Rhywbeth hollol wahanol sy'n gwneud i mi edrych ymlaen i gyrraedd adra heddiw.
Planhigyn ydi hwnnw.
Llwyn bocs y gaeaf. Sarcoccoca.
Mae'r llwyn yma wedi bod yn crafu byw wrth ddrws y tŷ gwydr yn y cefn, ers i ni ei brynu bedair blynedd yn ôl.
Prif bwrpas ei brynu oedd cael mwynhau'r persawr hyfryd mae'r blodau bach gwyn yn gynhyrchu yn Ionawr a Chwefror.
Syniad hurt oedd rhoi'r hen dlawd wrth ddrws y tŷ gwydr, oherwydd doedden ni byth yn mynd yno yn y gaeaf ac felly byth yn ogleuo'r blodau. Heblaw am hynny doedd o ddim yn hoff o'i le, a phrin wedi tyfu ers cael ei blannu.
Rwan, wedi'i drosglwyddo i bot mawr, a'i osod wrth ddrws ffrynt y tŷ, mae'n edrych yn iachach ac yn ffynnu. O'r herwydd, mae pawb sy'n cyrraedd acw yn cerdded trwy gwmwl o bersawr melys anhygoel.
Aeron a blodau ar bren bocs y gaeaf yr un pryd |
Yn Y Cymro wythnos yn ôl (10fed Chwefror), roedd Gerallt Pennant yn son am bwysicrwydd prynu collen ystwyth efo'ch trwyn.
Mae llwyni Hamamelis (witch hazel) -fel bocs y gaeaf- yn adnabyddus am flodau persawrus yn y gaeaf. Petae gen' i le acw, mi fyddwn yn prynu un heb os.
Rhaid bodloni am rwan, ar y Sarcoccoca, ac mae wedi talu ar ei ganfed i'w symud o'r cefn i flaen y tŷ, er nad pob planhigyn fysa'n diolch i ni am wneud hynny yn sicr...
Y pris 'dan ni'n dalu am gael gardd gefn braf, sy'n wynebu'r de ac yn suntrap chwilboeth (ar yr achlysuron prin hynny pan gawn ni weld yr haul yn Stiniog), ydi bod blaen y tŷ wrth reswm, felly, yn wynebu'r gogledd. Ychydig iawn o haul gaiff 'yr ardd' ffrynt, a hynny dim ond yn y bore. Lle oer, cysgodol ydi o weddill y dydd. Ond mae bocs y gaeaf yn ddigon bodlon mewn amodau felly.
Mae yna rywbeth yn wych am gael ogleuo blodau ganol gaeaf. Mae'n braf cael croeso adra.
Ti'n iawn, mae ogla gwych ar yr hen Sarococcoca, er bod y blodau yn fach a bron di-sylw. Mae un ni - yn yr ardd ffrynt ogleddol hefyd, yn gwneud mor dda; mae nhw'n blanhigion gwych!
ReplyDelete