Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

2.9.21

Dringhedydd

Rhyngthoch chi a fi, nid clematis ydi fy hoff blanhigion yn y byd. Taswn i'n cael ffordd fy hun, kiwis bach fyswn i'n eu tyfu yn eu lle nhw (hardy kiwi, Actinidia).

Ond dwi ddim yn garddio ar fy mhen fy hun (a diolch am hynny: yn y rhannu mae'r pleser siwr iawn)  felly mae'n rhaid cyfaddawdu efo cynnwys yr ardd, fel ym mhob maes arall o fywyd!

Mae pedwar clematis yn tyfu yma, ac mae un ohonyn nhw yn wirioneddol wych pan mae ar ei gorau.

Ar y gronglwyd wrth ddrws cefn y tŷ mae Marjorie yn tyfu. A son am dyfu! Un o'r montanas ydi hon felly'n medru tyfu'n aruthrol o fawr. Heb docio go egr bob blwyddyn, mi fysa hon yn ymledu trwy erddi'r stryd gyfa, a thu hwnt. Yn ôl y llyfrau, clematis grŵp 1 ydi Marjorie, ond erbyn hyn, tydan ni'n talu dim sylw i'r 'rheolau' ar sut i docio'r 4 sydd yma, dim ond gwneud fel mynnon i gadw trefn!


Mae'r blodau yn lled-ddwbl ac felly yn da i ddim am ddenu pryfaid a gwenyn at baill a neithdar. Sy'n drueni braidd, gan fod miloedd o flodau ar Marj ym mis Mai a Mehefin. Yn llygad yr haul, mae'r blodau yn syfrdanol o hardd, felly mae hon yn haeddu ei lle.

Fel Marjorie, dwi wedi son ar y blog 'ma am Madame Julia Correvon unwaith o'r blaen. Dyma'r ail glematis: un o'r viticellas y tro hwn (grŵp 3) ac mae hon yn hardd iawn hefyd chwarae teg. Y clematis yma sy'n bennaf gyfrifol ein bod yn anwybyddu'r rheolau tocio, am ei bod hi'n gyndyn iawn iawn i ddringo talcen y cwt os ydym yn torri'n ôl yn galed fel yr argymellir.

Na, mae hon wedi cael blynyddoedd heb docio caled erbyn hyn, ac yn mwynhau ei lle o'r diwedd. Gorffennaf a hanner cyntaf Awst ydi amser hon i ddisgleirio, wedyn mae'n tueddu i fagu chydig o lwydni ar y dail a'r petalau.

Yn wahanol i Marj, mae'r cacwn a'r gwenyn a'r pryfed hofran yn medru cyrraedd y paill a'r neithdar ym mlodau hon, ac mae hynny'n plesio!

 

Enw merch sydd gan y drydedd clematis hefyd: Mrs Cholmondeley, sydd yn hybrid efo blodau mawr glas golau. Does yr un o'r ddau ohonom ni'n arbennig o hoff o flodau mawr ffansi, ond mae lliw hyfryd ar flodau hon, ac roedd hi'n rhad iawn yn un o archfarchnadoedd yr ardal. 

 


Mae hon yn tyfu ar fwa dur a wnaed i ni gan y gof lleol, dros lwybr wrth y cwt coed tân, ac yn blodeuo ddwy waith, gan roi tymor gweddol hir o flodau. Ond nodwedd mwyaf deniadol hon -i mi- ydi'r pennau hadau trawiadol.


Yr olaf o'r clematis sydd acw, ydi'r mwyaf newydd hefyd. Clematis x triternata Rubromarginata.

Yn blodeuo'n hwyr, efo blodau mân, plannwyd hon i un ochr o'r gronglwyd, i gyd-dyfu (efo gwyddfid) trwy'r Clematis Marjorie, ar ôl i honno orffen bob blwyddyn. Yma ers dechrau haf eleni, dim ond dwylath mae hi wedi tyfu hyd yma, ond mi fyddwn yn plethu'r tyfiant bob blwyddyn ar hyd blaen y ffrâm.  Agorodd y blodyn cyntaf ar y 12fed o Awst, ac mae'n dal i flodeuo heddiw.


 Dwi wrth fy modd efo'r dail a'r blodau bychain, ond amser a ddengys a fydd hi'n haeddu ei lle yn barhaol yma. 



[Mwy am Marj]







2 comments:

  1. Beth bynnag wnei di, paid á phlannu Montana Reubens (neu milltir y funud) yn ól rhai, neu mi fydd wedi tyfu dan lechi'r to acw, er ei fod yn dý uchel! Mi ges i gnwd reit dda o dan to sinc yn gareg yma ychydig flynydoedd yn ól, cyn imi gael gwared ohono. Gyda llaw, wyddost ti am rywun sy' eisiau coeden camellia tua deg oed, yn rhad ac am ddim?

    ReplyDelete
    Replies
    1. 'sa raid i chi nhalu i i gymryd camellia!

      Delete

Diolch am eich sylwadau