Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

16.12.21

Teg edrych tuag adref

Mae llawer o son y dyddiau hyn am warchod enwau Cymraeg ar nodweddion yn ein tirlun, ac ar ffermydd a thai. Tân ar groen ydi gweld Nameless Cwm ar fap yn hytrach na Cwm Cneifion, ac mae gweld lol fel Happy Donkey Hill ar giât fferm ger Llandysul, yn hytrach na’r Faerdre Fach gwreiddiol yn ddigon i’m gwylltio’n gacwn! 

Mae digon hefyd, ysywaeth, o enghreifftiau ym Mro Ffestiniog.

Codi stêm mae ymgyrch Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru i godi ymwybyddiaeth am yr aflwydd yma, a chynllun ‘Diolgelwn’ Cymdeithas yr Iaith yn caniatau i berchennog tŷ gyfamodi i warchod yr enw am byth. Diolch amdanynt.

Ond oes gen’ i hawl i gwyno? Fysa’n well i mi sbïo adra, fel petai? ‘Da chi’n gweld: fe newidwyd enw ein tŷ ni ar ôl i ni ei brynu ychydig dros ugain mlwynedd yn ôl. Gadewch i mi egluro.

Enw’r tŷ oedd Brookland, ac roedd Leisa a finna’n gytûn fod angen rhoi enw newydd Cymraeg ar y tŷ, cyn i ni symud i mewn efo’n teulu bach. Roedd gan un ohonom syniadau mawreddog fel Sycharth, neu Llys Glyndŵr, neu rywbeth dwys, difrifol felly. Ar y llaw arall, ffafrio enw hwyliog, ysgafn, fel Tŷ Ni, neu Caban Cariad oedd y llall. Methwyd yn glir a chytuno! Nes inni eistedd efo’r twrna i gwblhau’r pryniant, a gweld hen weithredoedd oedd yn dangos mae ym 1934 y rhoddwyd yr enw Brookland ar y tŷ. 

Yr enw cyn hynny oedd Neigwl.

Cytunwyd yn y man, ac ar amrantiad, y byddwn yn adfer Neigwl fel enw ein cartref newydd. Ond pam Neigwl yn wreiddiol meddech chi? Wnaethom ni ddim pendroni rhyw lawer ar ystyr na tharddiad yr enw, hyd nes inni bigo plastar o waliau un o’r llofftydd, a thynnu’r pren sgertin. Tu ôl i’r pren oedd cerdyn post, yn amlwg wedi disgyn yno ryw dro, ddegawdau yn ôl. Cerdyn oedd o wedi ei yrru o Lerpwl ym 1906, a’i gyfeirio at Dora Jones yn Neigwl Plas, Botwnnog, Llŷn.  

 

Nid oedd ein tŷ wedi’i adeiladu pan gynhaliwyd cyfrifiad 1901, ond erbyn 1911 cofnodwyd y preswylwyr fel hyn: Lewis Evans, 34 oed -un a aned yn Lerpwl- oedd y penteulu. Rhoddwyd ei swydd fel ‘Surveyor, Urban District Council’. Ei wraig oedd Dora a aned yn sir Gaernarfon, roedd hi’n 31. Roedd yno fab deufis (Richard Lewis Evans) yn ogystal ag ymwelydd, Ellis C. Evans o Lerpwl (31; brawd Lewis mi dybiwn) a morwyn, Jenny Ann Parry, 21 o Stiniog.

Rydym yn dyfalu felly fod Dora Jones o Lŷn wedi priodi Lewis Evans ac ymgartrefu yn y Blaenau (gan ddod a’r cerdyn post efo hi ymysg ei heiddo) ac mae’n debygol iawn mae nhw roddodd yr enw Neigwl i’w cartref newydd bryd hynny.

Dwi'n deall gan gyfeillion nad Jones ydi enw perchnogion Neigwl Plas, Llŷn erbyn hyn, ac ni wn i ble yr aeth teulu Evans, Stiniog, ond roedd ambell berson lleol, pan brynson ni’r tŷ -fel (y diweddar erbyn hyn) Catherine Jones neu Cit Coparet- yn cofio’r tŷ fel Neigwl, ac yn cymeradwyo mabwysiadu’r hen enw eto. 

Mae Mrs Nita Thomas, Pengelli, yn cofio iddi gael ei henwi ar ôl Nita Neigwl, oedd yn ferch i swyddog blaenllaw efo Cyngor Dinesig Stiniog, a hwnnw’n gyfaill i’w thad, yn y tridegau (ac yn meddwl siwr taw Evans oedd eu cyfenw). Efallai y gawn ni gadarnhau y flwyddyn nesa, pan gyhoeddir fanylion cyfrifiad 1921, os oedd Nita Neigwl yn chwaer fach i’r baban deufis uchod...

Yn y cyfamser, mae’n foddhaol iawn cael rhoi darnau’r jigsô at eu gilydd, a dwi’n gobeithio bod yr uchod yn mynd rhywfaint o leiaf, tuag at gyfiawnhau ei bod yn iawn -weithiau- i ail-enwi tŷ!
- - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog (rh.30, 2021).

Ar gael yn lleol am £4, neu drwy'r post am £6 gan Gareth; hanes.stiniog[AT]gmail.com


 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau