Mi farwodd hard drive ein cyfrifiadur yn ddirybudd, gan fynd a lluniau a dogfennau a dolenni a chyfrineiriau efo fo. Dwi wedi llyncu mul braidd efo pethau digidol wedyn!
Ond dyma fi, efo gliniadur newydd ar fy nglin, yn mwydro eto. Druan ohonoch...
Cen map |
Ond fel'na ma' hi; a fel'na bydd hi hefyd; nes y gwna'i rwbath amdani, 'nde.
Penabyliaid a henna |
Am y tro cynta ers blynyddoedd mi es i ar un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd ddydd Sadwrn (fy nhad a ffrind oedd yn arwain) gan fwynhau sgwrsio'r aelodau a thrydar carlamus hyfryd ehedydd yn yr awyr las. Mi welis i wennoliaid cynta'r flwyddyn hefyd. Er bod arafwch y cerdded yn drysu 'mhen i ar adegau, mi gawson ni daith hyfryd iawn o safle Rhufeinig a Normanaidd Tomen y Mur, heibio Cynfal Fawr, cartref Huw a Morgan Llwyd o Wynedd, i lawr i Warchodfa Natur Genedlaethol Ceunant Cynfal, ac yn ôl heibio Bryn Saeth a Llech Ronw, gan glywed am gysylltiadau niferus yr ardal efo cainc Blodeuwedd yn y Mabinogi.
Mi ganith y ddwy yma gân Titanic yn rhywle... Llyn Morwynion, o ben Y Drum |
Mi ges i ddwyawr braf iawn bnawn Llun ar ôl y gwaith hefyd, yn crwydro ardal Beddau Gwyr Ardudwy a Llyn y Drum, efo dwy o'r genod. Dringo'r creigiau a dal penabyliaid, a chael y wefr o wylio ceiliog tinwen yn erlid carlwm rhwng y cerrig uwchben Merddwr Afon Gamallt a Rhyd yr Halen.
Wrth gwrs, roedd y tri ohono' ni'n rhy araf i ystyn am y camera neu'r ffôn i dynnu llun, ond bydd y cof am greaduriaid gwych mewn lleoliad hudolus yn fy nghynnal trwy'r dyddiau glwyb nes byddaf yn gorfod dychwelyd i ngwaith!
Da gweld y blog yn ol
ReplyDeleteDiolch Ann
Delete