Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

23.8.21

Eirin Peryglus

Mi gaiff yr eirin fynd y chwythu!

A dyna'n llythrennol y maen nhw wedi'i wneud: wedi chwyddo a chwalu yn y glaw wythnos dwytha.



Erbyn hyn maen nhw'n berwi efo gwenyn meirch blin, ac yn ddi-werth!

Felly dyna ni, ar ôl optimistiaeth ffôl yr haf, does yna ddim eirin eto eleni. Mae'r goeden yma wedi bod yn y last chance saloon ers blynyddoedd... dwi wedi ei bygwth efo'r lli' gadwyn sawl tro, ond beryg mae rhoi 'un cyfle arall' iddi hi y gwnawn eto.

Dyma ddolen at gân o'r gorffennol, gan Eirin Peryglus, oedd yn ddim byd ond pennawd cyfleus yn yr achos yma. Mwynhewch!



7 comments:

  1. Ddim wedi cael llawar o hwyl efo eirin yn fyma chwaith ond efo cwpl o goed newydd mewn lle cysgodol felly croesi bysadd am y dyfodol. Diolch am rannu'r gân!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Pob lwc; dwi wedi croesi 'mysedd yma ers 9 neu ddeg mlynedd!
      Da oedd Eirin Peryglus. Dyddiau da

      Delete
    2. Da ni'n gobeithio rhyddhau rhan fwyaf o records/CDs Eirin Peryglus ar Spotify a ballu cyn ddiwedd y flwyddyn.

      Delete
    3. Gwych! Sori, mae'r sylwadau'n ymddangos yn ddi-enw; Gorwel ia? Sut aeth hi efo'r twnal?

      Delete
    4. Ia, Gorwel. Sori, dwi'm yn dallt pam bod sylwadau'n ddi-enw. Mae'r twnal yn stori drist iawn. Wnaeth y croen dorri llynadd a wnes i benderfynu cael cwmni i roi croen newydd achos roeddwn i ddim isio cael grŵp at ei gilydd yng nghanol yn pandemic. Wnes i dalu deposit mis Ionawr ac yn dal i ddisgwyl! Gan fod i angen drysau newydd, penderfynai mynd am rai 'sliding' - debyg mae rhain sydd wedi arafu'r broses oherwydd diffyg partiau. Felly, dim ond ychydig iawn o dyfu toms/ciwcymbars eleni yn y conserfatori.

      Delete
    5. Iesgob! Ers Ionawr; mae hynna'n ddiflas tydi. Gobeithio gei di ddatrys y peth yn fuan.
      Byswn i wrth fy modd efo digon o le i gael twnal. Deud y gwir, 'swn i wrth fy modd efo unrhyw dir gwasatad!

      Delete
  2. Ia, da ni'n lwcus iawn i fod efo lle gwastad ar gyfar twnal yma.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau