ar wyneb y dail.
Ar yr achlysur yma, roedd diferion wedi cronni i ganol y ddeilen hon, ac wedi ffurfio siap calon. Cyfleus iawn.

Mi fu'r Arlunydd -y ferch hynaf- yn pobi dwy gacen benblwydd; un efo hufen a mefus, a'r llall efo eisin menyn siocled. Blasus iawn.


Wedi bod yn hel yr olaf (gobeithio) o'r larfau llifbryfed oddi ar y coed gwsberins heno. Creaduriaid hardd, ond dwi'n hunanol iawn pan mae'n fater o gwsberins! Edrych ymlaen am ychydig o ffrwyth eleni, ar ol dwy neu dair blynedd hesb.



2 comments:

  1. Newydd ddarllen dy flog am y tro cynta'. Ddoi nôl! Dal ati efo fo. Diolch.

    ReplyDelete
  2. Diolch yn fawr Annest. Mae derbyn sylwadau yn ysgogi rhywun i ddal ati.
    Ychydig o haul fyddai'n dda rwan, er mwyn cael mynd allan i gael rhywbeth i sgwennu amdano!

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau