Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.8.17

Cowbois ac Impiaid

Wrth docio'r goeden afal Enlli sy'n tyfu fel espalier acw, mi darodd fi y gallwn i ddefnyddio ambell frigyn i greu coed afal Enlli newydd.

Bu'r Fechan yn tyfu coed afalau o hadau tua tair/pedair blynedd yn ôl. Mae un yn tyfu yma fel coeden fach 'step-over' ac ambell un wedi eu plannu'n ddistaw bach yn y dull 'guerilla' mewn llefydd eraill! Ond mae rhai o'r coed ifanc dal yma mewn potiau. Y peryg ydi y byddai'r rhain yn tyfu'n goed mawr, ac yn debygol o gynhyrchu afalau gwael.

Bonyn y goeden hâd, wedi'i dorri'n bîg.

Felly, er ei bod hi'r adeg anghywir o'r flwyddyn mwy na thebyg, dwi wedi trio impio pren afal Enlli ar fonion yr afalau hâd.

Impyn o frigyn afal Enlli. Torriad gwennol ar y dde i eistedd yn daclus ar bîg y bonyn.

Dwi heb drio impio dim byd erioed o'r blaen, ac am fod y syniad wedi dod i mi mwya' sydyn allan yn yr ardd, wnes i ddim mynd i chwilio am gyfarwyddiadau na chyngor. Dim ond bwrw iddi'n fyrbwyll a brysiog fel tân siafins. Nodweddiadol iawn ohona' i mae'n siwr...

Os ydyn nhw'n fethiant llwyr? Wel, dwi heb golli unrhyw beth o werth, a dim ond wedi treulio awr o fy mywyd yn yr haul yn gwneud y gwaith. Awr braf oedd hi hefyd.

Bonyn un goeden ac impiad o goeden arall wedi'u huno i greu coeden newydd sbon. Handi ydi clingffilm weithiau...

Job gowboi braidd!
Ond os bydd yn llwyddianus, byddaf yn sicr o frolio amdano'n fan hyn yn y dyfodol!




2 comments:

  1. Oes, mae 'n arhai yn dal i ddarllen y blog. Difyr iawn, fel arfer 'rhen hogyn! Ond be' ddigwyddodd i'r sbrigyn fala Enlli?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Methiant! Mi doddodd y 'glud' oeddwn wedi ddefnyddio i selio'r asiad yn haul poeth yr haf, o wnes i ddim sylwi fod yr impiad wedi datod. Da 'im byd felly!

      Delete

Diolch am eich sylwadau