Trwy gyd-ddigwyddiad, dwi wedi
prynu llyfr ‘A taste of the unexpected’, gan Mark Diacono, yn gynharach eleni. Prif neges y
llyfr ydi bod bywyd yn rhy fyr i dyfu bwydydd cyffredin. Mae o’n annog y
darllenwyr i dyfu amrywiaeth o blanhigion diarth, ac un o’r rheiny ydi’r hyn
mae o’n alw’n ‘autumn olive’, sef llwyni Eleagnus. Mae’r aeron cochion sy’n
dilyn y blodau yn llawn o fitaminau mae’n debyg.
Cawn weld os wnan nhw ddatblygu ac aeddfedu yma yn y mynyddoedd.
Cawn weld os wnan nhw ddatblygu ac aeddfedu yma yn y mynyddoedd.
Mae’r aeron ar yr hefinwydden (Amelanchier), a gyfeiriais atynt fis yn ol, yn dod yn eu blaenau’n dda. Dyma edrych ymlaen at haf ffrwythlon.
Dan ddylanwad llyfr Diacono prynais i'r Oca y soniais amdano ddeufis yn ôl hefyd, ac maen nhw'n barod i'w priddo -fel tatws- rŵan.
Dwi hefyd wedi prynu dau blanhigyn y mae o'n eu galw blue honeysuckle. Mae angen dau wahanol fath er mwyn peillio'n llwyddianus medda fo. Gwyddfid Siberia (Lonicera kamtchatka) a gwyddfid glas (L.caerulea) ges i. Efo cefndir yn Siberia siawns na fydden nhw'n gwneud yn iawn yn oerfel Stiniog, efo'r blodau yn medru tyfu pan mae'n 7 gradd o dan y rhewbwynt! Trwy gymryd toriadau yn syth, dwi wedi cynyddu'r nifer i bedwar planhigyn, ac yn edrych ymlaen i gael ffrwythau glas cynnar y flwyddyn nesa.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau