Wedi manteisio'n llawn ar y diwrnod sych ddoe i orffen llenwi'r gwelyau newydd. Roedd gweddill y tylwyth wedi mynd i'r Port i wario, felly roedd gen i benrhyddid i wneud fel y mynnwn. Eistedd ar fy
nhîn efo papur newydd a phaned fysa wedi plesio fwyaf, ond roedd y cydwybod yn pigo, felly cerdded draw i'r rhandir wnes i, efo rhaw a bwced yn llawn twls.
O'r diwedd, mae gen' i le call i blannu rhywbeth! Mi fues i'n hel cerrig
mân i'w rhoi o amgylch rhannau isaf y pibelli draen hefyd, ac yn cario llechi mwy er mwyn ceisio creu (pan ga'i gyfle) llwybrau ac ardaloedd sych i weithio arnynt. Mae wedi bod ychydig yn ddigalon gweithio mewn mwd, a cheisio gwthio berfa ar dir mor feddal.
Mae yna dwmpath o bridd yn dal ar
ôl, a dwi am wasgaru hwn yn rhan ucha'r llun gynta', a gwneud gwely uwch, ond heb ymylon o goed.
Pridd sâl uffernol ydi o: y gymdeithas randiroedd wedi ei gael i mewn
i'w rannu rhwng y deiliaid, ond mae o'n gleiog ofnadwy, sydd ddim yn ddelfrydol
pan mae'r ddaear yn dal gormod o ddŵr yn barod! Maen nhw wedi cael compost gan y cyngor sir hefyd, o'u cynllun ailgylchu gwastraff bwyd a gardd. Mae hwn i'w weld yn stwff da, ond tydi'r hyn a gefais i heb fynd yn bell iawn. Mi ges i ddwy sach o gachu ceffyl hefyd, ond ei fod braidd yn ffresh, felly wedi rhoi'r rhan fwya ohono yn y gwely lle dwi am blannu ffa.
Hanner y rhandir sydd i'w weld yn y lluniau yma. Dyma'r hanner y byddai'n
canolbwyntio arno eleni, mae'r gweddill yn ddigalon o wlyb, hyd yn oed
ar
ôl cyfnod cymharol sych...
Roeddwn wedi disgwyl gorfod buddsoddi oriau yn sefydlu'r lle cyn cael rhandir cynhyrchiol, ond 'rargian, dwi'n edrych ymlaen at yr haf -daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir...
Mae hi'n tywallt y glaw y bore 'ma, a'r gwynt yn ei yrru o'r dwyrain oer. Bydd yn rhaid i'r coed mafon aballu aros tan nos Fawrth neu ddydd Mercher felly, cyn y gallaf blannu dim.
Diwrnod yn y
tŷ amdani heddiw felly. Dwi wedi cael rhestr o jobsys hollbwysig i 'ngadw i'n brysur...y Pobydd isio imi osod bachau dal llenni yn y gegin; yr Arlunydd a'r Pry' Llyfr isio silff cornel bob un; a'r Fechan isio hongian addurniadau calon dros ddrws ei llofft. S'nam llonydd i'w gael!
Fedra'i ddim cwyno, mae'r diwrnod wedi cychwyn yn dda gan fod y Pobydd wedi gwneud crempogau bach (drop sgons) i frecwas. Rwan, lle mae'r baned a'r papur newydd 'na...