> cardbord
> dwr
> hops
> gwellt
> deilbridd
> tail
Offer:
> styllod pren 8" x 2"
> rhaw a morthwyl a hoelion a ballu
1. Tynnwch y gorchudd sydd wedi bod ar lawr i ladd rhywfaint o'r glaswellt ers Ionawr. Dim angen tyllu a phalu. Dim ond troi y tywyrch ben i lawr, a lefelu'r ardal yn fras iawn.
2. Rhowch haen ddwbl o gardbord gwlyb ar lawr i ladd y glaswellt a'r chwyn, yna adeiladu'r gwely pren. Os allwch chi gysgu'n dawel wedi joban rywsut-rhywsut, peidiwch a thrafferthu efo spirit-lefal a tha^p mesur ac ati: rhywle i dyfu llysiau ydi o, nid celf.
Wedyn taenwch hops ar ben y cardbord. Ar ol cyrraedd adra bydd angen perswadio'ch partnar na fuoch chi yn y dafarn trwy'r pnawn oherwydd yr ogla cwrw mawr.
3. Rhowch haen o leiaf dwy fodfedd o wellt dros bopeth, yna'i wlychu'n dda.
4. Ar ben y gwellt, mae haen o gachu ceffyl yn mynd, neu os ydych chi'n fwy posh na fi, gallwch chi roi tail ceffyl os liciwch chi...
5. Wedyn, ychwanegwch drwch o ddeilbridd neu gompost.
6. Gweinwch efo tatws. Wedyn ail gwrs o ddail salad neu frocoli piws.
Mae'n edrych yn wych! Y gwely lasagne mwyaf cymhleth weles i erioed. Tybed faint o amser gymrith i bydru? Mae rhai syml (carbord a gwair glas newydd ei ladd) angen tri mis dros y gaeaf. Dim rhew yma ar arfordir Asturias, wrth gwrs.
ReplyDeleteChdi dynnodd fy sylw at y dull lasagne gynta, ac mae wedi cymryd dwy flynadd i mi ei drio! Dwi'n gobeithio y bydd yn setlo'n weddol gyflym er mwyn ychwanegu pridd a deilbridd am ei ben o eto. Dwi wedi rhoi tatws ynddo eisioes a gan bod rhai yn tyfu tatws dan wellt, heb bridd, dwi'n gobeithio y bydd y cyfuniad yma yn talu nol am yr ymdrech ychwanegol. Amser a ddengys!
Delete