Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

11.12.21

Dros Gadair Idris Gwedy

Erthygl gen' i a ymddangosodd yn wreiddiol ym mwletin Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Fel rheolwr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, mae gen i gyfrifoldeb dros warchod rhywogaethau a chynefinoedd y mynydd arbennig hwnnw, ond yn fy ll’gada i, mae gwarchod treftadaeth yn estyniad cwbl naturiol o hynny. Gall gyfrannu at nod fy nghyflogwr, Cyfoeth Naturiol Cymru o reolaeth cynaliadwy ym mhob agwedd o’n gwaith.

Un elfen o hynny sydd o ddiddordeb i mi erioed ydi enwau llefydd, felly pan ddechreuais i yn y swydd, ugain mlynedd yn ôl, roedd Wood’s Corner; Cascades; Pencoed Pillar yn boenus i’w clywed a’u gweld. O ‘mhrofiad i ar y safle, rhai o’r canolfannau gweithgareddau agored ac ambell unigolyn oedd yn defnyddio’r cyntaf o’r enwau newydd yma, a chredaf mae dringwyr oedd wedi bathu’r olaf -ac mae hwnnw’n ymddangos ers tro mewn llawlyfrau dringo.

Yr Arolwg Ordnans sy’n (anuniongyrchol) gyfrifol am y canol o be’ wela’ i. Label oedd y gair cascades ar y map, dwi’n tybio, i ddangos bod ffrydiau a mân-raeadrau ar y llethr hwnnw. Yn anffodus, mae rhai wedi mabwysiadu’r label fel enw ar y fangre.

Mae’n wir bod mynyddoedd de Eryri wedi denu llai o sylw ar y cyfan na’r cyrchfannau mwy poblogaidd yn y gogledd, o ran bathu enwau newydd, ond roeddwn yn sicr fod hen enwau Cymraeg wedi bod ar y tri lleoliad uchod ar Gadair Idris. Felly, yn gynnar ar ôl i mi gychwyn gweithio yno, mi holais gymydog - y diweddar Mr Tom Nutting, Cwmrhwyddfor- a fyddai o’n fodlon eistedd i lawr ac edrych ar fap a lluniau efo mi.

Dros banad yn fuan wedyn, mi fuon ni’n trafod y traddodiad o hel defaid o’r mynydd, a’r llwybrau oedd bugeiliaid a gweision y gwahanol ffermydd yn ddilyn; bu’n adrodd rhai o chwedlau’r mynydd wrth reswm; ac mi ges i hanesion difyr a gwybodaeth werthfawr am bob math o destunau ganddo.

Ond roeddwn fwyaf balch y bore hwnnw o’i frwdfrydedd wrth iddo rannu rhai o enwau ei gynefin o. Onid ydi Banc Foty; Waun Bistyll; a Thŵr Maen yn well, yn hyfrytach, ac yn fwy addas na’r tri cyntaf?

 

Un o fanteision byw mewn ardal lawog ydi’r esgus i aros dan do yn achlysurol er mwyn ymchwilio pwnc a dilyn diddordebau, ac ar un o’r dyddiau hynny dros y gaeaf mi fûm yn chwilota ar wefan ardderchog Enwau Lleoedd Hanesyddol y Comisiwn Henebion. Roeddwn yn synnu braidd i weld yr ‘enw’ Cascades yn cael lle, ac mi es i ati i roi rhai o enwau Gwarchodfa Cadair Idris ar lun oeddwn wedi’i dynnu yn gynharach. Mi ddenodd y llun hwnnw gryn ymateb wedi i mi ei rannu ar Twitter ddiwedd Ionawr, a phob clod i’r Comisiwn, mi aethon nhw ati’n syth i ychwanegu nifer o’r enwau oedd ar y llun hwnnw i’r wefan, Waun Bistyll yn eu mysg, gan nodi ‘Mae'n debyg bod yr enw hwn yn sylweddol hŷn na'r enw Saesneg’.

Un enw nad ydw i’n sicr ohono ar Gadair Idris ydi Clogwyn Du ac mae ‘nghydwybod yn fy ngyrru i roi nodyn o rybudd efo hwnnw. Mi welais yr enw mewn gohebiaeth rhwng y naturiaethwr Edward Llwyd a gŵr lleol oedd yn casglu planhigion i’w gyrru ato ar droad y ddeunawfed ganrif. Mae Llwyd yn ei gyfeirio mewn un llythyr at gefn Cwm Cau i chwilota ar Glogwyn Du, ond nid yw’n amlwg yn union lle mae’r clogwyn hwnnw: fel awgrymir yn yr enw Cau, mae’r cwm bron wedi’i amgylchynu gan glogwyni! Serch hynny, y mae clogwyn yng nghefn y cwm, sydd a’i greigiau yn dywyll oherwydd lleithder parhaol; mae’n ardal sydd hefyd - yn wahanol i nifer o glogwyni eraill y cwm - yn gyfoethog ei amrywiaeth o blanhigion mynyddig. Felly nes daw tystiolaeth ychwanegol i’r fei, dwi wedi rhoi yr enw Clogwyn Du ar y lleoliad hwnnw am rwan.

Mae gosod enwau ar ffotograff o’r tirlun yn ddull mor hawdd ac effeithiol o’u harddangos. Dwi’n mawr obeithio cael cyfle i wneud mwy o enghreifftiau, ac yn eich annog chithau i fynd ati i holi aelodau’r teulu neu gymdogion a chwilota hen fapiau a dogfennau er mwyn gwneud yr un peth.

Lewys Glyn Cothi sydd pia’r pennawd gyda llaw. Un o’r cofnodion cynharaf o enw’r mynydd am wn i. Mi fyddai’n braf dilyn y sgwarnog hwnnw rywbryd hefyd... yn sicr mae digon o ddyddiau gwlyb addas yma yn ucheldir Meirionnydd! 

Paul Williams. Gwanwyn 2021

 

1 comment:

  1. Diolch iti Paul am fynd ati i gywiro rhai o'r enwau Saesneg uchod i enwau Cymraeg cynhenid. Mae'n hollbwysig sicrhau nad yw'r enwau a osodid ar y lleoliadau hyn gan ein cyndeidiau ganrifoedd yn ól yn diflannu. Maer'n ddyletswydd arnom i fynd ati i gywiro'r enwau seisnig a roddwyd ar yr hen enwau brodorol Cymraeg hynafol gan y goresgymwyr estronol.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau