Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

6.2.16

Lwc owt Medwyn Williams

Ar ôl hwyl cystadleuaeth blodyn haul y llynedd, cytunwyd i dyfu moron hir yn 2016.

Cafodd y ddau Daid a finna hadau yn y cracyr nadolig eto, ac mae hen edrych ymlaen am gystadlu brwd a hwyliog.

Er mwyn cadw trefn ar y Teidiau, ac i osgoi unrhyw alwadau am ymchwiliad cyhoeddus i'r canlyniad, bu'r Fechan a finna'n rhoi 'chydig o reolau ar bapur.


Dwi ddim yn disgwyl medru tyfu dim byd i safon Sioe Traws, heb son am safon medalau aur Medwyn Williams yn Chelsea, ond os gawn ni 'chydig o hwyl, dyna sydd bwysica' 'nde.

Be' am i chithau dyfu rhai o'ch moron chi yn ôl y rheolau yma hefyd, a gadael i ni wybod ar (neu ar ôl) y 3ydd o Fedi sut hwyl gawsoch chi....?

Hadau moron San Valerio ydyn nhw gan gwmni Franchi. Moron hir, mawr yn ôl y broliant ar y pacad, i'w hau rywbryd rhwng Mawrth a Gorffennaf, er mwyn cynaeafu o Fehefin hyd Dachwedd.

2 comments:

  1. Yn bendant yn edrych fel hwyl - a dan ni angen digon o hwyl yn y tywydd diflas yma! Yn fama, mae'r pry moron yn broblem, a felly yn aml dwi'n tyfu'r moron yn y ty gwydr, ac yn osgoi'r rhan fwya o'r pryfed. Ond llynedd, tyfais rhywfaint ty allan, wedi eu cuddio ymysg planhigion eraill a by rhai ohonyn nhw yn iawn, felly efallai wnaf rhoi gynnig eto………..
    Cofia postio'r canlyniadau!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Siwr o wneud! Dim trafferth hyd yma efo'r pry' moron diolch i'r drefn.

      Delete

Diolch am eich sylwadau