Mi gaiff yr eirin fynd y chwythu!
A dyna'n llythrennol y maen nhw wedi'i wneud: wedi chwyddo a chwalu yn y glaw wythnos dwytha.
Erbyn hyn maen nhw'n berwi efo gwenyn meirch blin, ac yn ddi-werth!
Felly dyna ni, ar ôl optimistiaeth ffôl yr haf, does yna ddim eirin eto eleni. Mae'r goeden yma wedi bod yn y last chance saloon ers blynyddoedd... dwi wedi ei bygwth efo'r lli' gadwyn sawl tro, ond beryg mae rhoi 'un cyfle arall' iddi hi y gwnawn eto.
Dyma ddolen at gân o'r gorffennol, gan Eirin Peryglus, oedd yn ddim byd ond pennawd cyfleus yn yr achos yma. Mwynhewch!
Ddim wedi cael llawar o hwyl efo eirin yn fyma chwaith ond efo cwpl o goed newydd mewn lle cysgodol felly croesi bysadd am y dyfodol. Diolch am rannu'r gân!
ReplyDeletePob lwc; dwi wedi croesi 'mysedd yma ers 9 neu ddeg mlynedd!
DeleteDa oedd Eirin Peryglus. Dyddiau da
Da ni'n gobeithio rhyddhau rhan fwyaf o records/CDs Eirin Peryglus ar Spotify a ballu cyn ddiwedd y flwyddyn.
DeleteGwych! Sori, mae'r sylwadau'n ymddangos yn ddi-enw; Gorwel ia? Sut aeth hi efo'r twnal?
DeleteIa, Gorwel. Sori, dwi'm yn dallt pam bod sylwadau'n ddi-enw. Mae'r twnal yn stori drist iawn. Wnaeth y croen dorri llynadd a wnes i benderfynu cael cwmni i roi croen newydd achos roeddwn i ddim isio cael grŵp at ei gilydd yng nghanol yn pandemic. Wnes i dalu deposit mis Ionawr ac yn dal i ddisgwyl! Gan fod i angen drysau newydd, penderfynai mynd am rai 'sliding' - debyg mae rhain sydd wedi arafu'r broses oherwydd diffyg partiau. Felly, dim ond ychydig iawn o dyfu toms/ciwcymbars eleni yn y conserfatori.
DeleteIesgob! Ers Ionawr; mae hynna'n ddiflas tydi. Gobeithio gei di ddatrys y peth yn fuan.
DeleteByswn i wrth fy modd efo digon o le i gael twnal. Deud y gwir, 'swn i wrth fy modd efo unrhyw dir gwasatad!
Ia, da ni'n lwcus iawn i fod efo lle gwastad ar gyfar twnal yma.
ReplyDelete