Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

19.10.18

Cerdyn Post

Bedair awr ar hugain cyfa' ar ôl ffarwelio â'r Moelwynion dan awyr las hyfryd, mae'n anodd credu, ond dwi yn yr Ariannin.

Y Moelwynion o ffenast y llofft ar fore'r gadael

Ar ôl tair awr ar ddeg hir a diflas ar awyren, 'da ni yn Buenos Aires am wyth y bore, er i'r corff a'r ymennydd awgrymu'n gryf ei bod yn hanner dydd...

Wedi lluchio'r bagiau i hostel yn ardal ffasiynol San Telmo, 'da ni'n crwydro strydoedd hir, syth, o gerrig sets anwastad, nes cyrraedd bwrlwm prif sgwâr y brifddinas, Plaza de Mayo.

Casa Rosada: senedd-dy'r Ariannin
Adeilad gwyn trawiadol amgueddfa'r Cabildo a ddenodd sylw gynta' efo hanes chwyldro Mai 1810 a dechrau taith yr Ariannin i annibyniaeth. 

Roedd buarth y Cabildo'n arbennig o braf, ac mi ges eistedd am orig dan gysgod coeden yn drwm o orenau, a llwyni hardd Bougainvillea -Santa Rita maen nhw'n ei alw yma medd y ceidwad- yn diferu o flodau pinc dros ddrws a ffenest gyferbyn.


Wedi gadael yr hydref adra, rhaid atgoffa fy hun ei bod yn wanwyn yma yn hemisffer y de. Mae rhesi o goed ceirios yn blodeuo fel cymylau pinc candi-fflos Ffair Llan, ar lan y cei ger bont newydd modern, Puente de la Mujer i ardal o fwytai crand Puerto Madero.

Murluniau ym mhob man trwy'r ddinas. Ar y dde; Galería Solar

















Mae'r coed a'r llwyni ym Mharc Lezama yn llenwi efo dail newydd a blagur hefyd; yn torri bol isio ffrwydro i'w blwyddyn newydd. 'Dw inna' fel plentyn ar fore Dolig, yn dotio at amrywiaeth diarth y coed yno.

Ymysg eu canghennau, mae haid o parakeets gwyrdd yn cadw twrw, a'r brych torgoch, fel rhyw robin mawr, yn pigo trwy'r dail ar lawr heb sylwi na malio dim ar y bobl yn rhuthro heibio ar eu ffordd yn ôl i'w gwaith ar ôl cinio hir neu siesta, a
c ambell ymwelydd fel ni yn dilyn ein trwynau dow-dow.


Mae oriel gyntaf yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol yn ddifyr iawn, wrth adrodd hanes bobl frodorol y cyfandir, cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd. Ond llai diddorol i mi ydi hanes dylanwad yr Ewropeaid yma am ryw reswm.  Rhywfaint o ail-adrodd cynnwys y cabildo, a'r blinder yn dechrau dweud arna'i o bosib...

Bu'n ddiwrnod a hanner hir.

Ar ôl gwydrad neu ddau o gwrw artesanal da ar un o derasau uchel plaza bach Dorrego, mae gwely'r hostel yn galw: mi gaiff y Tango aros am y tro.






[Cerdyn post rhif un o'r Ariannin. PW 10-11 Hydref 2018]

5 comments:

  1. Adroddiad ddifyr a chytbwys am gyrhaeddiad Pôl a Lleucu'n Buenos Aires. Edrych 'mlaen am fwy o hanes eich teithiau'n nes ymlaen.

    ReplyDelete
  2. Yn dal mor ddfyr Paul. Profiad arbennig, yn sicr.

    ReplyDelete
  3. Difyr iawn eich adroddiad Paul. Dw i'n edrych ymlaen at y rhandaliad nesaf.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Norberto. Mae nifer o ddarnau eraill wedi dilyn, ond dwi heb gyrraedd Rawson eto..! Cofion cynnes atat. P

      Delete

Diolch am eich sylwadau